Dramodydd talentog ifanc yn graddio
Mae dramodydd ifanc lleol wedi graddio o Brifysgol Bangor yr wythnos hon ar ôl tair blynedd o waith caled llwyddiannus sydd wedi arwain at gomisiynu ei ddrama.
Graddiodd y cyn-fyfyriwr Ysgol Botwnnog a Choleg Meirion Dwyfor, Llŷr Titus Hughes, 21 o Sarn, Pwllheli gyda gradd BA Cymraeg.
Yn falch iawn i fod yn graddio, dywedodd Llŷr: “ Mae’n deimlad rhyfedd i fod yn graddio, rhyw gymysgfa o fod yn hapus fod gwaith y tair blynedd ddiwethaf wedi rhoi canlyniad da i mi, ond hefyd rhyw gyndynrwydd i orffen y tair blynedd a symud ymlaen. Mae’r cyfnod hwn yn fy mywyd wedi bod yn un aruthrol a dydw i ddim am iddo orffen ond mae pob dim da yn dod i ben.
“Yr wyf bellach yn rhannu fy amser rhwng fy nghartref ym Mhen Llŷn a Bangor. Cefais fy addysg yn Ysgol Gynradd Edern, Ysgol Uwchradd Botwnnog ac yna yng Ngholeg Merion-Dwyfor, ni fyddwn yn fy safle presennol heb yr addysg drylwyr a gefais gan y rhain. Profais lwyddiant wrth ysgrifennu tra ym Mangor a chyn hynny a’r gobaith yw dal ati yn y maes hwnnw.
“Dim ond rhyw awr gymerodd hi i mi benderfynu dod i Fangor wedi i mi fynd i ddiwrnod agored Ysgol y Gymraeg yno. Nid yn unig fod y cwrs academaidd yn well na’r un arall a gynigwyd yn fy marn i, ond hefyd roedd awyrgylch braf iawn yno. Yr oedd yn amlwg fod y darlithwyr yn angerddol am eu meysydd ac roedd hynny’n cael effaith arnom fel darpar fyfyrwyr. O ran y Brifysgol mewn cyd-destun ehangach, roedd yna ddigon o adnoddau yn cael eu cynnig ac roedd awyrgylch braf yno.
“Bum yn rhan o’r cynllun ‘O Sgript i Lwyfan’ gyda chwmni’r Fran Wen, a chanlyniad hyn oedd i mi gael fy nghomisiynu yn ffurfiol i ysgrifennu drama. Cefais gyfnodau o brofiad gwaith gyda dwy wasg Gymraeg a brofodd yn fuddiol iawn i mi. Rwyf newydd ddychwelyd o wythnos yn yr Eidal yng ngŵyl gelfyddyd Arteden ble’r oeddwn yn cynrychioli Cymru. Dyma gyfle anhygoel na fyddai wedi ei gynnig i mi pe na fyddwn wedi astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Cefais hefyd y cyfle i ddysgu nifer o giliau defnyddiol wrth weithio ar interniaeth yn canfod deunydd ar y rhyngrwyd i fyfyrwyr am gyfnod gyda’r Ysgol.
“Roeddwn yn rhan o’r criw a fu wrthi’n ail sefydlu Cymdeithas Y Ddrama Gymraeg, ac rydym bellach yn gymdeithas swyddogol o dan adain y Brifysgol. Yr wyf hefyd yn cynorthwyo ‘Cymdeithas Llywelyn’ sef cymdeithas i’r sawl sydd un ai wrthi’n dysgu neu am ddysgu Cymraeg. Rwyf hefyd wedi bod yn rhan o weithgareddau UMCB. Mae’r cynnig i bawb ymuno â chymdeithasau am ddim yn un hynod ddefnyddiol yma ym Mangor.
“Rwyf yn awr am ddal ati gyda chwrs Meistr ac yna efallai PhD, yna hoffwn gael rhyw fath o yrfa ym maes ysgrifennu.”
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014