Dyfarnu Medal Cwmni’r Brethynwyr i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor
Cafodd myfyrwyr o Brifysgol Bangor eu cyflwyno gyda Medalau’r Brethynwyr yn ddiweddar.
Mae Cwmni’r Brethynwyr yn un o Gwmnïau Lifrai hanesyddol dinas Llundain, sydd bellach yn gweithredu fel mudiad dyngarol. Mae dwy fedal yn cael ei chyfrannu bob blwyddyn gan Gwmni’r Brethynwyr i fyfyrwyr ôl-radd.
Bu’r Athro Carol Tully, Dirprwy Is-ganghellor (myfyrwyr) yn arwain y seremoni, a chyflwynodd Nicholas Bence-Trower, Prif Feistr y Brethynwyr y medalau i’r myfyrwyr. Mae’r medalau’n wobrau o fri, sy’n rhoi ystyriaeth i ansawdd ymchwil, addysgu a gwasanaeth myfyriwr i’r Brifysgol a’r gymuned.
Enillodd Stephen Clear fedal arian Cwmni’r Brethynwyr ac mae ar fin cwblhau PhD ym maes caffael cyhoeddus ac adolygiad barnwrol o fewn Ysgol Y Gyfraith; yn benodol yn gwneud ymchwiliadau empirig i mewn i’r angen o adolygiad barnwrol fel llwybr adferol mewn anghydfodau caffael cyhoeddus.
Dywedodd Stephen: "Mae'n fraint ac yn anrhydedd i dderbyn y wobr hon. Drwy gydol fy astudiaethau, rwyf wedi cael sawl cyfle i gyflwyno fy ymchwil, nid yn unig yn fewnol, ond hefyd yn allanol mewn cynadleddau cenedlaethol. Rwy'n ddiolchgar iawn i fy ngoruchwyliwr traethawd ymchwil, Dr Ama Eyo, am ei holl mentora ac arweiniad drwy gydol fy nghyfnod fel myfyriwr ôl-raddedig yn yr Ysgol.
“Mae wedi bod yn fraint i gwblhau fy ymchwil traethawd hir ym Mhrifysgol Bangor. Yr wyf wedi cael budd nid yn unig o arbenigedd helaeth sydd o fewn Ysgol y Gyfraith, ond hefyd rydwyf wedi cael nifer o gyfleoedd i ddatblygu fy CV fel academydd gyrfa gynnar. Mae Ysgol y Gyfraith wedi cynnig profiadau gwych i mi, fel tiwtor/athro ac fel ymchwilydd. Yr wyf yn ddiolchgar iawn i'r Athro Dermot Cahill, Pennaeth yr Ysgol, a'r holl staff am eu cefnogaeth. Nawr yr wyf yn agos at gwblhau fy nhraethawd PhD, mae’r wobr hon wedi rhoi hwb i mi fynd ymlaen tuag at gamau olaf fy ngwaith. "
Cafodd Claire Louise Catherall ei chyflwyno gyda Medal Efydd y Brethynwyr. Mae Claire wedi cwblhau PhD ar Nodweddion Poblogaeth a Rhyngweithiadau Amgylcheddol Pysgodfa Cregyn Bylchog Brenhinol yn y Sianel o fewn yr Ysgol Gwyddorau Eigion yn ddiweddar.
Dywedodd Claire: "Rwy'n falch iawn o dderbyn y wobr hon. Mae wedi bod yn gyfle gwych i wneud y PhD a bod yn rhan o Ysgol Gwyddorau Eigion y Brifysgol ac mae'n wych cael cwblhau’r prosiect tair blwyddedd a hanner uchelgeisiol yma mewn ffordd mor bositif. Mae'r ymchwil yr wyf wedi ei wneud yn ystod fy PhD wedi bod yn anhygoel o amrywiol. Yr wyf wedi cynnal arolwg cynefin o ardal pysgota am gregyn bylchog ar fwrdd y llong ymchwil Prince Madog, yr wyf wedi cwblhau teithiau niferus ar fwrdd llongau Cregyn Bylchog masnachol i samplo dalfeydd achlysurol ac rwyf wedi dysgu llawer o dechnegau labordy a dadansoddi.
"Rwyf hefyd wedi treulio llawer o amser yn siarad â physgotwyr i gael gwybod am farn y diwydiant ar fesurau rheoli pysgodfeydd presennol a'r ddylanwad economig-gymdeithasol ar ymddygiad pysgota. Mae'r holl ddata yr wyf wedi’i gasglu yn cael ei ddefnyddio i gyfrannu at reolaeth fwy effeithiol a chynaliadwy ar gyfer y bysgodfa, sy'n hanfodol o dan ddeddfwriaeth newydd yr UE sy'n gofyn i bob pysgodfa gael eu rheoli mewn ffordd gynaliadwy.
"Mae’r profiad o weithio mor agos gyda'r diwydiant pysgota yn y DU a’r gwaith yr ydwyf wedi ei wneud ag adrannau'r Llywodraeth sy'n gyfrifol am reoli pysgodfeydd wedi bod yn amhrisiadwy gyda fy ymchwil a datblygu fy ngyrfa. Yr wyf yn gobeithio parhau â'r gwaith o fewn ymchwil pysgodfeydd yn awr fy mod wedi cwblhau fy PhD, ac mae gan Brifysgol Bangor y cyfleusterau diweddaraf ac adran Gwyddorau Eigion gwych i wneud hyn. "
Dywedodd Nicholas Bence-Trower: "Rydym yn falch iawn o fod ym Mangor ac mae'n wych i gael dyfarnu’r medalau i'r myfyrwyr. Rydym yn gwerthfawrogi ein perthynas â Phrifysgol Bangor, sydd wedi bodoli ers nifer o flynyddoedd ac rwy'n gobeithio y bydd yn parhau am flynyddoedd lawer i ddod."
Ers dros can mlynedd, mae’r Cwmni’n gysylltiedig â Phrifysgol Bangor, ar y cychwyn wrth roi grantiau sylweddol tuag at godi rhai o brif adeiladau’r Brifysgol, yn cynnwys y llyfrgell, y labordai gwyddoniaeth a’r Adran Peirianneg Electronig. Heddiw, trwy Gronfa Addysgol Thomas Howell ar gyfer Gogledd Cymru, mae’r Cwmni’n cefnogi myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig mewn amryw o adrannau a chyfadrannau, ac yn cyfrannu at gronfa galedi ôl-radd sy’n darparu rhywfaint o gymorth tuag at gostau byw unigolion.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2015