Dyfarnu Cymrodoriaeth Addysgu i Lywydd MDIS
Mewn seremoni arbennig, mae Prifysgol Bangor wedi dyfarnu Cymrodoriaeth Addysgu bwysig i Dr Eric Kuan, Llywydd Management Development Institute of Singapore (MDIS).
Dyfernir Cymrodoriaethau Addysgu gan y Brifysgol i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i addysgu. Mae Dr Kuan wedi cael gyrfa anhygoel o hir a disglair yn y sector prifysgolion mewn llawer o wledydd.
Mae wedi cael swyddi rheoli uwch ym maes gweithgynhyrchu, ym maes rheoli deunyddiau a logisteg, ac mewn swyddi gwerthu a marchnata, y cyfan mewn amrywiaeth o gwmnïau rhyngwladol o America, Prydain a Singapore.
Dywedodd yr Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is-ganghellor: "Mae addysgu Dr Kuan yn llawn angerdd a brwdfrydedd, ond mae hefyd yn cael ei lywio gan enghreifftiau ymarferol gydag anecdotau defnyddiol.
"Mae Dr Kuan yn gredwr cryf mewn cysyniad dysgu gydol oes, yn gwneud yr hyn mae'n ei bregethu ac yn meddu ar amrywiaeth eang o gymwysterau mewn disgyblaethau mor amrywiol â dadansoddi busnes, gweinyddiaeth gyhoeddus ac addysg."
Partner masnachfraint Prifysgol Bangor yw MDIS (ers 2013) sy'n cyflwyno rhaglenni gradd Prifysgol Bangor yn Singapore ar gyfer cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig yn yr Ysgol Busnes. Sefydlwyd MDIS yn 1956, ac mae’n un o sefydliadau dysgu gydol oes hynaf Singapore, ac yn un o'r sefydliadau mwyaf gyda dros 12,500 o fyfyrwyr.
Mae Dr Kuan wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol Bangor am nifer o flynyddoedd, yn strategol wrth helpu i ddatblygu cyrsiau ar y cyd gan Fangor yn Uzbekistan, drwy gynnal partneriaethau Bangor yn Singapore, ac yn fwy diweddar, helpu gyda chynllun newydd ym Malaysia.
Cyflwynwyd y Gymrodoriaeth Addysgu i Dr Kuan gan yr Athro John G Hughes, Is-ganghellor, a ddywedodd: "Rydym yn falch iawn o gyflwyno Cymrodoriaeth Addysgu i Dr Kuan i gydnabod ei yrfa ryfeddol. Gydag ystod amrywiol o arbenigedd, mae wedi dysgu am ddegawdau lawer mewn meysydd rheoli, gweinyddiaeth gyhoeddus ac addysg, gan ysbrydoli miloedd o fyfyrwyr ar hyd y ffordd."
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2018