Dr Edward Jones yn trafod materion economaidd yng Nghymru ar BBC Cymru.
Yn ddiweddar rhoddodd Dr Edward Jones ddau gyfweliad i BBC Cymru ar faterion economaidd a chyllidol cyfredol.
Cafodd wahoddiad gan BBC Cymru i drafod y syniad a gynigiwyd gan yr Arglwydd Morris o Aberafan fod angen polisi economaidd penodol ar gyfer cefn gwlad Cymru. Gwnaethpwyd y cynnig hwn ar ôl i nifer o fanciau a swyddfeydd post gau mewn ardaloedd gwledig ac yn dilyn toriadau pellach gan Gynghorau sydd â'r mwyafrif o'u poblogaeth yn byw yng nghefn gwlad. Yn ystod ei gyfweliad siaradodd Dr Edward Jones am y duedd sy'n parhau i ganghennau banc gau yng Nghymru ac effaith hyn ar fusnesau lleol a'r economi.
Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru i gefnogi buddsoddiad £357m Aviva ym mhroject Cylch Rasio Cymru, holwyd Dr Edward Jones gan BBC Cymru am ei farn ar strwythur ariannol ac ymarferoldeb y fenter. Byddai datblygu'r trac rasio ceir arloesol yn Ne Cymru wedi creu 6,000 o swyddi hir dymor ynghyd â pharc busnes yn canolbwyntio ar geir i gefnogi gwaith Austin Martin a TVR yn yr ardal. Yn ystod y cyfweliad bu Dr Jones hefyd yn trafod teimladau buddsoddwyr presennol tuag at y sector hamdden a lletygarwch.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Ebrill 2016