Dyfarnu Cymrodoriaeth Ymchwil o fri i Archaeolegydd o Fangor
Mae’r Athro Nancy Edwards (Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg) wedi ennill Prif Gymrodoriaeth Ymchwil Leverhulme 3-blynedd er mwyn ysgrifennu llyfr ar Fywyd yng Nghymru yn y Canol Oesoedd Cynnar.
Bu’r cyfnod rhwng cwymp rheolaeth y Rhufeiniaid a dyfodiad y Normaniaid yn allweddol o ran esblygiad Cymru, ei hiaith a’i hunaniaeth. Serch hynny, rydym yn gwybod llai am Gymru c.350-1050 O.C. nag am unrhyw ran arall o Brydain ac Iwerddon. Fel y gellir cymharu’n ehangach, bydd yr ymchwil yn ymwneud â fframwaith ehangach o ddatblygiadau diweddar mewn archaeoleg Ewropeaidd o’r canol oesoedd cynnar. Yna, archwilir y corff cynyddol o dystiolaeth archaeolegol yng nghyswllt Cymru ochr yn ochr â’r ffynonellau ysgrifenedig prin a geir, er mwyn dadansoddi sut roedd pobl yn byw – o ran anheddau, yr economi, cymdeithas a chredoau, a sut y newidiodd y rhain dros amser.
Mae Prif Gymrodoriaethau Ymchwil Leverhulme yn galluogi ymchwilwyr profiadol o fri yn y dyniaethau ac mewn gwyddorau cymdeithas i ymroi i broject ymchwil unigol sy’n neilltuol o ran gwreiddioldeb ac arwyddocâd. O’r 31 Prif Gymrodoriaeth Ymchwil a ddyfarnwyd yn 2014, mae’r Athro Edwards yn derbyn yr unig un a roddwyd i Brifysgol yng Nghymru. Yng ngeiriau Dr Peter Shapely, Pennaeth yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg, “Mae’r ffaith fod yr Athro Edwards wedi ennill Prif Gymrodoriaeth Ymchwil Leverhulme o fri yn llwyddiant arbennig, iddi ei hun a hefyd i’r Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg.”
Athro Archaeoleg yr Oesoedd Canol ym Mhrifysgol Bangor yw Nancy Edwards. Mae ei hymchwil, a llawer ohoni’n aml-ddisgyblaethol, yn canolbwyntio ar archaeoleg Prydain ac Iwerddon c.400-1100 O.C. Mae hi wedi cyhoeddi’n helaeth ar archaeoleg Cymru yn y canol oesoedd cynnar, yn benodol ar gerflunwaith ac ar archaeoleg yr eglwys.
Yn ddiweddar, mae’r Athro Edwards wedi cwblhau project ymchwil o bwys ar Feini Arysgrifedig y Canol Oesoedd Cynnar a Cherflunwaith Meini yng Nghymru. Roedd hyn mewn partneriaeth â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac Amgueddfa Cymru, ac fe’i cyllidwyd gan yr Academi Brydeinig, Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, Prifysgol Cymru, Prifysgol Bangor a Chymdeithas Hynafiaethau Cymru.
Mae hi hefyd wrthi’n ysgrifennu ar Broject Eliseg, project cloddio i edrych ar gynnwys archaeolegol Colofn Eliseg, croes garreg o’r nawfed ganrif sy’n sefyll ar garnedd gladdu ger Llangollen, Sir Ddinbych. Cyllidwyd y project (gyda Dr Gary Robinson, Prifysgol Bangor, a’r Athro Howard Williams, Prifysgol Caer) gan Cadw, Cymdeithas Hynafiaethwyr Llundain, Prifysgol Cymru, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caer, y Gymdeithas Gynhanesyddol, a Chymdeithas Hynafiaethau Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Ionawr 2015