Dosbarth Meistr yn dod ag arbenigedd ynghyd i helpu Menter Gymdeithasol Leol
Mae wedi bod yn bleser mawr i'r tîm Byddwch Fentrus gynnig cyfres o 'Ddosbarthiadau Meistr' ar Ddechrau Busnes a Sgiliau Ymgynghori i fyfyrwyr a graddedigion Bangor. Arweiniwyd y rhain gan Chris Walker, Ymgynghorydd Busnes Rhyngwladol a Mentor a Hyfforddwr Dechrau Busnes i'r Rhaglen Cefnogi Menter, a gyllidir gan HEFCW. Yn ystod y rhaglen bum wythnos yn Chwefror a Mawrth mae'r rhai sydd wedi cymryd rhan ynddi wedi bod yn gweithio ar broject mewn timau bychain i ddatblygu sgiliau ymgynghorol ac ystod lawn o offer a sgiliau dechrau busnes, yn cynnwys e-fasnach a datblygu gwefannau ar gyfer cleientiaid go iawn. Mae’r pwyslais ar ddysgu trwy brofiad wrth gyflawni tasgau ac mae'n cynnwys senario go iawn a ddarperir drwy'r client - Greenhouse Cyf.
Menter gymdeithasol leol yw Greenhouse Cyf a sefydlwyd 30 mlynedd yn ôl i godi ymwybyddiaeth am faterion gwyrdd a newid hinsawdd. Am fwy o wybodaeth, ewch i’w gwefan: http://www.tygwydr.com
Nod y Dosbarthiadau Meistr yw amrywio eu gweithgareddau i gynnwys gwefan yn gwerthu nwyddau o werth gwirioneddol i'r amgylchedd. Yn deillio o'r dosbarth hwn cynhyrchir cynllun busnes a ffurflen gais am gyllid o £70k. Mae yna gyfle gwirioneddol i greu swyddi o fewn y grŵp - y bwriad yw y bydd unrhyw swydd a gaiff ei chreu o'r broses yn ceisio naill ai gyflogi neu is-gontractio rhai sydd eisoes yn gweithio ynddi.
Disgrifiwyd 'Greenhouse' fel y 'ganolfan rwydweithio ffurfiol gyntaf ym Mhrydain' ac fel NGO nad yw'n gwneud elw, mae ganddi'r ymddiriedaeth, y brand a'r DNA i gynnal gwefan o'r fath. Mae trafodaethau cynnar yn cael eu cynnal i gydweithio â'r Brifysgol i ddatblygu'r safonau a'r profion ansawdd gofynnol.
Denodd y dosbarthiadau meistr dros 50 o fyfyrwyr a graddedigion, yn bennaf o'r garfan ryngwladol.
Dywedodd Odoley Oddoye, sy'n astudio am MA mewn Busnes a Seicoleg Defnyddwyr ei bod yn 'sesiwn ddiddorol iawn ac roedd yn wych cael cyfle i weithio mewn maes y tu allan i 'arbenigedd' pwnc', a dywedodd Oluremi Oyinlola, myfyriwr ôl-radd mewn Addysg, bod 'y sesiwn yn un ymarferol iawn a roddodd wybodaeth ddefnyddiol i'r rhai a gymerodd ran am ymgynghori a dechrau busnes. Rydw i wedi elwa'n arbennig oddi wrth sesiwn heddiw drwy ddysgu y dylem ni nid yn unig chwilio am gwsmeriaid newydd ond hefyd gadarnhau ein cysylltiadau â'r hen rai.'
Cewch fudd o’r gwasanaethau y mae Byddwch Fentrus yn eu cynnig hyd yn oed os nad ydych eisiau bod yn hunangyflogedig. Am fwy o wybodaeth am hyn neu am ddarpariaethau menter eraill, cysylltwch â: Lowri Owen / Ceri Jones b-enterprising@bangor.ac.uk 01248 388424
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mawrth 2013