Dyfarnu medalau Cwmni'r Brethynwyr i fyfyrwyr Prifysgol Bangor
Dyfarnwyd medalau Cwmni'r Brethynwyr i fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn ddiweddar. Mae Cwmni'r Brethynwyr yn un o gwmnïau lifrai hanesyddol dinas Llundain, ac sydd bellach yn sefydliad dyngarol. Bob blwyddyn mae Cwmni'r Brethynwyr, yn garedig iawn, yn rhoi dwy fedal i’w dyfarnu i fyfyrwyr ôl-radd nodedig.
Mae'r cwmni wedi bod yn gysylltiedig â’r brifysgol ers dros gan mlynedd, i ddechrau trwy grantiau sylweddol tuag at adeiladu rhai o brif adeiladau'r brifysgol, yn cynnwys y llyfrgell, labordai gwyddoniaeth a'r adran peirianneg electronig.
Arweiniodd yr Athro Carol Tully, Dirprwy Is-ganghellor (Myfyrwyr) y digwyddiad, a chyflwynodd Yr Athro Ernest Ogden, Meistr Frethynnwr, fedalau i'r myfyrwyr. Mae'r gwobrau clodwiw hyn yn rhoi ystyriaeth i ansawdd ymchwil, addysgu a gwasanaeth myfyriwr i’r Brifysgol a’r gymuned. Dywedodd Yr Athro Tully, "Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Brethynwyr am eu cefnogaeth barhaus i’r Brifysgol hon a’n myfyrwyr. Rydym yn falch iawn bod ganddynt ddiddordeb mawr yn natblygiadau'r brifysgol ac yn cael eu hysbrydoli gan ein myfyrwyr canmoladwy."
Enillodd Eduardo Bellomo, 30, o Verona, yr Eidal, fedal arian Cwmni'r brethynwyr, ac ar hyn o bryd, mae'n dod at ddiwedd ei PhD mewn Seicoleg Perfformiad yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer. Cwblhaodd Eduardo radd israddedig ym Mhrifysgol Padua, yr Eidal a daeth i Fangor i astudio ei MSc mewn Seicoleg Chwaraeon.
Dywedodd Eduardo: "Mae'n anrhydedd i mi dderbyn y wobr hon, mae'n bleser cael fy nghydnabod am y gwaith rydw i wedi'i wneud drwy gydol fy PhD. Nid fy mod i'n disgwyl ennill medal amdano, a dweud y gwir, mi ddaeth yr enwebiad fel syrpreis llwyr! Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb gymorth fy ngoruchwylwyr, fy nghyd-fyfyrwyr PhD, a'r gwasanaethau a gynigir gan y brifysgol. Mae Prifysgol Bangor wedi bod yn lle ar gyfer twf academaidd a phersonol i mi, ac rwy'n falch fy mod wedi astudio ar gyfer fy ngradd PhD yma.”
Enwebwyd Eduardo am fedal gan Dr Andy Cooke, a ddywedodd: “Mae gwobr Eduardo yn haeddiannol iawn. Mae wedi gwneud yn eithriadol ym mhob agwedd ar ei Astudiaethau Doethurol. Fel aelod o Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elitaidd, mae wedi cynnal ymchwil hynod arloesol a rhyngddisgyblaethol yn ymchwilio i batrymau actifadu a chysylltedd yn yr ymennydd wrth gaffael a pherfformio sgiliau echddygol. Mae ei ymchwil wedi datgelu sawl cam pwysig yn ymwneud â dehongliad swyddogaethol y patrymau actifedd nerfol sy'n sail i symudiad dynol, ac mae'r rhain wedi cael eu cyhoeddi mewn rhai o'r prif gyfnodolion gwyddonol yn y maes. Mae Eduardo bob amser wedi bod yn bleser gweithio gydag ef - mae'n gaffaeliad go iawn i Brifysgol Bangor - dymunaf bob llwyddiant iddo yn ei yrfa yn y dyfodol.”
Derbyniodd Aoife M Fitzpatrick, 24, o Weriniaeth Iwerddon, fedal efydd y Brethynwyr. Mae Aoife ar fin gorffen ei PhD mewn Niwrowyddoniaeth Wybyddol yn yr Ysgol Seicoleg.
Dywedodd Aoife, “Rwyf wrth fy modd o gael fy anrhydeddu fel y sawl sy'n derbyn y Wobr Efydd, diolch i Bwyllgor Gwobrau a Dyfarniadau'r Senedd am eu hystyriaeth. Mae'r gydnabyddiaeth o fod wedi gwneud cyfraniad ystyrlon i'r Brifysgol yn ystod fy amser yma yn galonogol iawn. Mae'r Ysgol Seicoleg wedi darparu amgylchedd a wnaeth fy nghyfoethogi llawer trwy gydol fy hyfforddiant academaidd. Rwyf wedi cael hyfforddiant ymchwil o'r radd flaenaf dan arweiniad arweinwyr mewn sawl maes, ochr yn ochr â mynediad at offer arbenigol ar gyfer niwrowyddoniaeth wybyddol.”
Enwebwyd Aoife am y fedal gan Dr Ken Valyear, a ddywedodd,“Mae'n wych gweld Aoife yn cael ei chydnabod. Mae'n frwdfrydig iawn ac yn ymroddedig i'w gwaith, ac mae'n dangos addewid aruthrol fel ysgolhaig ifanc. Mae hi'n haeddu'r wobr fawreddog hon. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i Gwmni'r Brethynwyr am gefnogi'r rhaglen hon. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod ein myfyrwyr gorau yn cael cyfle i gael eu cydnabod am eu gwaith caled a'u hymroddiad.”
Meddai'r Meistr Frethynnwr, yr Athro Philip Ernest Ogden: “Mae'n fraint bod yma i weld y gefnogaeth hir dymor rydym yn ei darparu mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor. Mae'n wych clywed am yr ystod eang o weithgareddau ysbrydoledig yr ydym yn gallu eu cefnogi, fel gweithgareddau ôl-raddedig a staff yma ym Mhrydain a thramor.”
Dyddiad cyhoeddi: 8 Ebrill 2019