Dreigiau ar gyfer Dydd Gŵyl Ddewi
Bydd dreigiau o Gymru a Tsieina yn wynebu ei gilydd ar benwythnos Gŵyl Ddewi eleni, wrth i Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor gynnal dau ddigwyddiad lliwgar i’r teulu.
Wedi’i ysbrydoli gan ddreigiau Cymru a Tsieina, bydd y Sefydliad yn cynnal sesiwn adrodd storïau arbennig ar ddreigiau yn Venue Cymru ddydd Sadwrn 28 Chwefror, a ddilynir gan weithdy, i’w gynnal trannoeth yng Nghastell Penrhyn, ar wneud dreigiau.
Mae’r digwyddiadau’n dathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, sy’n dechrau ar 19 Chwefror, a Gŵyl Ddewi (1 Mawrth), a hwy yw’r diweddaraf mewn cyfres o weithgareddau sydd i’w cynnal dan faner Dwy Ddraig y Sefydliad sydd â’i fryd ar ddatblygu cyfnewid diwylliannol rhwng Gogledd Cymru a Tsieina.
“Mae’r ddraig yn ddelwedd eiconig a grymus yng Nghymru ac yn Tsieina, fel ei gilydd ...,” meddai Cyfarwyddwr y Sefydliad, Dr David Joyner.
“...y symbol perffaith i’w ddefnyddio i edrych ar ddiwylliannau gwahanol ein dwy wlad. Mae’r ddau weithgaredd sydd gennym ar y gweill yn newydd inni, ac mae’n bleser gennym eu cyflwyno i’r cyhoedd am y tro cyntaf, gan gydweithredu â’n partneriaid, Venue Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.”
Yn y sesiwn dweud storïau yn Venue Cymru (28 Chwefror, 6-7pm), adroddir chwedl Tsieineaidd draddodiadol trwy eiriau a dawns gan yr artist perfformio sydd wedi’i lleoli yn Lerpwl, Fenfen Huang (£2 y tocyn). Y trannoeth (1 Mawrth, 12-4pm), Bydd yr artist Tsieineaidd Ling Peng a thîm Castell Penrhyn yn dangos i ymwelwyr sut i wneud pypedau ar ffurf dreigiau o Gymru a Tsieina (yn rhad ac am ddim).
Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2015