Dyfarnu Gwobr o Fri i Staff Ysgol yr Amgylchedd Naturiol, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth
Mae Dr James Walmsley a’r Athro Doug Godbold wedi ennill gwobr fawreddog Coedamaeth 2010 gan y Sefydliad Coedwigwyr Siartredig, am eu herthygl ‘Stump Harvesting for Bioenergy – A Review of the Environmental Impacts’, a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn Forestry 83(1).
Wrth agor llythyr y wobr, dywedodd James, “Mae’n anrhydedd fod ein hymchwil wedi’i chydnabod fel hyn. Daw hyd at 40% o fiomas coed mewn coedwigoedd o’r system boncyffion a gwreiddiau ac, ar adeg y mae’r galw am ffibr biomas at gynhyrchu ynni yn cynyddu’n gyflym, mae echdynnu boncyffion yn fecanyddol yn ffynhonnell newydd a sylweddol o ddeunydd. Yn ddiweddar, mae diwydiant coedwigaeth y DU wedi cychwyn ar brofion cywain boncyffion ar raddfa fawr, a cheir pryderon mawr am effeithiau hyn ar yr amgylchedd. Buom yn gweithio’n galed iawn i gynnal a chyhoeddi adolygiad cynhwysfawr ar y llenyddiaeth, er mwyn deall yr amrywiaeth o effeithiau y gallai eu cael a gwneud hynny’n hysbys. Yn benodol, buom yn gallu canfod buddion a chostau, fel ei gilydd, gan helpu’r sector coedwigaeth i ganfod pryd a lle y gall cywain boncyffion fod yn dderbyniol. Mae buddion posibl yn cynnwys amnewid tanwydd ffosil, cynyddu’r refeniw o berchnogion coedwigoedd, gwella’r gwaith o baratoi safleoedd, a’r posibilrwydd o leihau plâu a chlefydau mewn coedwigoedd. Mae’r anfanteision yn cynnwys mwy o erydiad ar y pridd, o gywasgiad ac o ddisbyddiad ar faethion, effeithiau ar ollyngiadau nwyon tŷ gwydr ar bridd coedwigoedd, colli cynefinoedd ffyngau a thrychfilod, a chynnydd tebygol mewn tyfiant heblaw coed, a hynny’n arwain at fwy o alw am chwynladdwyr. Mae’r wobr hon yn dangos bod y diwydiant coedwigaeth wedi rhoi sylw i’n canfyddiadau, ac yn gwerthfawrogi ein hargymhellion.”
Mae Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau gradd ôl-radd ac is-radd sydd wedi’u hachredu gan y Sefydliad Coedwigwyr Siartredig, yn cynnwys MSc mewn Coedwigaeth trwy ddysgu o bell. Bwriad y cwrs hwn yw caniatáu i fyfyrwyr sydd mewn swydd lawn-amser neu ag ymrwymiadau teuluol, ac na fyddai dilyn cwrs Prifysgol llawn-amser yn ymarferol iddynt, astudio ar gyfer cymhwyster ôl-radd o ansawdd uchel ac a gydnabyddir yn rhyngwladol, mewn maes pwnc sy’n gysylltiedig â choedwigaeth.
Cyflwynir y wobr i’r enillwyr yng Nghinio Cynhadledd Genedlaethol y Sefydliad Coedwigwyr Siartredig, sydd i’w chynnal eleni yn Birmingham ar 13 Ebrill 2011.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mawrth 2011