Dr Edward Jones yn cyfarfod gwleidyddwyr Cymraeg
Yn ystod y mis diwethaf mae Dr Edward Jones wedi cael cyfle i gyfarfod â chynrychiolwyr o'r prif bleidiau gwleidyddol yng Nghymru i drafod materion economaidd, cymdeithasol a diwylliannol sydd o ddiddordeb neu o bryder i'r ardal leol ac i'r wlad yn gyffredinol.
Mae Dr Jones wedi cael cyfarfodydd ar wahân gyda Mr Rhun ap Iorwerth AC (Plaid Cymru) a Mr Albert Owen AS (Llafur) i drafod sialensiau economaidd a chymdeithasol cyfoes, a'r ffordd y gall ymchwil academaidd fod o gymorth i lunio polisi cyhoeddus yn effeithiol er mwyn arwain gwneud penderfyniadau clir i ddelio â'r materion hyn.
Fe'i gwahoddwyd hefyd gan Dr Kay Swinburne AES (Ceidwadwyr) i gymryd rhan mewn gweithgor i drafod trafodaethau cyfredol TTIP ar faterion masnachol. Yn dilyn hyn, cafodd gyfle i drafod â hi’r sialensiau y mae'r Undeb Ewropeaidd yn eu hwynebu ar hyn o bryd, a sut y gall y Deyrnas Unedig chwarae rhan allweddol mewn Ewrop gryfach.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2016