Dotio at Dot!
Mae fideo cerddoriaeth gan fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor yn prysur ddod i sylw’r byd; wrth ysgrifennu’r datganiad hwn mae dros 43,953 o bobl wedi gwylio 'Everybody Dances to Techno' gan Dot ar YouTube, ac mae'r sylwadau a'r negeseuon o gefnogaeth yn dod o bob cwr o'r byd.
Dyma ymateb Dot, y canwr a'r cyfansoddwr 18 oed o New Delhi, India i ddenu dilynwyr newydd ar YouTube: "Mae'n debyg nad oedd gen i syniad erioed pa mor fawr yw'r we mewn gwirionedd. Dw i wedi cael fy synnu gan yr ymateb dwi wedi ei gael dros y misoedd diwethaf a dw i'n falch fy mod i'n cael cyfle i rannu fy ngherddoriaeth efo pobl o bob rhan o'r wlad."
Eglura'r myfyriwr sydd ar ei flwyddyn gyntaf o gwrs Cerddoriaeth ac Ysgrifennu Creadigol: "Dw i wastad wedi mwynhau ysgrifennu. Roedd fy ysgol yn annog creadigrwydd a cherddoriaeth a dwi'n cofio canu llawer iawn o ganeuon poblogaidd gyda fy ffrindiau, ond fe ddechreuodd i fi pan ysgrifennais fy nghân gyntaf pan o'n i'n 13 oed. Byth ers hynny mae wedi bod yn broses ddi-baid o ysgrifennu, disgyn mewn cariad â'r cyfansoddiad newydd, ei chwarae droeon i bobl eraill, diflasu arno a mynd ati i sgwennu caneuon newydd. Rydw i wedi tyfu i mewn ac allan o wahanol arddulliau ond yr hyn dw i'n trio ei wneud amlaf ydi dod o hyd i ffyrdd diddorol o gyfuno barddoniaeth a sain. Dw i wrth fy modd yn chwarae efo sillafau a ffonemau mewn ffyrdd rhyfedd."
Dywedodd Pwyll ap Siôn, Athro Cyfansoddi yr Ysgol Cerddoriaeth: "Mae 'Everybody Dances to Techno' yn ddarn swynol, hiraethus sy'n dwyn i gof arddull y theatrau cerdd ac mae yn enghraifft wych o'r dalent a'r creadigrwydd gwych y mae Prifysgol Bangor yn llwyddo i'w ddenu ymhlith ein myfyrwyr cerddoriaeth. Mae'n dilyn yn ôl troed llwyddiant a phoblogrwydd cân Salvador Sobral o Bortiwgal yn yr Eurovision Song Contest eleni, oedd hefyd yn cyfeirio at arddull hŷn, 'clasurol' yn effeithiol iawn. Pa câi India, fel Awstralia, ei chynrychioli ar lwyfan yr Eurovision - a bod Dot yn ei chynrychioli - dw i'n siŵr y byddai'n ennill heb ddim trafferth!"
Wrth drafod dewis astudio ym Mhrifysgol Bangor, dywedodd Dot: "Roedd cwrs cerddoriaeth Bangor yn apelio'n arw oherwydd ei natur agored a phwyslais y brifysgol ar addysg gyflawn. Dw i'n meddwl fod gwneud Ysgrifennu Creadigol hefyd yn helpu i gyfoethogi fy ngherddoriaeth mewn ffordd na fyddai gradd gerddorol bur wedi llwyddo i'w wneud. Mae'r mynyddoedd a'r traethau hardd yn ddim ond eisin ar y gacen!"
Wrth sôn am Fangor, dywedodd: "Rydw i'n aelod gweithgar o Gymdeithas Cerddoriaeth Fyw Bangor (LIMUSOC) lle rydw i'n helpu i gynnal nosweithiau microffon agored yn y Belle Vue yn ogystal â chymryd rhan ynddyn nhw fy hun. Hefyd, ro'n i'n cynnal cylch drymio gyda rhywfaint o ffrindiau agos yn defnyddio llawer o offerynnau wedi eu gwneud o ddeunyddiau wedi eu hailgylchu megis cregyn a cherrig.
"Uchafbwynt fy mlwyddyn gyntaf ym Mangor yn bendant fyddai fy ffrindiau. Dydw i erioed wedi teimlo cymaint o groeso ac wedi cyfarfod â chymaint o bobl sydd â'r un diddordebau â fi. Rydw i hefyd wedi mwynhau mynd ar deithiau beic hir pan mae'r tywydd yn braf!"
Gobeithio Dot ar gyfer y dyfodol yw parhau i gigio ac ysgrifennu cerddoriaeth, ond hefyd astudio am radd Meistr.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mehefin 2017