Draig wedi ei gweld ar Stryd Fawr Bangor!
Roedd siopwyr ym Mangor wedi eu syfrdanu ac wrth eu boddau wrth weld draig goch yn gorymdeithio ar hyd y Stryd Fawr ar ddydd Sadwrn, Chwefror 9fed.
Fel rhan o ddathliadau Blwyddyn Newydd Tsieineaidd, cynhaliwyd Gorymdaith y Ddraig flynyddol ym Mangor ddydd Sadwrn. Wedi ei wneud â llaw yn Tseina, gorymdeithiodd y ddraig 14 metr o hyd, ynghyd â dawnswyr, drymwyr a disgyblion Ysgol Ein Harglwyddes Bangor o Eglwys Gadeiriol Bangor ar hyd y Stryd Fawr i Gloc y Dref cyn dychwelyd i'r Eglwys Gadeiriol. Dilynwyd yr orymdaith gan Berfformiad Gala Tsieineaidd yn yr Eglwys Gadeiriol lle clywyd perfformiadau cerddorol lleisiol ac offerynnol Tseineaidd amrywiol, yn ogystal â gweld dawnsfeydd traddodiadol Tseineaidd a pherfformiad gan grŵp Taekwondo Bangor.
Trefnwyd dathliadau Blwyddyn Newydd Tsieineaidd eto eleni gan Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor. Mae’r ganolfan ym Mangor, a sefydlwyd yn 2012, yn cynnig rhaglen o weithgareddau a chyrsiau wedi eu cynllunio i ddarparu dealltwriaeth o iaith a diwylliant Tseina i staff, myfyrwyr a’r gymuned ehangach yng ngogledd Cymru, yn ogystal â hyrwyddo diwylliant, iaith a threftadaeth Cymru i bobl Tseina.
Yn dilyn y dathliadau, dywedodd Kay O'Hanlon, Pennaeth Ysgol Ein Harglwyddes,
"Yn yr oes Donaldson, mae'n hawdd iawn i Bennaeth roi gwerth ar y profiad hwn, o ran yr ysgol, y disgyblion a'r gymuned ehangach. Mae Sefydliad Confucius yn cynnig arbenigedd ac adnoddau nad yw’n hawdd i ysgolion gael gafael arnyn nhw. Mae’n disgyblion ni yn dysgu sut i fod yn Ddinasyddion Byd-eang - yn ymwybodol o'r byd, eu rôl ynddo ac yn cymryd rhan mewn cymunedau ar lefel leol a byd-eang. Mae'r un dathliad hwn, o Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, yn cyfrannu’n helaeth at ddatblygu y Dinasyddion Byd-eang hyn. Mae'n ysbrydoli, addysgu ac yn darparu cymuned leol a byd-eang y gallant gyfranogi ohono – y cyfan mewn un dathliad, a’r cyfan yn ein dinas ni! "
Ychwanegodd y Tra Barchedig Kathy Jones, Deon Bangor,
"Ar ran y Deon a'r Chabidwl, rydym yn falch iawn o gynnal y Gala eto eleni. Mae dathlu gyda'r gymuned Tsieineaidd, a chofleidio diwylliant ac amrywiaeth yn brofiad hynod gyfoethog ac yn bwysig tu hwnt.
Eleni, dechreuodd y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd (neu ŵyl y Gwanwyn) yn swyddogol ar Chwefror 5ed a daw i ben ar Chwefror 19eg gyda Gŵyl y Llusern.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2019