Dyblu cynhyrchu pysgod a chadw bioamrywiaeth - a ellir ei wneud?
Gall consortiwm newydd i sefydlu Canolfan Datblygu Dyframaeth Genedlaethol yn Tanzania, syd yn cynnwyd Profysgol Bangor, helpu i ymdrin â thlodi a diffyg maeth
Mae gan Tanzania, sydd efallai yn fwyaf adnabyddus am y saffarïau ar hyd y gwastadeddau maith ac agored, gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer bywyd gwyllt dŵr croyw bach iawn sydd â photensial enfawr heb ei gyffwrdd.
Mae'r tilapia, sef y pysgodyn a ffermir fwyaf drwy'r byd ar wahân i'r carp, yn byw mewn niferoedd mawr yn y Llynnoedd Mawr (Victoria, Tanganyika, Malawi/Nyasa) sy'n gorchuddio chwech y cant o'r wlad. Ystyrir y llynnoedd yn fannau pwysig o ran bioamrywiaeth fyd-eang, maent yn un o ddim ond 25 drwy'r byd, oherwydd y cannoedd o rywogaethau'r pysgod ciclidiaid, yn cynnwys rhywfaint o'r 30 o isrywogaethau tilapia sydd yn Tanzania.
Ond ar gyfartaledd mae pobl Tanzania yn bwyta 8kg yn unig o bysgod y flwyddyn, llai na hanner y cyfartalog rhyngwladol o 17kg. Mae gan oddeutu un o bob tri phlentyn dan bump oed ddiffyg haearn a fitamin A, sy'n cyfrannu at rwystro twf, ac mae gan tua un o bob tair dynes rhwng 15 a 49 oed ddiffyg haearn, fitamin A ac ïodin.
Mae pysgod yn darparu maetholion mewn ffordd fwy effeithlon na ffynonellau eraill o brotein anifeiliaid oherwydd maent yn trosi mwy o'u bwyd i fàs y corff. Mae rhai mathau, fel y tilapia, yn arbennig o atyniadol oherwydd gellir eu magu'n bennaf ar sylwedd llysieuol rhad a gwastraff amaethyddol, gyda llawer o'r rhywogaethau pysgod a fegir yn y byd datblygedig yn gorfod cael eu bwydo ar flawd pysgod.
Ar hyn o bryd, ffermir tilapia yn Tanzania yn bennaf ar gyfer cynhaliaeth neu farchnadoedd ar raddfa fach ac maent yn aml yn defnyddio rhywogaethau anfrodorol, er enghraifft tilapia'r Nil. Mae tua hanner o rywogaethau tilapia'r byd yn frodorol i Tanzania, ond mae 99% o'r cynnyrch masnachol ar hyn o bryd yn Tsieina, Honduras a'r Unol Daleithiau.
Er mwyn datblygu strategaeth dyframaeth ar gyfer Tanzania cynhaliwyd cyfarfod o 30 o wyddonwyr, a oedd yn cynrychioli budd-ddeiliaid Tanzania yn ogystal â sefydliadau ymchwil rhyngwladol, mewn gweithdy tri diwrnod yn Zanzibar. Ariannwyd y cyfarfod gan raglen Sweden "Agriculture for Food Security 2030" (AgriFoSe) a threfnwyd ar y cyd gan Brifysgol Dar Es Salaam, Worldfish Malaysia, a Phrifysgol Gwyddorau Amaethyddol Sweden. Cefnogwyd cyfraniad gwyddonwyr o Brifysgol Bangor a Sefydliad Earlham gan grant BBSRC o'r Gronfa Ymchwil Her Fyd-eang (GCRF).
Prif ganlyniad y gweithdy hwn oedd ffurfio consortiwm newydd rhwng y partneriaid, wedi ei ymrwymo i sefydlu Canolfan Datblygu Dyframaeth Genedlaethol. Gall y Ganolfan helpu i dreblu'r cyfraniad a wneir gan ddyframaeth i'r economi, dyblu nifer y pysgod a gynhyrchir yn y wlad erbyn 2025 a sicrhau bod mwy yn bwyta pysgod fel ffynhonnell protein - yn arbennig merched.
Bydd rhywogaethau tilapia o ystod eang o ecosystemau - yn cynnwys llynnoedd, systemau afonydd, cronfeydd a phyllau pysgod ar draws y wlad - yn ganolbwynt i'r ymchwil. Gall dadansoddiad genetig o 31 o rywogaethau, yn cynnwys 26 na welir yn unlle arall yn y byd, ddangos nodweddion pwysig ar gyfer creu stoc magu masnachol i'r wlad ei hun.
Gall defnyddio rhywogaethau brodorol hefyd helpu i ddiogelu bioamrywiaeth y wlad. Er enghraifft, mae'n dileu'r risg o rywogaethau anfrodorol yn dianc a chymysgu gyda rhywogaethau gwyllt. Mae un rhywogaeth, Singida tilapia, bron â bod yn ddiflanedig o'i gynefin naturiol ers cyflwyno tilapia'r Nîl a'r draenogiaid (perch) yn y 1950au.
Bydd gwersi a ddysgwyd o'r diwydiant dyframaeth byd-eang, a oedd yn fwy na'r diwydiant cynhyrchu cig eidion yn 2013, yn helpu i sicrhau bod arferion cynaliadwy yn cael eu mabwysiadu o'r dechrau. Gall y tilapia sy'n unigryw i Tanzania fod mor werthfawr ag aur y wlad ond byddai mwy o bobl yn gallu profi'r buddion yn fwy cyfartal.
Meddai Charles Mahika, Cyfarwyddwr Dyframaeth, Y Weinyddiaeth Dyframaeth, Da byw a Physgodfeydd (MALF), Gweriniaeth Unedig Tanzania: "Mae gennym gyfle i gynyddu rhan ein gwlad yn y chwyldro glas dyframaeth, diwydiant sy'n tyfu'n gyflymach nag unrhyw sector cynhyrchu bwyd arall yn y byd. Gall cynhyrchu tilapia helpu i gwrdd â gofynion maeth ein poblogaeth sy'n tyfu, mewn ffordd gynaliadwy yn ogystal â sicrhau bod digon yn cael ei gynhyrchu i'w allforio. Bydd defnyddio ein hamrywiaeth gyfoethog yn lleihau ein dibyniaeth ar farchnadoedd allanol, cynyddu diogelwch bwyd a gwneud y cynnyrch terfynol yn fwy atyniadol i ddefnyddwyr Tanzania. Ein nod yw treblu cyfraniad dyframaeth i'r Cynnyrch Mewnwladol Crynswth o 1.4% i 4.2% erbyn 2025.”
Meddai Federica Di Palma, Cyfarwyddwr Gwyddoniaeth, Sefydliad Earlham (EI): "Trwy rannu canlyniadau dadansoddi genetig a helpu i adeiladu arbenigedd, gallwn wneud cyfraniad go iawn i helpu i ddiwydiant cenedlaethol dyfu. Gall banc hadau dyframaeth Tanzania fod yn werthfawr hefyd i fridwyr rhyngwladol, er enghraifft trwy gynnig rhywogaethau sydd wedi eu haddasu i amgylcheddau garw. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyllid o'r Gronfa Her Ymchwil Byd-eang a ddyfarnwyd gan BBSRC, sydd wedi ein galluogi i gyfrannu at yr ymdrech anhygoel hon a gosod y seiliau ar gyfer datblygu dyframaeth yn Tanzania. Bu'n brofiad ysgogol a gostyngedig i fod yn rhan o'r fenter hon."
Dywedodd George Turner, Ysgol Gwyddorau Biolegol, Prifysgol Bangor: “Rwyf wedi bod yn astudio pysgod ciclidiad ers dros 30 mlynedd ac mae eu rhywogaethau anhygoel yn ddiddorol iawn ar gyfer ymchwil ac yn werth eu diogelu, ond gall hefyd gynnig nodweddion gwerthfawr i ddatblygu diwydiant dyframaeth annibynnol. Rydym yn datblygu ap ffôn gyda Sefydliad Earlham i helpu ffermwyr pysgod i wirio pa mor ddilys yw unrhyw bysgod ifanc. Gall helpu i nodi ardaloedd sy'n arbennig o gyfoethog o ran rhywogaethau pur, lle gellid sefydlu mesurau cadwraeth. Gall hefyd dynnu sylw at ardaloedd sydd â nifer uchel o groesrywiau sy'n peryglu bioddiogelwch."
Dywedodd John Benzie o WorldFish: "Ein nod yw helpu i drawsnewid cynhyrchedd dyframaeth Tanzania a lleihau'r effeithiau ar yr amgylchedd ar yr un pryd. Gallwn rannu arfer gorau o bob rhan o'r byd a helpu i hyfforddi carfan o genetegwyr mewn technolegau bridio blaengar y gellir eu defnyddio i ddatblygu rhywogaethau newydd o'r tilapia sy'n hyfyw yn fasnachol. Er enghraifft, gellir defnyddio'r technolegau hyn i ynysu nodweddion buddiol fel tyfu'n gyflym a gwaredu nodweddion negyddol fel bod yn agored i glefydau."
Dywedodd Melanie Welham, Prif Weithredwr BBSRC: "Gall buddsoddiad gan Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang y Deyrnas Unedig helpu arbenigwyr yn Tanzania sy'n gweithio gydag ymchwilwyr y DU, i harneisio eu hadnoddau naturiol i wella diffyg maeth yn gynaliadwy. Rydym yn hynod falch bod y gweithdy a gynhaliwyd ym mis Hydref wedi arwain at benderfyniad uchelgeisiol i wella'r dull o gynhyrchu pysgod."
Dywedodd Dirk-Jan De Koning o Brifysgol Gwyddorau Amaethyddol Sweden (SLU): “Mae darparu amrywiaethau o bysgod ifanc iach sydd wedi eu haddasu'n dda i amgylcheddau cynhyrchu lleol yn brif ofyniad ar gyfer dyframaeth mewn unrhyw wlad. Mae'n rhaid cael buddsoddiadau tymor hir mewn seilwaith a hyfforddiant er mwyn sefydlu a chynnal stoc bridio i sicrhau cyflenwad o bysgod ifanc i'r diwydiant.
Dywedodd Matern Mtolera, Dirprwy Gyfarwyddwr Sefydliad Gwyddorau'r Môr, Prifysgol Dar es Salaam: “Mae ein llwyddiant cymedrol yn y ddegawd ddiwethaf wrth ysgogi ffermio tilapia yn y môr a dŵr croyw yn cynnwys datblygiad mentrau dyfrol bach a chanolig brwdfrydig sy'n awyddus iawn i ffermio tilapia. Gyda chefnogaeth Cronfa Ymchwil Heriau Byd-eang y DU sydd ag arbenigedd rhyngwladol, mae Tanzania yn cael cyfle unigryw i ddelio â chyfyngiadau'r ffermwyr dyframaeth yn arbennig diffyg hadau dibynadwy a diffyg sgiliau mewn rheolaeth genetig o stoc."
Dyddiad cyhoeddi: 11 Ionawr 2017