Dwy Ddarlith ar Hanes Cymru
Bydd dau gyfnod gwahanol iawn yn hanes Cymru o dan y chwyddwydr mewn dwy ddarlith ym Mhrifysgol Bangor ar 7 a 12 Tachwedd.
Oes y Tywysogion sy’n cael ei drafod nos Wener, 7 Tachwedd wrth i Dr David Stephenson drafod ‘Empires in Wales: From Gruffudd ap Llywelyn to Llywelyn ap Gruffudd’ yn Narlith J.E. Lloyd. Mae’r ddarlith ar agor i bawb ac yn cael ei thraddodi ym Mhrif Ddarlithfa’r Celfyddydau am 6.30.
Bydd y ddarlith yn ymchwilio i dwf y goruchafiaethau yng Nghymru a adeiladwyd gan rai o brif arweinwyr oes y Tywysogion rhwng yr unfed ganrif ar ddeg a’r drydedd ganrif ar ddeg: sut y cynhaliwyd yr ymerodraethau Cymreig a sut y cythruddwyd eu gwrthwynebwyr ganddynt - nid yn unig y brenhinoedd Seisnig, ond arweinwyr a chymunedau yng Nghymru.
Fel yr esbonia Dr David Stephenson:
“Heddiw rydym yn clodfori arweinwyr fel Llywelyn Fawr a Llywelyn ein Llyw Olaf am adeiladu tywysogaethau dros y rhan fwyaf o Gymru - gan fwy neu lai greu gwladwriaethau Cymreig. Roedd eu beirdd yn canu eu clod fel arweinwyr mawr – fel ymerawdwyr. Ond mae ochr arall dywyllach i’w cyraeddiadau: yn aml roedd rhaid iddynt ddefnyddio tactegau a oedd yn ennyn gelyniaeth cymunedau drwy Gymru, ac yn y pen draw roedd hyn yn angheuol i’w huchelgeisiau. Y tensiwn trasig hwn yr ydw i am ymchwilio iddo yn y ddarlith.”
Mae Dr David Stephenson yn Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd yn yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg ym Mhrifysgol Bangor. Mae wedi cyhoeddi llawer iawn o weithiau ar hanes Cymru yn yr oesoedd canol, yn cynnwys ei lyfr arloesol "The Governance of Gwynedd" (1984). Mae ail argraffiad y llyfr yn dwyn y teitl "Power in Medieval Gwynedd: Governance and the Welsh Princes" (Gwasg Prifysgol Cymru, 2014).
Wrth i ni gofio canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Mawr, bydd Syr Deian Hopkin yn trafod “Memory and History : Remembering the First World War in Wales” yn narlith Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol sy’n digwydd am 6.00 ddydd Mercher, 12 Tachwedd ym Mhrif Ddarlithfa’r Celfyddydau’r Brifysgol, ac mae ar agor i bawb.
Mae Syr Deian Hopkin yn gyn Is-Ganghellor Prifysgol South Bank Llundain ac mae'n Gadeirydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru er 2011. Mae hefyd yn ymgynghorydd arbennig i Lywodraeth Cymru ar goffáu'r Rhyfel Byd Cyntaf.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2014