Dwylo’n dweud
Yn dilyn cynhadledd flynyddol ‘Clust i wrando …’ (2017) a gynhaliwyd yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, ym mis Mehefin y llynedd ac ar sail awgrymiadau’r cynadleddwyr, sefydlwyd cynllun i gyflwyno dull arwyddo’r byddar (British Sign Language) i holl blant Cylchoedd Meithrin Cymru (Y Mudiad Meithrin). Hwn yw’r cynllun cyntaf o’i fath yn y Gymraeg.
Gyda chefnogaeth ariannol Canolfan Ehangu Mynediad y Brifysgol, llwyddwyd i gynhyrchu cyfres o ffilmiau byrion (ar gyfer defnydd mewn Ysgolion Meithrin yn genedlaethol) sydd yn cyflwyno un gair ac un arwydd wythnosol i’r 18,000 o ddarpar-wylwyr dan 4 oed.
Dywed Delyth Murphy, Cyfarwyddwraig y Ganolfan Ehangu Mynediad: ‘Mae’n bleser mawr cael bod yn rhan o’r project arloesol a chyffrous hwn. Credwn yn gryf y dylid gwrando ar sylwadau rhai sy’n mynychu gwahanol weithgareddau yn y Brifysgol ac, o ganlyniad i adborth wedi’n cynhadledd boblogaidd Clust i Wrando fu’n pwysleisio pwysigrwydd dysgu iaith arwyddo i blant ifanc, mae’r clipiau fideo hyn yn ffrwyth partneriaeth lwyddiannus gyda’r Mudiad Meithrin a Grŵp Llandrillo Menai.’
Dywedodd Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin
“Mae sicrhau mynediad i ofal ac addysg blynyddoedd cynnar i bob plentyn yn elfen holl-bwysig o’n gwaith. Bydd y prosiect arloesol hwn yn adnodd defnyddiol ac ymarferol i ymarferwyr gofal plant mewn Cylchoedd Meithrin a meithrinfeydd ledled y wlad”
Ffilmiwyd unigolion yn arwyddo geiriau sydd yn cyd-fynd â gweithgaredd wythnosol y Mudiad ac fe gaiff aelodau’r Cylchoedd (yr ifanc a’r hen!) y cyfle i ddysgu’r ystum sy’n cyfateb i eiriau fel ‘Cymru’, ‘teulu’, ‘anifail’, ‘haul’, ‘mwd’, ‘glaw’, ‘ffrindiau’ a ‘chwarae’ a.y.b..
Buddsoddiad tymor-hir yw hwn. Y freuddwyd yw y bydd cyfres newydd o eiriau ac arwyddion ar gyfer 2018-19 a 2019-20 ac y gwelir iaith arwyddo’r BSL yn iaith ‘fodern’ swyddogol yn y dyfodol agos.
Amcangyfrifa’r Llywodraeth bresennol fod oddeutu 3,272 o blant byddar yng Nghymru (2017). Fodd bynnag, y drasiedi yw fod 85% o’r plant byddar hyn yn mynychu ysgolion yng Nghymru lle nad oes unrhyw ddarpariaeth addysgol arbennig ar eu cyfer.
Mae’r galw ar gynnydd ar gyfer cefnogi’r byddar yng Nghymru ac mae dyfodol maes arwyddo yn nwylo’r ‘rhai bychain’ hyn.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2018