Dyfarnu Medalau Cwmni’r Brethynwyr i ddwy fyfyrwraig eithriadol
Mae dwy fyfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn Medalau’r Brethynwyr yn ddiweddar.
Dyfarnwyd y medalau gan Gwmni’r Brethynwyr, un o Gwmnïau Lifrai hanesyddol dinas Llundain, sydd bellach yn gweithredu fel mudiad dyngarol. Dyrniad o fedalau sy’n cael eu rhoi bob blwyddyn. Mae’r medalau’n cael eu dyfarnu i fyfyrwyr eithriadol, yn seiliedig ar gyrhaeddiad academaidd ac ymwneud â’r gymuned academaidd o fewn y brifysgol ac yn rhyngwladol, yn ogystal â chyfraniad diwylliannol a chymdeithasol trwy ysgolheictod, effaith ymchwil, cefnogaeth fugeiliol a mentora.
Derbyniodd Rosie Poynor, myfyrwraig PhD yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Fedal Arian am ei gwaith academaidd ac am ei chyfraniad at addysg ei chyd fyfyrwyr. Mae disgwyl i’w gwaith ymchwil effeithio ar berfformiad chwaraeon drwy wella addysg hyfforddwyr a pherfformiad.
Mae Rosie ym mlwyddyn olaf ei doethuriaeth- sy’n cael ei hariannu’n rhannol gan Chwaraeon Cymru. Mae’r ymchwil yn broject cymhwysol heriol ym maes newid ymddygiad hyfforddwyr. Bydd ymdriniaeth arloesol Rosie’n darparu model ymarfer gorau ar gyfer yr holl faes. Mae disgwyl i’r gwaith gael effaith sylweddol ar drylwyredd ymchwil ymyriad ym maes chwaraeon ac ymarfer a gwella ansawdd addysg hyfforddwyr yn y dyfodol.
Mae’r project PhD wedi ei gyflwyno mewn cynhadledd a gynhaliwyd gan Gomisiwn Ewropeaidd Addysg Gyffredinol fel esiampl o ymarfer gorau wrth drosglwyddo gwybodaeth o brifysgol i gorff allanol. Mae Rosie hefyd wedi datblygu cwrs dysgu ar-lein sydd ar gael i hyfforddwyr chwaraeon ar draws y byd ac wedi cyflwyno’i gwaith ymchwil mewn sawl cynhadledd ryngwladol.
Yn ogystal â hyn, mae Rosie wedi gwneud cyfraniad neilltuol i’r Brifysgol drwy gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau sydd y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylir gan fyfyrwyr ôl-radd.
Mae Rosie’n aelod ymrwymedig a gweithgar o Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît yr Ysgol, sef y grŵp ymchwil gorau ar draws y byd ym maes perfformiad elît. Mae Rosie’n cydweithio’n annibynnol efo aelodau ymchwil ôl-radd eraill ar ymchwil ychwanegol tu allan i faes ei doethuriaeth. Mae gweithredu annibynnol o’r fath yn dyst i alluoedd Rosie fel myfyrwraig PhD.
Mae Rosie hefyd yn cydlynu modiwlau, yn darlithio ac yn goruchwylio projectau, gan roi addysg a chefnogaeth o safon arbennig i’r myfyrwyr y mae hi’n gweithio a hwy. Mae ei gwaith ymgynghorol ym meysydd seicoleg chwaraeon ac ymchwil ymyriad efo hyfforddwyr ac athletwyr elît ac iau yng Nghymru ac ar draws y DU a thramor ynddo’i hun yn profi ei bod yn llysgennad arbennig iawn dros y brifysgol. Ers deunaw mis mae wedi gweithio fel ymgynghorydd seicoleg chwaraeon gwirfoddol efo Academi a thîm o dan 18 Rygbi Gogledd Cymru . Cyfrannodd ei gwaith at sefydlu partneriaeth rhwng y Brifysgol a’r clwb rygbi, sydd yn fodd i gadw athletwyr o safon uchel yng ngogledd Cymru. Ffurfiodd Rosie Grŵp Ymarfer Cymhwysol ar gyfer datblygu Ymarferwyr Seicoleg Chwaraeon yng Ngogledd Cymru a’r Gogledd Orllewin. Hi sy’n cyfarwyddo’r grŵp, sydd yn cyfarfod dros ddau ddiwrnod ddwy neu deirgwaith y flwyddyn, a hyn eto’n fodd i godi proffil y Brifysgol ym maes ymgynghori ac ymchwil seicoleg chwaraeon.
Meddai Dr Nichola Callow, Deon y Coleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad: “Mae Rosie yn gynrychiolydd gwych i’r ysgol trwy ei gwaith efo hyfforddwyr ar draws Cymru a’i gwaith ymgynghorol seicoleg chwaraeon efo nifer o athletwyr elît. Mae hi’n fyfyrwraig eithriadol ac mae wedi bod yn bleser gweithio gyda hi a’i goruchwylio. Rydym yn falch iawn o’i llwyddiant hyd yn hyn, ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at gael bod yn dyst i ragor o lwyddiant yn y blynyddoedd sydd i ddod.”
Dyfarnwyd Medal Efydd Cwmni’r Brethynwyr i Helen Glanville o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth. Yn ddiweddar mae Helen wedi ennill ei doethuriaeth ym maes gwyddor amgylcheddol. Mae gwaith Helen wedi cyfrannu ’n sylweddol at ein dealltwriaeth o sut y bydd tirweddau, a chefn gwlad amaethyddol Cymru’n benodol, yn ymateb i newid hinsawdd.
A hithau wedi graddio mewn daeareg o Brifysgol Birmingham ac yna wedi gweithio yn y diwydiant olew a nwy cyn treulio cyfnod yn gweithio fel athrawes yn Ne Korea, penderfynodd Helen fynd i astudio wedyn ym Mhrifysgol Bangor.
Mae gwaith academaidd Helen wedi bod o’r safon uchaf a dangosodd yn fuan iawn fod ganddi ddawn naturiol at ymchwil. Cafodd pum papur ymchwil ganddi eu cyhoeddi mewn cylchgronau ymchwil rhyngwladol a bu’n darlithio ar ei gwaith mor bell ag Awstralia. Tra’n astudio, cafodd y cyfle i ymweld â chylch yr Arctig i astudio newid hinsawdd mewn man lle gwelir yr effaith fwyaf. Roedd wrth ei bodd efo’r profiad ac mae hi’n gobeithio teithio i’r pegwn arall i gael profiad cyflawn.
Mae Helen wedi bod yn gefn i lawer o fyfyrwyr doethurol eraill, yn rhoi cefnogaeth ac arweiniad gwerthfawr iddynt yn eu hastudiaethau. Ar ddechrau ei hastudiaethau, trefnodd Helen ‘Grŵp Monitro Nwyon Tŷ-Gwydr’ er mwyn galluogi staff a myfyrwyr y Brifysgol ynghyd â staff Canolfan Ecoleg a Hydroleg Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, sydd hefyd ar safle’r Brifysgol, i gyd-drafod profiadau am y ffyrdd orau a gwaethaf o fesur allyriadau CO2 a methan yn y pridd. Mae hefyd wedi cymryd arni hi hun i drefnu gweithgareddau cymdeithasol trwy gydol ei doethuriaeth gan wneud y tîm yn uned glos.
A hithau efo profiad dysgu blaenorol, mae Helen hefyd wedi cyfrannu at ddysgu myfyrwyr israddedig, er mwyn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, gan ddarparu profiad o safon uchel i’r myfyrwyr. Bu Helen hefyd yn darparu cefnogaeth dechnegol ar gyfer y daith maes i fyfyrwyr israddedig i Tenerife.
Wrth sôn am y wobr, dywedodd yr Athro Carol Tully, Dirprwy Is-ganghellor (Myfyrwyr): “Mae Helen i weld yn un o’r bobl brin hynny a all gadw ei synnwyr digrifwch ar adegau anodd ac sydd wastad yn barod i roi cymorth i eraill pan fyddant mewn angen. Mae hi’n gaffaeliad i’r brifysgol ac mae’r fedal yn wobr haeddiannol am ei hymdrechion.”
Mae dros ganrif o gyswllt wedi bod rhwng Cwmni’r Brethynwyr a’r brifysgol, ar y cychwyn drwy grantiau sylweddol y cwmni tuag at adeiladu’r prif adeilad, gan gynnwys y llyfrgell, y labordai gwyddoniaeth a’r adran peirianneg electronig. Ar hyn o bryd, mae’r cwmni yn cefnogi myfyrwyr israddedig ac ôl-radd mewn sawl ysgol a chyfadran, ac yn cyfrannu ar Gronfa Caledi Ôl-radd sydd yn darparu rhywfaint o gymorth tuag at gostau byw unigolion.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mehefin 2013