Dr. Suzannah Linton: ei Phenodi’n Athro Cyfraith Ryngwladol yn Ysgol y Gyfraith Bangor
Dr. Suzannah Linton yw Athro Cyfraith Ryngwladol yn Ysgol y Gyfraith Bangor ac mae’n arwain y tîm Cyfraith Ryngwladol. Ymunodd yn ddiweddar ag Ysgol y Gyfraith Bangor o Brifysgol Hong Kong ac mae’n dod â llawer o brofiad ymarferol ac academaidd ym maes Cyfraith Ryngwladol i Fangor. Mae’n ymchwilydd tra gweithgar, yn awdur toreithiog mewn cyfnodolion rhyngwladol a adolygir gan gyfoedion ac yn bartner mewn nifer o gynlluniau academaidd rhyngwladol pwysig. Ym Mangor bydd yr Athro Linton yn parhau i ddysgu Cyfraith Gyhoeddus Ryngwladol, a meysydd arbenigol ynddi, yn arbennig Cyfraith Droseddol Ryngwladol, Cyfraith Ryngwladol Gwrthdaro Arfog, a Chyfraith Ryngwladol Hawliau Dynol. Bydd hefyd yn dysgu cwrs amlddisgyblaeth a fydd yn ymdrin ag Etifeddiaeth Rhyfel a Gormes.
Mae mwy o wybodaeth am yr Athro Linton i’w chael isod.
Mae’r Athro Suzannah Linton yn arwain sefydlu pedair rhaglen LLM newydd yr Ysgol mewn Cyfraith Ryngwladol ac agenda ymchwil yr Ysgol ym maes Cyfraith Ryngwladol yn y dyfodol.
Mae gan yr Athro Linton ddiddordeb mawr yng ngallu Cyfraith Ryngwladol i gyfrannu at greu Rheolaeth Cyfraith yn rhyngwladol ac yn nes adref. Mae’n credu ym mhwysigrwydd addysg gyfreithiol sy’n ysgogi ac ysbrydoli, sy’n agor meddyliau ac ehangu gorwelion, yn ogystal â rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol i alluogi myfyrwyr i elwa i’r eithaf ar eu doniau a’u potensial. Dylid defnyddio’r gyfraith, yn cynnwys Cyfraith Ryngwladol, i greu a meithrin cymdeithasau mwy trugarog a thosturiol. Y themâu canolog yng ngwaith yr Athro Linton, yn ymarferol ac yn academaidd, yw Rheolaeth Cyfraith a Llywodraeth Dda. Mae wedi gweithio mewn amryw o wledydd gyda llysoedd, barnwyr a systemau cyfreithiol, yn aml yng nghyd-destun ailadeiladu a chymodi ar ôl gwrthdaro arfog neu newid trefn lywodraethu. Mae hyn wedi ysbrydoli llawer o’i hymchwil. Mae’r Athro Linton yn cyhoeddi’n rheolaidd ym maes rhwymedïau’n deillio o dorri Cyfraith Ryngwladol gan wladwriaethau ac unigolion, maes amlddisgyblaethol delio ag etifeddiaeth gwrthdaro arfog a gormes, a materion sylweddol mewn Cyfraith Gyhoeddus Ryngwladol, Cyfraith Ddyngarol Ryngwladol, Cyfraith Droseddol Ryngwladol a Chyfraith Hawliau Dynol Ryngwladol. Yr Athro Linton oedd un o’r awduron cyntaf i ysgrifennu’n helaeth am faterion cyfreithiol yn deillio o rôl y Cenhedloedd Unedig yn Nwyrain Timor ar ôl 1999, a’r llysoedd domestig a ddechreuodd ymddangos o amgylch y byd fel cyfryngau ar gyfer prosesu troseddau rhyngwladol yn y cyfnod 1999-2004. Ei hastudiaeth Reconciliation in Cambodia, a gyhoeddwyd yn 2004, oedd un o’r gweithiau cyntaf i ganolbwyntio ar bobl o Cambodia a oroesodd erchyllterau’r Khmer Rouge, ac i ddadlau y dylai eu safbwyntiau hwy gael eu cymryd i ystyriaeth wrth ddatblygu strategaeth genedlaethol gydlynol a chynhwysfawr ar gyfer adferiad cymdeithasol. Ysgrifennodd Yr Athro Linton yr astudiaeth gyfreithiol sylweddol gyntaf o drawsnewidiad anodd Indonesia i Reolaeth Cyfraith yn y Singapore Yearbook of International Law yn 2006. Yn 2010, cyhoeddodd yr astudiaeth gyntaf o Post Conflict Justice in Asia, gan ganolbwyntio ar 12 gwlad, o Afghanistan i Dde Corea, ac ymdrin â’r ffordd y gwnaethant ddelio ag etifeddiaeth gwrthdaro arfog neu ormes. Hefyd yn 2010 arloesodd yr Athro Linton gyda’r astudiaeth gyfreithiol sylweddol gyntaf o ddeddfwriaeth Bangladesh ar gyfer rhoi ar brawf rhai yr honnir oedd wedi cyflawni troseddau rhyngwladol yn ystod ei rhyfel dros annibyniaeth oddi wrth Bacistan yn 1971. Cyhoeddwyd yr astudiaeth hon yn y Criminal Law Forum.
Mae amryw o gyhoeddiadau’r Athro Linton wedi cael eu cyfieithu i wahanol ieithoedd ac mae dyfyniadau o’i gweithiau’n ymddangos mewn cyfnodolion blaenllaw ym maes cyfraith ryngwladol, llyfrau ysgolheigaidd, ymgyfreithio ac adroddiadau’r Cenhedloedd Unedig. Yn 2009, cafodd ei henwebu gan Gyfadran y Gyfraith ym Mhrifysgol Hong Kong i dderbyn Gwobr Ymchwilydd Nodedig y Brifysgol a Gwobr Goruchwyliwr Nodedig y Brifysgol (ar sail ei henwebu gan ei myfyrwyr PhD a SJD). Cafodd Wobr Ymchwil Cyfadran y Gyfraith yn 2009 am ei herthygl yn yr Human Rights Quarterly ar gymalau cadw i gytundebau hawliau dynol. Derbyniodd yr Athro Linton ei PhD gan Brifysgol Bryste ar sail cyhoeddiadau mewn Cyfraith Ryngwladol i gydnabod y cyfraniad gwreiddiol a sylweddol roedd wedi’i wneud trwy ei gwaith cyhoeddedig dros gyfnod o 10 mlynedd.
Mae gan yr Athro Linton gefndir cyfoethog o brofiad ymarferol o weithio gyda’r Cenhedloedd Unedig a sefydliadau rhyngwladol eraill, a chyda llysoedd a thribiwnlysoedd rhyngwladol ledled y byd. Er enghraifft, bu’n gweithio fel Clerc Barnwr yn y Tribiwnlys Troseddol Rhyngwladol yn yr hen Iwgoslafia, fel Swyddog Hawliau Dynol yn Bosnia-Herzegovina ar gyfer yr OSCE, fel Erlynydd yn y Panel Arbennig ar gyfer Troseddau Difrifol yn Nwyrain Timor, ac fel ymgynghorydd yn Swyddfa Uwch Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Hawliau Dynol yn Cambodia. Er 1999, mae ei gwaith wedi canolbwyntio ar Asia – mae wedi ymwneud yn arbennig â Cambodia, Dwyrain Timor, Indonesia, Bangladesh a Nepal. Bydd yn parhau â’r gwaith hwn o Fangor.
Cyn dod yn academydd, bu’r Athro Linton yn ymwneud â gwaith maes yn ystod rhai o brif argyfyngau rhyngwladol y blynyddoedd diwethaf; er enghraifft, y Balcanau a Dwyrain Timor. Bu’n defnyddio ei sgiliau’n helaeth hefyd i weithio ar drychinebau dynol a esgeuluswyd, fel y gwelir yn ei gwaith maes ac academaidd helaeth ar Ddwyrain Timor, Indonesia, Cambodia a Bangladesh. Mae ei chyhoeddiadau niferus yn aml yn ymdrin â pholisi gan geisio rhoi sylw rhyngwladol i sefyllfaoedd lle mae dioddefwyr wedi cael eu hanwybyddu a’u cam-drin, ceisio gwella prosesau cyfreithiol a barnwrol annigonol, a datrys materion cyfreithiol llawn her a chynhennus iawn yn aml. Mae hoffter mawr yr Athro Linton o brojectau cyfreithiol hanesyddol arloesol yn deillio o amryw o brofiadau ffurfiannol a bythgofiadwy. Er enghraifft, yn 1998 bu’n ddigon ffodus i gymryd rhan yng ngwaith y Swiss Claims Resolution Tribunal. Sefydlwyd y tribiwnlys hwn yn Zürich i ddelio â phroblem cyfrifon banc cwsg yn Y Swistir. Roedd llawer o gyfrifon mewn banciau yn y Swistir - rhai ohonynt yn cynnwys symiau sylweddol - heb gael eu cyffwrdd ers dyddiau’r Ail Ryfel Byd, yn dilyn gormes y Natsïaid ar yr Iddewon a sefydlu’r Llen Haearn a wahanodd Ewrop ar ôl y rhyfel. Tasg y tribiwnlys oedd penderfynu pwy oedd yn berchen y cyfrifon hyn. Bu’r Athro Linton yn gweithio ar y broses hanesyddol hon o ddychwelyd eu heiddo cyfreithlon i bobl ar ôl cymaint o amser. Yn ystod gwaith ymgynghorol gan Gomisiwn Gwirionedd a Chymod Dwyrain Timor o 2003-04, rhoddodd yr Athro Linton gyngor arbenigol ar Gyfraith Ryngwladol yn deillio o faterion yn ymwneud â dadgoloneiddio, ac yna goresgyn a meddiannu Dwyrain Timor o 1974-1999. Cafodd y fraint o weithio’n uniongyrchol ar ddogfennau llys gwreiddiol o’r cyfnod pan wnaeth Indonesia oresgyn a meddiannu’r diriogaeth, a gallodd astudio’n fanwl yr achosion llys gwleidyddol a ddeilliodd o gyflafan enbyd Santa Cruz yn Dili yn 1991. Gallodd yr Athro Linton hefyd archwilio a dadansoddi dogfennau gwreiddiol o eiddo byddin Indonesia yn ymwneud â’r gyflafan hon. Daeth y rhain i’r amlwg yn ystod helbulon 1999 wrth i Fyddin Indonesia adael Dwyrain Timor. Cafodd ei gwaith ar y rhain ei gynnwys yn Adroddiad Terfynol y Comisiwn.
Yn gyson â’r patrwm hwn, un o’r prif brojectau y mae’r Athro Linton yn gweithio arnynt ar hyn o bryd yw ysgrifennu llyfr, a gomisiynwyd gan Wasg Prifysgol Rhydychen, ar yr achosion Troseddau Rhyfel anghofiedig a gynhaliwyd yn Hong Kong o 1946 tan 1948. Cyllidwyd gwaith ymchwil yr Athro Linton gan lywodraeth Hong Kong. Bu’n gweithio yn yr Archifau Gwladol yn Kew ac yn Swyddfa Cofnodion Cyhoeddus Hong Kong i gael gafael ar ddogfennau perthnasol. Hefyd bu’n cyfweld pobl a oedd wedi byw drwy’r Ail Ryfel Byd a chreu cronfa ddata i alluogi’r cyhoedd yn fyd-eang i gael golwg ar broses gyfreithiol anghofiedig. Fe wnaeth project yr Athro Linton danio diddordeb lleol helaeth yn Hong Kong ac yn China’n gyffredinol, yn ogystal ag ymysg pobl o dras Tsieineaidd ledled y byd. Cafodd sylw helaeth yn y cyfryngau, bu’n destun rhaglen ddogfen ar y teledu, ac eisoes dibynnwyd ar y wybodaeth gan Siambr Apêl Tribiwnlys Arbennig ar gyfer Lebanon. Bydd ei herthygl, ‘Hong Kong’s War Crimes Trials 1946-1948’, yn cael ei gyhoeddi yn y Melbourne Journal of International Law yn ddiweddarach eleni.
Ar hyn o bryd mae’r Athro Linton yn cymryd rhan flaenllaw mewn trefnu cynhadledd ryngwladol bwysig sydd i’w cynnal yn Yr Hâg yn yr Iseldiroedd ddiwedd Hydref 2011. Bydd y gynhadledd hon yn ddiwedd tair blynedd o ymchwil ac ysgrifennu cyson i adnabod egwyddorion a rheolau cyffredinol dulliau gweithredu troseddol rhyngwladol. Mae’r Athro Linton wedi bod yn aelod o Fwrdd Llywio’r project gan arwain 50 o brif gyfreithwyr ac academyddion ym maes troseddau rhyngwladol, ac mae’n Gydlynydd gweithgor sy’n archwilio’r ffordd y cynhelir achosion mewn llysoedd a thribiwnlysoedd rhyngwladol. Bydd Gwasg Prifysgol Rhydychen yn cyhoeddi ffrwyth y project arloesol hwn, General Principles and Rules of International Criminal Procedure. Dylai myfyrwyr sydd â diddordeb ym maes Trefn Cyfraith Droseddol Ryngwladol fynd i’r wefan i gael mwy o wybodaeth am gofrestru. Bydd lle am ddim i’r 75 myfyriwr cyntaf, yn ogystal ag ysgoloriaethau i fyfyrwyr PhD o wledydd sy’n datblygu.
Gobeithia’r Athro Linton barhau â gwaith cyffrous, pwysig ac arloesol ym Mangor. Mae wrth ei bodd yng Ngwynedd ac Ynys Môn, ac wedi ei chyffwrdd yn arbennig gan y caredigrwydd, yr haelioni a’r croeso y mae wedi’i gael ers iddi gyrraedd yma. Mae’n edrych ymlaen at ymdoddi’n llawn yn y gymuned leol. Hefyd mae’r Athro Linton yn edrych ymlaen yn eiddgar at ymwneud ymhellach â’r myfyrwyr yn Ysgol y Gyfraith Bangor yn ystod yr wythnosau a’r misoedd i ddod. Bydd yn dysgu Cyfraith Ryngwladol Hawliau Dynol fel rhan o’r cwrs LLB mewn Cyfraith Gyhoeddus gyda Sarah Nason, yn ogystal â Chyfraith Gyhoeddus Ryngwladol, Cyfraith Droseddol Ryngwladol, Cyfraith Hawliau Dynol Ryngwladol ac Etifeddiaeth Rhyfel a Gormes ar y pedair rhaglen LLM newydd.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2011