Dull gwell o fonitro dolffin afon Ganges yn cael ei ddatgelu gan fyfyrwraig Prifysgol Bangor
Mae astudiaeth newydd (7 Mai) yn dangos dull o wella’r modd y caiff dolffin afon Ganges – anifail mewn perygl – ei fonitro; mae’r anifail hwn yn un o bedair yn unig o rywogaethau morfilaidd dŵr croyw sy’n dal i oroesi ers i ddolffin Afon Yangtze ddiflannu yn 2007.
Meddai awdur yr ymchwil, Nadia Richman, sy’n wyddonydd yn y Gymdeithas Sŵolegol Llundain a hefyd yn fyfyrwraig PhD yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth o fewn Prifysgol Bangor:
“Mae anifeiliaid morfilaidd dŵr croyw yn byw yn rhai o systemau afonydd dwysaf eu poblogaeth a mwyaf llygredig y byd. Mae angen inni benderfynu ynglŷn â’r ffordd orau o reoli’r rhywogaethau hyn cyn y bydd un arall yn diflannu. Fodd bynnag, mae angen i’r penderfyniadau hyn fod yn seiliedig ar dystiolaeth, sy’n golygu bod angen inni ddefnyddio dulliau a all ganfod newidiadau ym maint y boblogaeth cyn gynted ag y bo modd, ac ar y gost leiaf.”
Mae’r gallu i ganfod newidiadau ym maint poblogaeth rhywogaeth yn gymorth i hysbysu cadwraethwyr ynglŷn â pha mor gyflym y mae poblogaeth yn lleihau, ac a yw camau a gymerwyd i warchod rhywogaeth wedi llwyddo i atal dirywiad.
Gynt, credid mai dulliau gweledol o arolygu, a ddibynnai ar i gadwraethwyr weld a chofnodi dolffiniaid ar yr wyneb, oedd y ffordd fwyaf cost-effeithiol o arolygu’r rhywogaeth. Yn sgil yr astudiaeth, cafwyd y gall defnyddio dull o ganfod y sain a gynhyrchir gan ddolffiniaid, dull a elwir yn arolwg gweledol-acwstig cyfun, wella’r gallu i ganfod tueddiadau yn y boblogaeth, ac mai’r dull hwn, yn gymharol fuan, fydd y dull rhataf o arolygu.
Cynhaliwyd yr astudiaeth gan wyddonwyr o Gymdeithas Sŵolegol Llundain (ZSL), Prifysgol Bangor, Prifysgol Chittagong yn Bangladesh, y Gymdeithas er Gwarchod Bywyd Gwyllt (WCS), Project Amrywiaeth Anifeiliaid Morfilaidd Bangladesh, ac Asiantaeth Ymchwil Pysgodfeydd Japan yn ddiweddar ar ddolffiniaid Afonydd De Asia yn afonydd Deheudir Bangladesh.
Ychwanegodd Nadia: "Dewisais astudio yn Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol Bangor oherwydd yr enw da sydd iddi fel canolfan ymchwil rhyngddisgyblaethol. Dros y tair blynedd diwethaf rwyf wedi cyfarfod a llu o ymchwilwyr sy’n ymwneud â meysydd gwahanol a chanddynt ystod eang o arbenigaethau. Golygodd hyn nad oeddwn byth yn brin o bobol i holi am gyngor, pryd bynnag oedd angen arnaf.”
Cyhoeddwyd y canfyddiadau hyn heddiw (7 Mai) yn y cylchgrawn PLOS ONE.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2014