Dyfarnu Medal Cwmni’r Brethynwyr i fyfyrwraig o Fangor
Ar 1 Mai 2012, derbyniodd Elina Hamilton, myfyrwraig PhD yn ymchwilio i theori cerddoriaeth ganoloesol, y fedal Efydd am lwyddiant ôl-radd neilltuol. Mae’r wobr fawreddog hon yn un o chwech yn unig i’w dyfarnu erioed. Cyflwynwyd hi ar ôl i Elina gael ei henwebu gyda 18 o ymgeiswyr eraill ar draws y Brifysgol. Roedd maen prawf ar gyfer y wobr yn seiliedig ar lwyddiant academaidd ac ymgysylltiad â’r gymuned academaidd, ym Mhrifysgol Bangor a hefyd yn rhyngwladol. Roedd ystyriaethau’n cynnwys ymgeiswyr a oedd wedi rhoi cyfraniad arbennig o dda yn academaidd, yn ddiwylliannol neu’n gymdeithasol trwy ysgolheictod, effaith eu hymchwil, cynhaliaeth fugeiliol a mentora, cymorth i recriwtio, helpu’r Brifysgol i wella ei henw da, neu ennill cyhoeddusrwydd gwych i Brifysgol Bangor.
Mae Elina hefyd wedi ennill Ysgoloriaeth Ymchwil Ddathlu ym Mhrifysgol Bangor. Ar hyn o bryd, mae pwnc ei hymchwil PhD yn edrych ar theori cerddoriaeth ganoloesol. Er bod cynnwys traethodau theoretig yn wybyddus ymysg cerddoregwyr, ni fuwyd erioed yn archwilio eu defnydd gwirioneddol o fewn cyd-destun hanesyddol ac addysgol. Gan ddwyn y teitl ‘Teaching the Old and New: Didactic Applications of Fourteenth-Century English Music Theory’, bu ei thraethawd yn canolbwyntio’n bennaf ar De speculatione musica, gwaith o eiddo Walter o Evesham (Walter Odington).
Meddai Dr Christian Thomas Leitmeir, goruchwyliwr Elina yn yr Ysgol Cerddoriaeth:
“Rwy’n hynod o falch fod Elina wedi ennill y wobr fawreddog hon, yr oedd yn ei haeddu am gymaint o resymau. Er ei bod yn dal yn fyfyrwraig PhD, mae hi wedi cyfrannu mewn modd sylweddol at ysgolheictod, trwy ei hymchwil ei hun a hefyd wrth drefnu cynadleddau. Heblaw hynny, mae hi wedi bod yn athrawes ymroddedig, sy’n cael llawer o barch gan ein myfyrwyr a hefyd yn boblogaidd iawn. Mae’n briodol iawn fod elusen sydd â’i gwreiddiau yn yr Oesoedd Canol yn adnabod dawn cyw ysgolhaig ym maes yr oesoedd canol.”
Mae Cwmni’r Brethynwyr yn gild canoloesol o Lundain, ac yn un o’r deuddeg cwmni lifrai cyntaf a adwaenir fel The Great Twelve. Heddiw, corff elusennol yn bennaf yw’r cwmni, a chanddo gysylltiadau agos â sawl sefydliad addysgiadol. Mae Prifysgol Bangor yn un o 17 o sefydliadau, yn cynnwys Coleg Penfro, Caergrawnt, Y Frenhines Fair, Prifysgol Llundain, a Choleg y Santes Ann, Rhydychen, y mae’r cwmni’n gysylltiedig â hwy fel sefydliad elusennol.
Ers mwy na chan mlynedd, mae’r Cwmni’n gysylltiedig â Phrifysgol Bangor, ar y cychwyn wrth roi grantiau sylweddol tuag at godi rhai o brif adeiladau’r Brifysgol, yn cynnwys y llyfrgell, y labordai gwyddoniaeth a’r Adran Peirianneg Electronig. Heddiw, trwy Gronfa Addysgol Thomas Howell ar gyfer Gogledd Cymru, mae’r Cwmni’n cefnogi myfyrwyr is-raddedig ac ôl-raddedig mewn amryw o adrannau a chyfadrannau, ac yn cyfrannu at gronfa galedi ôl-radd sy’n darparu rhywfaint o gymorth tuag at gostau byw unigolion.
http://www.thedrapers.co.uk/Company/Supporting-Education.aspx#bangoruniversity
Dyddiad cyhoeddi: 5 Medi 2012