Dyfarnu Cyfrif Cynyddu Effaith - gwobr o fri a fydd yn arwain at fwy o gyfnewid ymchwil economaidd a chymdeithasol
Mae Prifysgol Bangor wedi ennill gwobr o fri a fydd yn cynyddu gallu'r Brifysgol i rannu ymchwil ym meysydd gwyddorau economaidd a chymdeithasol â’r gymdeithas ehangach.
Dyfarnwyd dros £670,000 i Brifysgol Bangor gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) - un o brif gyrff dyfarnu arian ymchwil y DU.
Mae'r Brifysgol ymhlith 24 o sefydliadau ymchwil o bwys i dderbyn Cyfrif Cynyddu Effaith (IAA) yr ESRC, a fydd yn rhedeg tan 2018.
Bydd yr IAA yn cefnogi gweithgareddau sy'n hyrwyddo a chynorthwyo rhannu gwybodaeth rhwng y Brifysgol a sefydliadau, grwpiau, ac unigolion eraill. Y bwriad yw cynyddu'r effaith a gaiff ymchwil i’r gwyddorau cymdeithasol mewn gwahanol adrannau yn y Brifysgol. Yn ymarferol, mae hynny’n golygu y bydd mwy o grwpiau, cymunedau, sefydliadau, gwneuthurwyr polisi ac eraill yn elwa o waith ymchwil y Brifysgol trwy bennu polisi a gwneud penderfyniadau ar sail yr ymchwil honno, neu’n gallu newid neu addasu'r ffordd y maent yn gweithio ar sail y dystiolaeth ymchwil. Bydd hyn yn golygu bod ymchwil ddefnyddiol yn cael mwy o ddylanwad uniongyrchol ar gymdeithas.
Croesawodd David Shepherd, y Dirprwy i’r Is-ganghellor sydd yn gyfrifol am ymchwil, y dyfarniad gan ddweud:
"Bydd y cyllid newydd yn ein galluogi i sicrhau bod ein hymchwil yn cael mwy o effaith economaidd a chymdeithasol drwy gysylltu a chydweithio gyda sefydliadau allanol. Bydd yn rhoi hwb sylweddol i'n gwaith o gyflwyno gwybodaeth i eraill trwy greu cysylltiadau gwell, fel bod ein canfyddiadau ymchwil yn cael yr effaith a’r budd mwyaf."
Er enghraifft, cwblhaodd yr Athro Dyfrig Hughes o Goleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad y Brifysgol broject ymchwil yn ddiweddar: Polisïau ar sail tystiolaeth ar gyfer meddyginiaethau newydd. Cyfrannodd ymchwil yr Athro Hughes, mewn partneriaeth â Chanolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) at ddiffinio’r paramedrau hynny a ddefnyddir gan Lywodraethau’r Alban a Chymru i werthuso ariannu cyffuriau. Arweiniodd at arbedion blynyddol o £32 miliwn i gyllideb y GIG.
Arweiniodd ymchwil yr Athro Lew Hardy yn y Coleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad at newidiadau yn y ffordd y darperir hyfforddiant yn y tri Llu Arfog. Ffurfiwyd sefydliad hyfforddi newydd, ynghyd â chorff monitro a hyfforddi i'r tri llu, gwelwyd iechyd meddwl gwell ymysg recriwtiaid i'r gwasanaeth milwrol a gostyngiad sylweddol yn y cyfraddau ymadael (hyd at 15%). Cynhaliwyd y project ymchwil, ‘Train in, not select out’, mewn partneriaeth ag Isadran Recriwtio a Hyfforddiant (ARTD) y Fyddin Brydeinig. Mae’r model a ddatblygwyd gan Fangor yn sgil yr ymchwil hon hefyd wedi cael ei ddefnyddio gan luoedd arfog Canada a’r Unol Daleithiau.
Bydd y IAA hefyd yn galluogi'r Brifysgol i wella’i dealltwriaeth o gyfnewid gwybodaeth, ac yn galluogi'r Brifysgol i gynyddu effaith projectau a rhaglenni ymchwil a ariennir gan yr ESRC. Bydd y Brifysgol yn darparu rhaglen o ddigwyddiadau sy'n anelu at arddangos a chyd-greu syniadau ac ymchwil ac at gryfhau cysylltiadau â'r gwahanol rhanddeiliaid.
Bydd yr Athro Hughes a’r Athro Hardy ymhlith y siaradwyr mewn digwyddiad lansio ym Mhrifysgol Bangor ar 16 Mawrth.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mawrth 2015