Dr Rowan Williams: ‘R.S. Thomas, Christianity and Buddhism’
Bydd Dr Rowan Williams, Pennaeth Coleg Magdalene, Caer-grawnt a chyn-Archesgob Caer-gaint, yn ymweld â Phrifysgol Bangor ddydd Mercher 11 Rhagfyr i draddodi darlith ar ‘R.S. Thomas, Christianity and Buddhism’.
Caiff y ddarlith ei chynnal ym Mhrif Ddarlithfa’r Celfyddydau am 5:30pm, ac ni chodir tâl. Hon yw darlith flynyddol Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor, ac fe’i trefnwyd ar y cyd â Chanolfan Ymchwil R.S. Thomas.
Yr ydym yn nodi eleni ganmlwyddiant geni R.S. Thomas (1913–2000). Yr oedd Thomas, a gyfrifir yn un o feirdd mwyaf yr ugeinfed ganrif, yn gymeriad cymhleth: dyma ffigwr diwylliannol angerddol ei sêl dros yr iaith Gymraeg a’i diwylliant na allai farddoni ond yn ei iaith gyntaf, Saesneg. Gwasanaethodd am ryw ddeugain mlynedd fel offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru, ac eto nodweddir llawer o’i waith gan safbwyntiau crefyddol unigolyddol ac yn wir anuniongred.
Meddai Dr Jason Walford Davies, Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg ac un o Gyd-Gyfarwyddwyr Canolfan Ymchwil R.S. Thomas: ‘Pleser mawr yw medru croesawu Dr Rowan Williams i Fangor. Mae Dr Williams yn un o’n prif feddylwyr crefyddol, a hefyd wrth gwrs yn fardd nodedig ei hun. Mae’n anodd meddwl am ffigwr mwy cymwys o ran trafod gwaith bardd crefyddol modern mwyaf Cymru’
Dyddiad cyhoeddi: 2 Rhagfyr 2013