Drama myfyriwr yn derbyn croeso ar ei thaith
Myfyriwr yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor sy’n gyfrifol am ysgrifennu drama sydd ar daith o amgylch Cymru ar hyn o bryd, ac yn denu adolygiadau ac ymateb ffafriol tu hwnt.
Disgrifir Llŷr Titus fel ‘un o ddramodwyr mwyaf cyffrous Cymru’, ac mae ei ddrama diweddaraf, ‘Drych’, yn gynhyrchiad Cwmni’r Frân Wen o dan gyfarwyddiaeth Ffion Haf, hithau’n ddarlithydd Theatr a Pherfformio yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau’r Brifysgol yn ogystal â bod yn Gyfarwyddwr Cyswllt Cwmni'r Fran Wen.
Yr actorion Bryn Fôn a Gwenno Hodgkins sydd wrthi’n perfformio Drych, cynhyrchiad cyntaf Llŷr Titus, sydd yn seiliedig ar ddau gymeriad sy’n sgwrsio’n ddiwyd am ryfeddodau a chymhlethdodau bywyd.
Yn ôl Ffion Haf, mae Drych yn gofyn cwestiynau tywyllaf am fodolaeth dyn: “Drwy Drych cawn adlewyrchiad o daith dau sy’n ysu i ddeall mwy am eu bodolaeth drwy drafod y dwys a’r doniol, y materol a’r ysbrydol.”
Daeth Llŷr, 22 oed o Sarn ger Pwllheli, i gyswllt a Chwmni’r Frân Wen drwy gynllun ysgrifennu newydd i bobl ifanc sy’n cael ei redeg yn flynyddol gan y cwmni.
“Bu Llŷr yn gweithio gydag Aled Jones-Williams fel rhan o gynllun Sgript i Lwyfan sy’n adnabod a mentora dramodwyr ifanc. Roedd yr ymateb i ddarlleniad cyhoeddus o waith Llyr yn syfrdanol - wedi’u swyno ac wedi ymgolli yn y stori, gadawodd y gynulleidfa eisiau clywed mwy gan y dramodydd naturiol ddawnus yma. Roeddent methu credu i ddramodwr ifanc lunio sgript a syniadau mor aeddfed,” meddai Ffion.
“Mae’n bwysig ein bod yn rhoi llwyfan i’r lleisiau ifanc newydd cyffrous yma oherwydd mai nhw yw dyfodol theatr.”
Meddai Llŷr, sydd yn fyfyriwr ymchwil ym Mhrifysgol Bangor: “Roedd cael gweithio gyda Aled Jones-Williams yn eithriadol, roedd o’n brofiad buddiol nid yn unig o ran gallu trafod syniadau hefo rhywun profiadol ond hefyd i gael amser ac anogaeth i fynd ati i sgwennu.”
Ychwanegodd Ffion: “Er mai bwriad O Sgript i Lwyfan oedd cynnig datblygiad i’r awduron mwyaf addawol gyda’r posibilrwydd o lwyfannu cynhyrchiad gorffenedig yn y pen draw, roedd yr ymateb i waith Llŷr mor bwerus roedd yn rhaid i ni lwyfannu ei waith yn syth!”
Pennaeth Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor yw’r Athro Gerwyn Wiliams:
“Mae Llŷr yn wyneb cyfarwydd iawn inni bellach. Daeth atom yn fyfyriwr israddedig ac yntau newydd ennill Coron Eisteddfod yr Urdd tra oedd yn dal yn fyfyriwr yng Ngholeg Meirion-Dwyfor ac enillodd Fedal Ddrama’r Urdd yn ddiweddarach. Mae newydd gwblhau cwrs MA gyda ni ac ar fin cychwyn ar broject PhD wedi ei noddi gan yr AHRC. Profiad cynhyrfus fu dilyn ei ddatblygiad creadigol dros y blynyddoedd, mewn modiwlau ysgrifennu creadigol a sgriptio yn ogystal â chystadlaethau cenedlaethol. Gwefr arbennig hefyd oedd cael bod yn rhan o gynulleidfa Galeri, Caernarfon – a’r lle dan ei sang – yn gwylio’r cynhyrchiad grymus o Drych. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at weld ei ddoniau fel llenor ac ysgolhaig yn mynd o nerth i nerth!”
Dyddiad cyhoeddi: 6 Hydref 2015