DYDDIAD NEWYDD: Dathlu dawn Dilys Elwyn Edwards yn Pontio ar Ddydd Gwyl Dewi
DIWEDDARIAD: Yn anffodus, mae’n rhaid i ni eich hysbysu o newid yn nyddiad y cyngerdd uchod oherwydd salwch. Yn anffodus, mae’n amhosib i Elin Manahan Thomas ganu oherwydd haint ddifrifol ar y frest.
Serch hynny, rydym wedi medru ail-drefnu’r gyngerdd a’r dyddiad newydd fydd Nos Sadwrn 27 Ebrill am 7.30pm.
Rydym wrthi’n cysylltu â chwsmeriaid i gyfathrebu’r wybodaeth uchod. Bydd tocynnau yn cael eu trosglwyddo i’r dyddiad newydd. Os nad yw’r dyddiad newydd yn gyfleus, bydd gan gwsmeriaid hawl i ad-daliad a dylech ffonio ein Swyddfa Docynnau ar 01248 38 28 28.
Bydd dathliad go arbennig o gyfansoddwr o fri gan rhai o ffigyrau diwylliannol mwyaf Cymru ar Nos Wener 1af o Fawrth yng Nghanolfan Pontio, Bangor.
Yn cymryd rhan yn y noson o farddoniaeth a chân yn Theatr Bryn Terfel bydd y soprano Elin Manahan Thomas a Bardd Cenedlaethol Cymru , Y Prifardd Ifor ap Glyn, yn ogystal â Chôr Siambr Prifysgol Bangor. Bydd gosodiad o soned gomisiwn yn cael ei pherfformio gan Elin am y tro cyntaf yn ystod y noson er cof am Dilys Elwyn-Edwards, wedi ei chyfansoddi gan Ifor ap Glyn a’i gosod i gerddoriaeth gan Geraint Lewis.
Wedi ei geni yn Nolgellau, fe astudiodd Dilys Elwyn-Edwards y grefft o gyfansoddi gyda’r cyfansoddwr Seisnig Herbert Howells, cyn treulio y rhan fwyaf o’i hoes yng Nghaernarfon, lle cynhyrchodd gasgliad bychan o gyfansoddiadau lleisiol cain. Ymysg y rhain oedd Caneuon Gwynedd a Chaneuon y Tri Aderyn, oll yn osodiadau o gerddi gan feirdd mwya’n cenedl, yn eu plith R.Williams Parry, T. Gwyn Jones, Dic Jones, Gwyn Thomas a Saunders Lewis.
Meddai Elen ap Robert, cyfarwyddwr artistig canolfan Pontio, “Mae’r gyngerdd heno, ar gynffon blwyddyn o ddathlu canmlwyddiant ei geni, yn deyrnged arbennig i ddawn Dilys Elwyn-Edwards, ac mae’n briodol iawn iddo ddigwydd yma ym Mangor, gan iddi fod yn diwtor piano yn Ysgol Gerdd y Brifysgol am nifer o flynyddoedd. Priodol hefyd yw cynnwys un o gerddi’r Athro Gwyn Thomas yn rhan o’r rhaglen, a lleisiau Côr Siambr Prifysgol Bangor.
“Mae Dilys Elwyn-Edwards a’i chaneuon wedi bod yno erioed i mi: 6 Chân i Blant a Chaneuon y Tri Aderyn a’m denodd ati, ac yna rhywsut roedd hi wastad yno. Yn gyw gantores yn setlo yn Y Felinheli ar ddechrau’r nawdegau, roedd y pleser o ddod i’w hadnabod, ac yna’r fraint ohoni’n cyfansoddi ‘Dwy Gân i Fair’ yn arbennig ar fy nghyfer, yn rhywbeth y trysoraf am byth. Pleser yw gwahodd un sydd yn meddu ar ysgafnder, hyblygrwydd a phrydferthwch lleisiol, y soprano Elin Manahan Thomas, i berfformio detholiad o’i chaneuon yma yn Theatr Bryn Terfel.
Bydd y cyngerdd yn rhoi ffocws nid yn unig ar y canu, ond hefyd ar y cerddi a osodwyd gan Dilys Elwyn-Edwards, ei dewis o feirdd a’i dawn o greu darluniau ac awyrgylch mor gelfydd. I’r perwyl hyn, mi fydd darlleniadau gan Ifor ap Glyn o un o gerddi’r Tymhorau, Dywed Fair, Caneuon Natur, Caneuon y Tri Aderyn ac eraill, ac ambell i stori i ni am y beirdd a osodwyd ganddi, a’i pherthynas â nhw. Yn cloi’r noson bydd perfformiad o soned er cof am Dilys Elwyn-Edwards wedi ei osod gan gyfaill agos iddi, y cyfansoddwr Geraint Lewis.
Meddai Elen ap Robert, “Mae’n debyg mai’r soned a berodd yr anhawster mwyaf iddi oedd Hiraeth yn y Môr, a ddaeth wrth gwrs yn un o’i chaneuon mwyaf enwog. Priodol yw hi felly i ni gomisiynu Ifor ap Glyn i ‘sgrifennu ar y ffurf hwn i gofio am Dilys. Priodol hefyd yw hi fod cyfaill mynwesol iddi, Geraint Lewis, yn rhoi alaw i’r geiriau hyn – gyda’r gân yn cael ei pherfformio gan soprano sydd ond llynedd wedi rhyddhau detholiad o’i chaneuon ar gryno ddisg.
“Edrychwn ymlaen at y digwyddiad arbennig iawn yma fel teyrnged i ddawn a pherson unigryw ar Ddydd Gwyl Dewi. Mae ein dyled iddi fel cenhedlaeth o gantorion yng Nghymru yn enfawr, ac mae’n bryd nawr i’r genhedlaeth nesaf brofi’r un wefr a chael eu swyno gan ddawn Dilys Elwyn Edwards.”
Dathlu Dawn Dilys Elwyn-Edwards
Theatr Bryn Terfel, Pontio, Bangor
Nos Wener 1 Mawrth, 7.30pm
Tocynnau £14/£12 dros 60/£5 myfyrwyr a dan 18
Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2019