Drysau’n agored i Brif Adeilad Prifysgol Bangor
Bydd cyfle i’r cyhoedd gael trosolwg ar hanes Prif Adeilad Prifysgol Bangor fel rhan o ddigwyddiad Drysau Agored ar Ddydd Sadwrn 14 Medi 2019.
Mae digwyddiad Drysau Agored, yn rhoi cyfle i’r cyhoedd gael golwg ar adeiladau hanesyddol, gerddi a lleoliadau diddorol ac anarferol ledled Gwynedd a Chonwy yn rhad ac am ddim yn ystod mis Medi.
Mae Prif Adeilad y Brifysgol yn adeilad rhestredig gradd 1 trawiadol a agorwyd yn 1911.
Ymunwch â thaith tywys o gwmpas Prif Adeilad y Brifysgol o dan arweiniad David Roberts, cyn cofrestrydd y Brifysgol a fydd yn siarad ar ‘ “Cofadail Parhaol Bangor” : dyluniad a hanes Prif Adeilad y Brifysgol’. Bydd yn gyfle i ddysgu mwy ar gefndir sefydlu’r adeilad ac i ddeall mwy am y nodweddion pensaernïol.
Cynhelir y daith tywys o fynedfa’r Prif Adeilad am 11.00yb-12yp. Os oes gennych ddiddordeb mynychu, gofynnir i chi archebu lle ymlaen llaw. Gallwch wneud hyn drwy ffonio 01248 353368 neu e-bostio storiel@gwynedd.llyw.cymru
Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau eraill Drysau Agored ar draws Gwynedd a Chonwy yn ystod mis Medi, ewch i cadw.llyw.cymru/drysau-agored
Dyddiad cyhoeddi: 6 Medi 2019