Dyfarnu ysgoloriaeth i ddawn gerddorol o Gymru
Ar sail ei chyraeddiadau eithriadol a chefnogaeth disglair ei thiwtoriaid academaidd, dyfarnwyd un o ddwy Wobr Goffa D Afan Thomas am Gerddoriaeth Brifysgol Cymru. i Gwawr Ifan o Brifysgol Bangor.
Bydd Gwawr Ifan, myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Bangor a chyn enillydd Cronfa Thomas Ellis Prifysgol Cymru, yn derbyn £500.
Ar hyn o bryd, mae Gwawr yn astudio ar gyfer PhD yn Cerddoriaeth Mewn Iechyd yn Ysgol Gerdd Bangor, a bydd yn defnyddio ei gwobr i dalu treuliau a dynnir ar drip i Awstralia, lle bu’n mynychu cynhadledd ryngwladol a oedd yn canolbwyntio ar Gerddoriaeth Mewn Iechyd, maes a ystyrir yn un y mae’r Antipodeau’n arloesi ynddo. Tra yn y gynhadledd, cyflwynodd Gwawr papur ar Gerddoriaeth Mewn Iechyd, ac ymwelodd ag arbenigwyr sy’n ymarfer Cerddoriaeth Mewn Therapi ac hefyd creuodd cysylltiadau byd-eang.
Wrth dderbyn ei gwobr, dywedodd Gwawr;
"Mae'n rhan bwysig o'm gwaith ymchwil i rwydweithio ymhlith arbenigwyr ym maes Cerddoriaeth Mewn Iechyd, ac i ddysgu o enghreifftiau rhyngwladol o arfer da yn y maes. Mi oedd mynychu y gynhadledd yn Melbourne yn gyfle gwych i wneud hyn.
"Er mai ardal gymharol newydd, mae'r maes Cerddoriaeth Mewn Iechyd ar hyn o bryd yn ennill cydnabyddiaeth ryngwladol, gyda'r corff o ymchwil cynyddol yn profi y manteision o gerddoriaeth mewn iechyd i y gymdeithas. Bydd fy mhrofiad yn y gynhadledd yn fy helpu i bellach hyrwyddo y maes cerddoriaeth mewn iechyd yng Nghymru.
"Yr wyf yn ddiolchgar iawn am y wobr, a fydd yn cyfrannu'n fawr tuag at gost y daith hon."
Gwaddolwyd y Wobr yn 1981 o Gronfa Ganmlwyddol er cynnal y cof am D Afan Thomas (1881‑1928), Cerddor, Cyfansoddwr a Sylfeinydd yr Afan Glee Society yng Nghwmafan, Port Talbot. Ei phwrpas yw rhoi cymorth ariannol i fyfyriwr cerdd addawol er mwyn datblygu ei (h)addysg gerddorol ef neu hi.
Yr enillydd arall oedd Jordan Price Williams, myfyriwr trydedd flwyddyn yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (RWCMD), Caerdydd.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2011