Dosbarthiadau ar-lein arloesol yn achubiaeth addysgol i blant gweithwyr allweddol
Mae rhaglen ddysgu ar-lein arloesol, a grëwyd gan academyddion fel rhan o ymchwil i effaith Covid-19 ar addysg, wedi bod yn achubiaeth addysgol i deulu o weithwyr allweddol.
Mae prif ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi recriwtio teuluoedd o bob rhan o Gymru a Lloegr ar gyfer yr astudiaeth, sy'n ystyried y ffordd orau o ddysgu plant o bell yn ystod cyfnodau hir o absenoldeb o'r ysgol.
Mae'r tîm, dan arweiniad Dr Manon Jones, uwch ddarlithydd ac ymchwilydd yn yr Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor, wedi cynllunio cwrs ar-lein wyth wythnos ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 a gyflwynir gan athrawon cymwys i fesur llwyddiant gwahanol ddulliau addysgu rhyngweithiol ar sgiliau darllen ac ysgrifennu plant.
Ymhlith y rhai sy'n cymryd rhan mae Katie Roberts, wyth oed, a'i brawd Lucas, 10 oed, o Dreffynnon, sy'n ddisgyblion yn Ysgol Bryn Garth yn Nhreffynnon gyda'u dau riant yn weithwyr allweddol.
Cyfaddefodd eu mam Bethan Roberts, ymarferydd seicoleg iechyd plant yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, fod y sesiynau wythnosol wedi bod yn achubiaeth addysgol i'w phlant, a oedd fel y rhan fwyaf o blant wedi cael trafferth addasu i ddysgu gartref yn ystod y cyfyngiadau symud.
“Mae fy ngŵr a finnau yn weithwyr allweddol. Roeddwn adref am dair wythnos yn ystod y cyfyngiadau symud gan fy mod rhwng swyddi ac yn gofalu am y dysgu gartref,” eglurodd Bethan, sy'n nyrs gymwysedig.
“Defnyddiais nifer o wahanol adnoddau ar-lein ond nid yw plant yn ymateb yn yr un ffordd ag y byddent yn yr ysgol.”
“Nid eu bod yn ddigywilydd, ond roedd yn anodd ceisio annog yr un parodrwydd ynddynt i ddysgu â phan maent yn cael eu dysgu gan rywun sydd ddim yn rhiant iddynt.
“Pan glywais am yr astudiaeth hon, roeddwn yn meddwl y byddai'n sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill. Mae Elena, eu hathrawes, wedi bod yn wych.
“Mae'n wych iddynt gael y cysylltiad hwn. Mae ei ffordd o ymwneud â'r plant, ei ffordd o adrodd straeon, mae popeth yn wych. Nid yw rhan ohonof eisiau iddo ddod i ben oherwydd bod Katie yn elwa gymaint o hyn.”
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi recriwtio 220 o blant ysgol yng Nghymru, Swydd Efrog, Bryste, a Dyfnaint i gwblhau'r cwrs, sy'n cynnwys dwy wers 45 munud yr wythnos.
Cynhelir y project mewn cydweithrediad â Chanolfan Dyslecsia Miles enwog y brifysgol - canolfan arbenigol o fri rhyngwladol sydd ar flaen y gad ym maes ymchwil dyslecsia yn y DU - a bydd yn archwilio effaith Covid-19 ar blant o bob gallu gan gynnwys y rhai â dyslecsia.
Lwyddodd y tîm i sicrhau cyllid gwerth bron i £128,000 o gynllun Covid-19 y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), sy'n cefnogi projectau sy'n asesu effaith gymdeithasol y pandemig, gan gystadlu yn erbyn cannoedd o ymgeiswyr eraill.
Credir mai hwn yw'r ymchwil cyntaf o'i fath i gael ei gynnal ers y cyfyngiadau symud a bydd yn helpu Llywodraeth Cymru i benderfynu ar y ffordd orau i gefnogi dysgu gartref yn y dyfodol.
Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cytuno i ariannu fersiwn Gymraeg o'r project, fydd yn cael ei ddatblygu a'i gyflwyno yn yr hydref, gan ategu addysgu yn yr ystafell ddosbarth. Cynhelir y project hwn mewn partneriaeth â sefydliad ysgolion Gogledd Cymru, GwE.
Mae'r gwersi yn canolbwyntio ar iaith a llythrennedd gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu ar-lein sy'n cynnwys addysgu un i un a rhywfaint o ddysgu annibynnol gyda phecynnau o wersi hwyliog a rhyngweithiol.
Mae ei gŵr Christopher hefyd yn weithiwr allweddol sy'n gweithio yn y diwydiant bwyd anifeiliaid. Dywedodd Bethan fod y cwrs wedi bod yn fuddiol iawn i'w phlant ar ôl iddi ddychwelyd i'r gwaith. Aeth ei phlant i ganolfan addysgol i blant gweithwyr allweddol yng Ngronant, Prestatyn, a oedd yn gwasanaethu pum ysgol wledig. Bydd eu mab yn dechrau ar y rhaglen cyn bo hir:
“Bydd Lucas yn gwneud y gwersi un i un yn fuan. Mae'n anoddach o lawer i ennyn ei ddiddordeb felly bydd yn ddiddorol gweld y gwahaniaeth. Mae'n mynd i mewn i Flwyddyn 6 ac rwy'n gwybod bod gennym bethau wedi'u cynllunio'n barod ar gyfer yr ysgol uwchradd ac rwy'n poeni am yr effaith y mae coronafeirws wedi'i chael ar ei ddysgu. Mae Katie yn mynd mewn i Flwyddyn 4 ac felly mae ganddi amser ychwanegol i ddal i fyny.
“Roedd y cyfyngiadau symud yn gyfnod hir iawn. Mae angen cael dewisiadau eraill mewn lle, naill ai cyfleusterau neu ddysgu ar-lein, rhag ofn. Mae hwn yn gyfle i'r plant ond mae hefyd yn faes ymchwil gwerth chweil a byddai'n rhoi mwy o dawelwch meddwl i mi pe bai cyfyngiadau symud yn y dyfodol.”
Mae Dr Jones, arbenigwr mewn darllen a dyslecsia, yn gweithio ochr yn ochr â'i chydweithwyr Dr. Cameron Downing, Dr Marketa Caravolas, a Dr Joshua Payne gyda chymorth y swyddog ymchwil, Caspar Wynne.
Gwneir yr ymchwil a'r addysgu gan naw cynorthwyydd ymchwil, sy'n israddedigion a myfyrwyr PhD yn y brifysgol ac wyth athro cymwys arall sy'n gysylltiedig â Chanolfan Dyslecsia Miles. Yn y cyfamser, mae'r athro arbenigol, Jo Dunton, cydlynydd yng Nghanolfan Dyslecsia Miles, wedi chwarae rhan hanfodol yn datblygu'r cwricwlwm.
“Mae'n her sylweddol i athrawon ar hyn o bryd,” eglurodd Dr Jones.
“Nid yw eistedd ochr yn ochr â disgybl a thynnu sylw at bethau - y dulliau dysgu rydym wedi eu cymryd yn ganiataol - bob amser yn bosibl ac mae’n rhaid i ni ei wneud o bell a dod o hyd i ffyrdd eraill o wneud pethau.”
“Mae'r project hwn yn gysylltiedig â'r ffordd orau o wneud hynny ond mae hefyd yn ymwneud â chynnal brwdfrydedd plant i ddysgu. Mae llythrennedd yn allweddol i ddysgu ac yn darparu llwybr at wybodaeth. Mae ymchwil yn dangos bod maint eich geirfa yn penderfynu pa mor dda y gallwch ddeall a dysgu wrth ddarllen, felly mae rhan fawr o'n rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu geirfa.”
Bydd ymchwilwyr yn cymharu cynnydd y rhai ar y rhaglen gyda grŵp rheoledig o blant nad ydynt wedi dilyn yr un rhaglen hyd yma. Bydd y grŵp hwn yn elwa o'r cwrs yn ddiweddarach yn yr hydref.
Mae cynorthwywyr ymchwil yn asesu cynnydd dysgu'r plant gan ddefnyddio profion iaith a llythrennedd arbenigol (megis ymwybyddiaeth o ffonem, gwybodaeth am lythrennau, gallu i ddarllen a sillafu) o'r batri MABEL, a ddatblygwyd gan un o gydweithwyr y project, Dr Markéta Caravolas o Ysgol Seicoleg Bangor.
“Roedd rhieni’n awyddus iawn i gymryd rhan. Gwnaeth rhai o'n ffrindiau yn Lloegr neidio at y siawns o gael athro proffesiynol i weithio gyda’u plentyn yn ystod y cyfyngiadau symud,” meddai Dr Jones. Roedd ei dau fab, Rhodri, wyth, ac Ifan, chwech, wedi ymuno â’r rhaglen a helpu i roi prawf ar y cwricwlwm.
“Mae gan lawer o rieni swyddi sy'n eu rhoi dan bwysau mawr ac mae'n rhaid iddynt eu gwneud gartref.”
Bydd yr ymchwil, a fydd yn arwain at ddatblygu gwefan newydd lle bydd yr adnoddau ar gael am ddim i athrawon, yn helpu Llywodraeth Cymru i baratoi athrawon pe bai ysgolion yn gorfod cau'n sydyn eto.
“Rwy’n credu y bydd newid i ddysgu ar-lein ar ôl hyn. Efallai y bydd yn rhaid i ysgolion gau eto os bydd ail don o'r feirws,” meddai Dr Jones.
“Mae yna blant hefyd sy'n gwrthod mynd i'r ysgol a phlant na allant oherwydd salwch cronig. Bydd ein methodoleg nid yn unig yn berthnasol i achosion o gau ysgol yn llawn ond hefyd i'r achosion prin hyn."
Dyddiad cyhoeddi: 27 Awst 2020