Dyfarnu Ysgoloriaethau Chwaraeon i Athletwyr elit Bangor
Bob blwyddyn, mae Prifysgol Bangor yn cefnogi myfyrwyr talentog ym maes chwaraeon trwy gynnig nifer o Ysgoloriaethau Chwaraeon i fyfyrwyr sy'n astudio am radd mewn unrhyw bwnc.
Dyfernir yr Ysgoloriaethau Chwaraeon i gydnabod a chefnogi rhagoriaeth a llwyddiant mewn chwaraeon. Eu pwrpas yw helpu myfyrwyr dawnus o safon uchel i gyfuno eu hastudiaethau academaidd â’u perfformiad chwaraeon i'w cynorthwyo i gyflawni eu llawn botensial.
Meddai Richard Bennett, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Masnachol: “Rydym yn falch iawn o gefnogi nifer o athletwyr hynod dalentog ym Mhrifysgol Bangor. Rydym yn parhau i fuddsoddi yn yr offer diweddaraf er mwyn denu'r athletwyr gorau i'r brifysgol. Bydd yr athletwyr hefyd yn elwa o arbenigedd staff yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer.
"Ers i’r Brifysgol ddatblygu partneriaeth gyda Rygbi Gogledd Cymru (RGC) 6 blynedd yn ôl, mae chwaraewyr rygbi dawnus a nodwyd gan RGC wedi gallu symud ymlaen i addysg uwch a pharhau i chwarae rygbi ar lefel uchel, a diolch i’r Ysgoloriaethau Chwaraeon, maent yn gallu aros yng ngogledd Cymru. Mae'r bartneriaeth hon wedi parhau i ddatblygu gan ein bod bellach yn cynnig ysgoloriaethau i chwaraewyr RGC benywaidd."
Eleni gwelwyd 14 o fyfyrwyr yn derbyn ysgoloriaethau gwerth cyfanswm o £25,000 ar gyfer ystod eang o chwaraeon:
James Andrew, 18, o Lanfair-pwll – Rygbi
Michael Farmer, 20, o Gaerffili – Codi pwysau
Catrin Jones, 20, o Fangor – Codi pwysau
Brea Leung, 27, o Gaernarfon – Rygbi
Chris Mann, 19, o Rhuthun – Seiclo
Molly Nixon, 19, o Southport – Hwylio
Octavia Owen, 20, o Gilgwri – Hwylio
Sam Rogers, 20, o Wrecsam – Rygbi
Theo Schoebel, 20, o Ffrainc – Karate
Joe Steward, 23, o Middleton, Manceinion - Trawsgwlad
Flo Tilley, 22, o Nottingham – Dringo
Shengjie Wang, 23, o Tsieina – Taekwondo a Kungfu
Joshua Whitehouse, 18, o’r Trallwng – Jiwdo
Aled Williams, 18, o Lanrug – Pêl-droed
Meddai Catrin Jones, Uwch Bencampwraig Codi Pwysau Cymru: "Mae Prifysgol Bangor wedi fy nghefnogi ers nifer o flynyddoedd. Derbyniais fwrsariaeth leol i ddechrau cyn cael yr Ysgoloriaeth Chwaraeon fel myfyriwr prifysgol. Mae'r cyfleusterau chwaraeon ym Mangor o'r radd flaenaf ac wedi fy helpu i ddatblygu fy hyfforddiant yn aruthrol ar hyd y blynyddoedd. Mae'r staff yng Nghanolfan Brailsford ac yn yr Ysgol Seicoleg wedi bod yn gefnogol iawn dros y blynyddoedd."
Meddai Octavia Owen: "Mae'r Ysgoloriaeth Chwaraeon wedi rhoi'r cyfle i mi ddatblygu fy sgiliau hwylio a’m ffitrwydd yn gyffredinol, gan ei wella'n fawr. Mae wedi caniatáu i mi gystadlu mewn mwy o ddigwyddiadau cenedlaethol sydd wedi fy ngalluogi i wella fy safle rhyngwladol.”
Mae'r rhaglen ysgoloriaethau’n rhan o ymrwymiad ehangach i hybu proffil ac enw da'r Brifysgol trwy chwaraeon.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2020