Dyfarnu Ysgoloriaethau Chwaraeon i Athletwyr elit Bangor
Bob blwyddyn, mae Prifysgol Bangor yn cefnogi myfyrwyr talentog ym maes chwaraeon trwy gynnig nifer o Ysgoloriaethau Chwaraeon i fyfyrwyr sy'n astudio gradd mewn unrhyw bwnc.
Dyfernir yr Ysgoloriaethau Chwaraeon i gydnabod a chefnogi rhagoriaeth a llwyddiant mewn chwaraeon. Eu pwrpas yw helpu myfyrwyr dawnus o safon uchel i gyfuno eu hastudiaethau academaidd a’u perfformiad chwaraeon i'w cynorthwyo i gyflawni eu llawn botensial.
Meddai Richard Bennett, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Masnachol: “Rydym yn falch iawn i gefnogi nifer o athletwyr talentog iawn ym Mhrifysgol Bangor. Rydym yn parhau i fuddsoddi yn yr offer diweddaraf er mwyn denu'r athletwyr gorau i'r Brifysgol. Bydd yr athletwyr hefyd yn elwa ar arbenigedd staff yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer.
"Ers i’r Brifysgol ddatblygu partneriaeth gyda Rygbi Gogledd Cymru (RGC) 4 blynedd yn ôl, mae chwaraewyr rygbi dawnus a nodwyd gan RGC wedi gallu symud ymlaen i addysg uwch a pharhau i chwarae rygbi ar lefel uchel, a diolch i’r Ysgoloriaethau Chwaraeon, maent yn gallu aros yng ngogledd Cymru."
Eleni gwelwyd 11 o fyfyrwyr yn derbyn ysgoloriaethau gwerth cyfanswm o £30,000 ar gyfer ystod eang o chwaraeon:
Rakia Alouane, 24, o Ogledd Iwerddon - Taekwondo
Michael Farmer, 19, o Gaerffili – Codi Pwysau
Catrin Jones, 19, o Fangor – Codi Pwysau
Molly Nixon, 18, o Southport - Hwylio
Octavia Owen, 19, o’r Wirral - Hwylio
Sam Rogers, 18, o Wrecsam - Rygbi
Abi Senior, 18, o Malvern - Triathlon
Molly Shuttleworth, 19, o Birmingham - Rygbi
Joe Steward, 22, o Middleton, Manceinion - Traws Gwlad
Flo Tilley, 21, o Nottingham - Dringo
Huw Williams, 18, o Lanfyllin - Sboncen
Meddai Catrin Jones, Pencampwraig Codi Pwysau Hyn Cymru: "Mae Prifysgol Bangor wedi fy nghefnogi ers nifer o flynyddoedd. Derbyniais fwrsari lleol yn gyntaf cyn derbyn yr Ysgoloriaeth Chwaraeon fel myfyriwr Prifysgol. Mae'r cyfleusterau chwaraeon ym Mangor o'r radd flaenaf ac wedi fy helpu i ddatblygu fy hyfforddiant yn aruthrol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r staff yng Nghanolfan Brailsford ac yn yr Ysgol Seicoleg wedi bod yn gefnogol iawn. Dwi hefyd yn edrych ymlaen at weithio gyda myfyrwyr Gwyddor Chwaraeon mewn meysydd fel Seicoleg, sy'n feysydd dwi erioed wedi cael cynnig cymorth yn y gorffennol."
Meddai Rakia Alouane: "Mae'r Ysgoloriaeth Chwaraeon yn golygu popeth i mi. Mae bod yn fyfyriwr yn ddigon o her ariannol. Bydd yr Ysgoloriaeth hon yn rhoi cyfle i mi fynd i glybiau hyfforddi allanol, mynd i fwy o gystadlaethau ar draws y Deyrnas Unedig a hyd yn oed y tu allan i Ewrop. Mae hefyd wedi rhoi adnoddau i mi na fyddwn wedi cael y cyfle i'w cael, megis hyfforddwr personol ac arian ychwanegol ar gyfer offer. Heb yr ysgoloriaeth hon ni fyddwn yn gallu symud ymlaen fel athletwr ac mae hefyd yn ei gwneud hi'n haws i mi ganolbwyntio ar fy astudiaethau ar yr un pryd."
Meddai Octavia Owen: "Mae'r Ysgoloriaeth Chwaraeon wedi rhoi'r cyfle i mi ddatblygu hwylio ar y cyd â fy ffitrwydd, gan ei wella'n fawr iawn. Mae wedi caniatáu i mi gystadlu mewn mwy o ddigwyddiadau cenedlaethol sydd wedi fy ngalluogi i wella fy safle yn rhyngwladol. Rwyf wedi cael fy newis i hwylio yn y Women’s International Match Racing Series a gynhelir yn St Thomas, Ynysoedd Virgin yr Unol Daleithiau, yn ddiweddarach y mis hwn.
"Rwy'n ffodus iawn i gael y cyfle gwych hwn gyda chefnogaeth mor wych gan y Brifysgol i gystadlu mewn digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol eleni. Rwy'n falch iawn o allu dweud mai fi yw Pencampwr Gemau Rasio Cenedlaethol Merched. Rwy'n gobeithio parhau gyda drwy gydol y flwyddyn ac rwy'n edrych ymlaen at gynrychioli Bangor yn y rasys Tîm BUSA. "
Mae'r rhaglen ysgoloriaethau’n rhan o ymrwymiad ehangach i godi proffil ac enw da'r Brifysgol trwy chwaraeon.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Rhagfyr 2018