Dod ag Ynys Môn y 18fed ganrif yn fyw
Bydd dyddiaduron hynod ddifyr, sy’n cofnodi bywyd Ynys Môn yn y 18fed ganrif, yn dod yn fyw mewn cyfres o berfformiadau dramatig yng nghartref y dyddiadurwr.
Awdur y dyddiaduron, sydd yn cael eu cadw’n ddiogel yn Archif Prifysgol Bangor, ac sydd bellach wedi’u trawsgrifio ac ar gael i’w darllen a’u gweld ar-lein, oedd William Buckley a fu’n byw rhwng 1691-1760. Ysgwier Brynddu ydoedd, sef ystâd fechan yn Llanfechell, tafliad carreg o atomfa’r Wylfa: ond am fyd gwahanol sy’n cael ei ddarlunio yn ei ddyddiaduron, i gymharu â heddiw!
Bydd dau berfformiad o Diwrnod William Buckley yn dod ag uchafbwyntiau ei ddyddiaduron yn fyw; un perfformiad ar gyfer ysgolion ddydd Gwener 19 Medi ac un ar gyfer y cyhoedd ddydd Sadwrn 20 Medi. Bydd y perfformiad cyhoeddus ddydd Sadwrn yn cychwyn am 2.00 ym Mrynddu ei hun, ac yn cynnwys taith gerdded trwy gaeau am ryw 10 munud i wylio perfformiad yn Eglwys Llanfechell ac yna cyflwyniad yng Nghapel Libanus.
Mae’r perfformiadau dwyieithog, Mr Buckley o’r Brynddu yn cael ei llwyfannu gan Gwmni Pendraw, sydd wedi’i sefydlu i greu profiadau theatrig sy’n cyfuno themâu hanesyddol a gwyddonol.
Yr actor adnabyddus, Wyn Bowen Harries sy’n cyfarwyddo’r cynhyrchiad ac meddai:
“Mae bywyd William Buckley yn darllen fel opera sebon. Priododd ei ferch â môr-leidr, bu farw ei fab o alcoholiaeth, cafodd ei fam ei lladd gan ysgol yn syrthio ar ei phen cyn cael ei sathru gan wartheg! Fel sgweier ac Ustus Heddwch, mae ei ddyddiaduron yn rhoi darlun diddorol iawn o fywyd cefn gwlad Ynys Môn yn y 1700au”
“Byddwn yn cyflwyno uchafbwyntiau o’r dyddiaduron, gan gynnwys hanes ei deithiau i Iwerddon ynghyd â ffeiriau, ymladd ceiliogod, a sgandalau y llys ym Miwmares. Cofnodwyd nifer o ganeuon yn y dyddiaduron ac fe gynhwysir digonedd o gerddoriaeth yn y perfformiad gan Stephen Rees o Ysgol Cerddoriaeth y Brifysgol, sy’n arbenigwr ar gerddoriaeth gwerin y cyfnod.”
Yr hyn nad yw mor wahanol heddiw efallai yw’r tywydd! Mae’r dyddiaduron yn cofnodi’r tywydd dros gyfnod o dros 30 o flynyddoedd, gan gadw cofnodion amhrisiadwy o hinsawdd y dydd.
Mae’r cofnod unigryw bellach o ddiddordeb i wyddonwyr hinsawdd. Mae gwyddonwyr Consortiwm Newid Hinsawdd Cymru (C3W)yn astudio’r dyddiaduron er mwyn dysgu sut mae’r patrymau tywydd yn cymharu â’r tywydd a’r hinsawdd bresennol.
Bydd y cwmni’n falch o glywed gan unrhyw un sydd eisiau trefnu noson hwyliog rhwng Ionawr 27 a Chwefror 14.
Meddai Einion Thomas, Archifydd Prifysgol Bangor: “Mae’r digwyddiadau theatrig yn fodd gwych i ddathlu penllanw project diddorol sydd yn rhoi’r dyddiaduron ar ffurf sydd yn hawdd i unrhyw un bori drwyddynt. Maent yn hynod ddiddorol, heb son am fod ymysg y dystiolaeth ddogfennol bwysicaf sydd ar gael i'r sawl a fyn astudio hanes bywyd ar Ynys Môn yn y ddeunawfed ganrif. Rwy’n falch o’r cydweithredu sydd wedi bod rhwng yr Archifau, Llên Cymru, Cymdeithas Edward Llwyd a chwmni SueProof, sydd wedi rhoi’r dyddiaduron ar ffurf y gall bawb ei darllen.”
Noddir y perfformiadau gan Gyngor Môn, Cynllun Noson Allan, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cymdeithas Edward Llwyd/Llen Natur, Cronfa Sosioeconomaidd Magnox a Consortiwm Newid Hinsawdd Cymru.
Cysylltwch â Duncan Brown drwy e bost at duncanbrown3@btinternet.com am fanylion pellach.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Medi 2014