Draenogod y môr o’r Antartig yn dangos eu bod yn gallu ymaddasu i asideiddio’r cefnfor
Mae astudiaeth o ddraenogod môr o Benrhyn yr Antartig wedi dangos eu bod yn gallu ymaddasu i newidiadau mewn amodau, fel cynnydd yn nhymheredd y môr ac asideiddio. Gan ysgrifennu yn y cyfnodolyn Journal of Animal Ecology, mae'r awduron yn mynd ati i ateb cwestiynau pwysig a sylfaenol ynghylch sut y bydd bywyd yn y cefnfor yn ymateb i newidiadau a ragwelir yn ystod y degawdau i ddod.
Er gwaethaf tystiolaeth o asideiddio cynyddol yng nghefnforoedd y byd, mae cwestiynau'n parhau ynghylch a fydd rhywogaethau môr yn gallu addasu i'r newidiadau hyn mewn amodau. Mae'r astudiaeth hon, dan arweiniad gwyddonwyr o'r British Antarctic Survey a Phrifysgol Bangor, yn un o'r rhai hiraf a gynhaliwyd erioed.
Casglwyd 288 o ddraenogiaid y môr gan ddeifwyr ym Mae Ryder oddi ar Benrhyn yr Antartig a'u cludo i'r British Antarctic Survey yng Nghaergrawnt. Yno cawsant eu rhoi mewn tanciau acwariwm a'u monitro dros gyfnod o ddwy flynedd. Cafodd cynnwys alcalïaidd y dŵr môr y cedwid hwy ynddo ei ostwng rhwng 0.3 a 0.5 unedau pH a chodwyd y tymheredd +2°C. Dewiswyd yr amodau hyn gan eu bod yn cyd-fynd â'r rhagolygon ar gyfer newidiadau yn amodau'r cefnforoedd erbyn diwedd y ganrif (2100).
Fe wnaeth yr holl anifeiliaid oroesi, ond cymerodd rhwng chwech i wyth mis i sefydlogi eu ffisioleg ar ôl y newid (ymgynefino â'r amodau newydd). Nid oedd unrhyw newid amlwg ym maint neu ym mas y draenogiaid yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd a oedd yn dangos nad oedd y newid mewn amodau yn effeithio ar gyfraddau twf yn yr oedolion.
Aeth yr ymchwilwyr ati i ddarganfod hefyd pa effeithiau y byddai newidiadau yn amodau'r môr yn eu cael ar gyfraddau bridio a goroesi ymysg draenogiaid y môr newydd eu geni. Mae'n cymryd amser hir i'r rhywogaeth hon ddatblygu organau rhywiol, felly cafodd y sberm a'r wyau eu ffrwythloni'n artiffisial ymhen 6 mis a 17 mis. Ar ôl chwe mis roedd nifer y larfau a epiliodd yn llwyddiannus yn sylweddol is na'r rhai a epiliodd ymhen 17 mis, sy'n pwysleisio'r angen am arsylwadau hir dymor.
Ar ddiwedd y cyfnod dwy flynedd, tra bod yr anifeiliaid dan amodau pH canolig yn cynhyrchu wyau tebyg o ran maint i'r anifeiliaid cymharu mewn dŵr môr normal, roedd yr anifeiliaid dan yr amodau pH isaf (-0.5) yn cynhyrchu wyau mwy. Mae hyn yn haeddu ymchwilio ymhellach iddo ym marn yr ymchwilwyr.
Meddai'r prif awdur, Dr Melody Clark, o'r British Antarctic Survey:
"Gyda darogan dyfroedd cynhesach a mwy asidig yn y dyfodol, mae'r gwaith yma'n dangos pa mor wydn yw'r anifeiliaid yma o ran ymdopi â newid hinsawdd. Mae'n pwysleisio hefyd bwysigrwydd cynnal arbrofion hir dymor i wneud rhagfynegiadau cywir. Mae'r anifeiliaid yma'n byw'n hir iawn ac yn gwneud popeth yn wirioneddol araf. Maent yn cymryd tuag wyth mis i ddod yn gyfarwydd ag amodau newydd a dwy flynedd i gynhyrchu organau rhywiol. Pe baem ni wedi rhoi'r gorau i'r arbrawf yma ymhen tri neu hyd yn oed chwe mis, byddem wedi cael canlyniadau gwahanol iawn."
Mae rhywogaeth Cefnfor y De o ddraenog y môr ( Sterechinus neumayeri) yn niferus iawn ac yn chwarae rhan allweddol bwysig yn yr ecosystem fenthig. Mae'n byw ar weddillion anifeiliaid eraill a thrwy hynny'n amsugno calsiwm yn y dŵr. Fel infertebratau môr eraill yn yr Antartig mae'n tyfu'n araf a gall fyw am hyd at 40 mlynedd. Oherwydd hyn ni fydd ganddo lawer o gylchoedd bridio i addasu ei eneteg i amodau newydd. Bydd unrhyw effeithiau negyddol ar y rhywogaeth o ganlyniad i newid hinsawdd yn achosi goblygiadau pellach i ecosystem y rhanbarth.
Disgwylir mai Cefnfor y De fydd y cefnfor cyntaf i weld prinder calsiwm carbonad. Felly mae'n debygol mai yno y teimlir gyntaf newidiadau mewn pH a chalsiwm fydd ar gael i ddatblygu cregyn ac ysgerbydau.
Meddai prif awdur yr astudiaeth, Dr Coleen Suckling, o Ysgol Gwyddorau Eigion y Brifysgol: "Yn nyfroedd oerion yr Antartig mae metabolaeth yn cael ei arafu sy'n golygu bod anifeiliaid yn cymryd mwy o amser i ddatblygu.
Mae hyn yn golygu hefyd y gall gymryd blynyddoedd lawer iddynt aeddfedu ac atgynhyrchu. Felly efallai na fydd ymaddasu drwy genedlaethau yn strategaeth ddibynadwy i ymdopi â newid cyflym yn yr hinsawdd, gan fod y ddwy broses yn digwydd ar yr un graddfeydd amser bron. Yn hytrach, os gall yr anifeiliaid gynefino â'r hinsawdd, yna efallai y gall hyn eu helpu i ymdopi â newidiadau yn y dyfodol."
Dyddiad cyhoeddi: 9 Rhagfyr 2014