Dyfarnu Ysgoloriaethau Chwaraeon i Athletwyr elit Bangor
Pob blwyddyn, bydd Prifysgol Bangor yn cefnogi myfyrwyr sydd yn ddawnus mewn chwaraeon trwy gynnig nifer o Ysgoloriaethau Chwaraeon i fyfyrwyr sy'n astudio ar gyfer gradd mewn unrhyw bwnc.
Dyfernir yr Ysgoloriaethau Chwaraeon i gydnabod a chefnogi rhagoriaeth a llwyddiant mewn chwaraeon. Eu pwrpas yw helpu myfyrwyr dawnus o safon uchel i gyfuno eu hastudiaethau academaidd a’u perfformiad chwaraeon i'w cynorthwyo i gyflawni eu potensial llawn.
Meddai Richard Bennett, Cyfarwyddwr Chwaraeon: "Yn dilyn y buddsoddiad helaeth yn y cyfleusterau, rydym hefyd yn falch iawn o allu dyfarnu mwy o fwrsariaethau chwaraeon. Bydd yr athletwyr hefyd yn elwa o bartneriaeth newydd gyda chydweithwyr yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer a fydd yn cynnig cymorth un-i-un wedi’i deilwra i athletwyr yn ystod y 12 mis nesaf.
"Ers i’r Brifysgol ddatblygu partneriaeth gyda Rygbi Gogledd Cymru (RGC) 3 blynedd yn ôl, mae chwaraewyr rygbi dawnus a nodwyd gan RGC wedi gallu symud ymlaen i addysg uwch a pharhau i chwarae rygbi ar lefel uchel, a diolch i’r Ysgoloriaethau Chwaraeon, meant yn cael aros yng ngogledd Cymru."
Eleni gwelwyd 18 o fyfyrwyr yn derbyn ysgoloriaethau gwerth cyfanswm o £33,000 ar gyfer ystod eang o chwaraeon:
Catrin Jones, 18, Bangor - Codi Pwysau
Michael Farmer, 18, Caerffili - Codi Pwysau
Emyr Evans, 21, Rhyl - Sboncen
Chrystal Williams, 22, Bolton - Codi Pwysau
Sophie Roots, 19, Llundain - Jiwdo
Christopher Richards, 19, Kendal - Rhedeg Mynyddoedd
Katie Reynolds, 23, Abertawe - Cyfeiriannu
Jenna Bowman, 23, Gogledd Iwerddon - Pêl Rwyd
Catrin Jones yw enillydd gwobr Athletwraig Ifanc y Flwyddyn Carwyn James yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru 2017, ac yn ddiweddar fe’i dewiswyd i gynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2018.
Dywedodd Catrin: "Mae'r gefnogaeth yr wyf wedi ei derbyn gan Brifysgol Bangor dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anhygoel! Mae’r Ysgoloriaeth Chwaraeon a roddwyd i mi fel bwrsariaethau lleol tra roeddwn yn yr ysgol, ac yn awr fel myfyriwr yn yr Ysgol Seicoleg, wedi bod o fantais aruthrol ac wedi caniatáu i mi ganolbwyntio ar fy astudiaethau a'm hyfforddiant hyd eithaf fy ngallu. Ar ben hyn, mae gennyf hefyd fynediad i gyfleusterau hyfforddi rhagorol yng Nghanolfan Brailsford."
Mae’r athletwyr talentog isod yn derbyn Ysgoloriaeth Chwaraeon am flwyddyn arall:
George Roberts, 19, Wrecsam - Rygbi
Efan Jones, 19, Wrecsam - Rygbi
Danny Cross, 20, Wrecsam - Rygbi
Sam Jones, 20, Llanidloes - Rygbi
Will Bryan, 21, Caerwys - Rygbi
Ianto Pari, 21, Aberdaron - Rygbi
Chelsea Nasmyth-Miller, 21, Harpenden - Lacros
Rhiannon Williams, 19, Llantrisant - Tae-kwon-do
Jiri Tykal, 25, Y Weriniaeth Tsiec - Caiacio
Harry Misangyi, 20, Conwy - Codi Pwysau
Mae Harry Misangyi hefyd wedi cael ei ddewis i gynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad, dywedodd:
"Mae'r Ysgoloriaeth Chwaraeon yn fy nghefnogi ac yn fy ngalluogi i ganolbwyntio ymhellach ar astudio a hyfforddi, gan roi'r cyfle gorau i mi berfformio o’r safon uchaf. Mae Prifysgol Bangor wedi bod yn dda iawn drwy fy helpu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf tra’r wyf wedi bod yn ymgeisio ar gael fy newis ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2018, a nawr fy mod wedi cael fy newis, mae fy sylw’n troi at gyflawni'r gorau dros fy ngwlad fis Ebrill nesaf."
Mae'r rhaglen ysgoloriaethau’n rhan o ymrwymiad ehangach i godi proffil ac enw da'r Brifysgol trwy chwaraeon.
Yn ychwanegol, mae Canolfan Brailsford yn cefnogi athletwyr lleol drwy gynnig bwrsariaeth. Eleni, gwobrwywyd Tesni Evans o Rhyl, chwaraewraig sboncen broffesiynol sydd wedi cael ei rancio’n 14eg yn y byd; Maisie Potter o Fangor, eirafwrddwraig a fu bron a cael ei dewis i gynrychioli Prydain yng ngemau Olympaidd y Gaeaf 2018, ond fethodd oherwydd anaf; David Parry o Gaernarfon sydd yn chwaraewr tennis rhif 1 yng Nghymru, ac yn olaf mae Connor Burns o Fangor, bocsiwr sydd yn cynrychioli Prydain.
Straeon perthnasol:
Presenoldeb cryf gan Brifysgol Bangor yng Ngemau'r Gymanwlad 2018
Myfyrwraig Seicoleg Prifysgol Bangor yn ennill Gwobr Athletwraig Ifanc y Flwyddyn BBC Cymru 2017
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2018