Dyfarnu Cymrodoriaeth Marie Skłodowska-Curie yn y Brifysgol
Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Marie Skłodowska-Curie, sy'n gymrodoriaeth fawr ei bri, i Dr Alexander Sedlmaier sy'n ddarllenydd mewn Hanes Modern ym Mhrifysgol Bangor. Mae'r cymrodoriaethau hyn yn hynod gystadleuol a'u bwriad yw meithrin ymchwil ryngddisgyblaethol, hyfforddiant academaidd arloesol a chydweithio rhyngwladol.
Mae Dr Sedlmaier wedi bod yn addysgu ym Mangor ers 2007. Mae'n arbenigo mewn hanes cyfoes yr Almaen, Ewrop a Gogledd America, ac yn benodol, mewn astudiaethau rhyfel a hanes mudiadau protest a mudiadau cymdeithasol. Yn ystod y gymrodoriaeth hon dros 18 mis bydd yn ymuno â thîm amlddisgyblaethol o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bochum, yn ardal y Ruhr yn yr Almaen.
Mae'r dulliau gwleidyddol sy'n cael eu defnyddio gan y sawl sy'n troi at brotest ar adeg rhyfel yn bwnc heriol sy'n ysgogi rhywun i feddwl. Bydd y project hwn yn canolbwyntio ar y cyfnod rhwng y Rhyfel Byd Cyntaf a Rhyfel Irac ac yn defnyddio ystod o ddulliau hanesyddol - gan gynnwys hanes mudiadau protest a mudiadau cymdeithasol, hanes rhyfel a syniadaeth wleidyddol - ar y cyd ag astudiaethau ffilm ac astudiaethau gweledol.
Yng ngeiriau Dr Sedlmaier:
"Mae'r diddordeb parhaus yn y mudiad a wrthwynebai'r rhyfel yn Fietnam yn aml wedi cuddio'r ffaith bod rhyfeloedd wedi achosi protest ar sawl lefel trwy gydol yr ugeinfed ganrif a chyn hynny. Yn gyffredinol mae protestio mewn perthynas â rhyfeloedd wedi bod yn cael ei ystyried yn nhermau mudiadau heddwch yn hytrach na chael ei ymgorffori'n rhan o weledigaeth o wrthdystiadau protest ledled Ewrop ar adeg rhyfel, o erydiad rhannol mudiadau heddwch dan amodau rhyfel, a'r defnydd o rym y wladwriaeth i wrthsefyll protestio ar adeg rhyfel."
"Llawn cyn bwysiced, mae gwrth-haeru cyfreithlondeb, sef hanfod protestio, yn parhau yn rhyngwyneb na wnaed digon o ymchwil iddo fel rhan o brofiadau ac o ymateb cymdeithasau i ryfel. Does dim ymgais systematig wedi ei gwneud i osod astudiaethau rhyfel ac ymchwil protest - sef dau o feysydd mwyaf egnïol hanes cyfoes - i ymddiddan â'i gilydd yn agos."
Drwy fabwysiadu persbectif newydd a dull gweithredu ffres, mae project Dr Sedlmaier yn ceisio archwilio natur protest, deall protestiadau'r gorffennol yn well a chyd-destunoli hynny - gan ddangos fod y rhan fwyaf o bobl yn siarad yn negyddol am ryfel fel ffenomen haniaethol, tra bônt yn cymeradwyo rhai rhyfeloedd mewn rhan amgylchiadau.
Fel mae Dr Sedlmaier yn egluro: "Rydw i wedi fy nghyfareddu gan y ffyrdd y mae'r sawl sydd wedi herio rhyfeloedd penodol wedi cofleidio ffyrdd amgen i fynegi eu hunain yn wleidyddol gan fod y sianeli sefydledig ar gyfer gwneud penderfyniadau gwleidyddol yn cael eu rheoli gan gefnogwyr y rhyfeloedd hynny. Bydd y project cyffrous hwn yn golygu y gallaf ddatblygu'r drafodaeth ynghylch rhyfel fel dull o beri newid diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol."
Meddai'r Athro Andrew Edwards, Deon y Celfyddydau a’r Dyniaethau:
“Rydym yn hynod falch bod Dr Sedlmaier wedi cael cymrodoriaeth â chymaint o fri yn perthyn iddi. Yn amlwg mae hwn yn broject a fydd o ddiddordeb mawr i academyddion, gwleidyddion a'r cyhoedd yn ehangach ac mae'n sicr y bydd yn cael effaith sylweddol ar ddadleuon cyfoes. Rydym yn enwedig o falch o'r ffaith mai hon yw’r ail Gymrodoriaeth Marie Curie a ddyfarnwyd i aelod o staff y Dyniaethau yn ystod y ddwy flynedd diwethaf ac unwaith eto mae hyn yn tanlinellu gallu'r Coleg i gynhyrchu ymchwil o bwys rhyngwladol.”
Mae'r gymrodoriaeth hon yn rhoi cyfle arbennig i Dr Sedlmaier weithio gyda phartneriaid yn y Sefydliad Mudiadau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Ruhr Bochum, Gogledd Rhein Westffalia. Y sefydliad hwnnw yw un o'r ychydig ganolfannau ledled y byd sy'n canolbwyntio ar astudiaethau rhyngddisgyblaethol o fudiadau cymdeithasol yn y cyfnod cyfoes. Mae gan gyfarwyddwr y sefydliad, yr Athro Stefan Berger enw da ledled y byd fel un o ysgolheigion pennaf ei faes.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2017