Dyfarnu Ysgoloriaethau Merched mewn Gwyddoniaeth
Mae Prifysgol Bangor wedi dyfarnu ysgoloriaeth "Merched mewn Gwyddoniaeth" i ddwy fyfyrwraig ragorol - Hannah Davies a Lily Stokes. Roedd y ddwy yn israddedigion ym Mangor ac enillodd y ddwy radd anrhydedd dosbarth cyntaf ym mis Gorffennaf 2017. Mae'r ysgoloriaethau, sy'n cynnwys cost lawn y cwrs, yn galluogi'r myfyrwyr dawnus a brwdfrydig hyn i barhau â'u hastudiaethau ac maent yn awr wedi cofrestru ar gyrsiau ymchwil ôl-radd ym Mangor.
Meddai Hannah Davies, 23 oed, o’r Amwythig, sy’n astudio MRes Ffisioleg Chwaraeon yn yr Ysgol Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer:
"Rwyf wrth fy modd fy mod i dderbyn ysgoloriaeth Merched mewn Gwyddoniaeth, mae hyn yn fy ngalluogi i barhau gyda fy astudiaethau ym Mhrifysgol Bangor. Mae gwneud gradd MRes wedi rhoi llwyfan i mi ddatblygu fy sgiliau ymchwil a dealltwriaeth ymhellach, a bydd hyn yn fy helpu gyda fy nghynnydd tuag at yrfa yn y byd academaidd."
Mae Lily Stokes, 22, o Mytchett, Surrey yn astudio gradd MSc Gwarchod yr Amgylchedd Morol, a dywedodd:
"Mae'n anrhydedd i dderbyn ysgoloriaeth 'Merched mewn gwyddoniaeth' oherwydd y bydd yn caniatáu imi barhau â 'm hastudiaethau ym Mangor. Yr wyf yn teimlo'n angerddol ynglŷn ag amddiffyn yr amgylchedd morol, ac rwy’n gobeithio gwneud hynny drwy addysg. Mae gennyf ddiddordeb academaidd mewn amgylcheddau morol trofannol, yn enwedig riffiau cwrel ac rwyf yn gobeithio mynd ymlaen i astudio PhD. Mae’r cwrs Meistr wedi fy mharatoi ar gyfer gyrfa mewn gwyddoniaeth a byd academaidd gan roi profiad mewn maes gwaith, gwaith cwch a chyfathrebu gwyddonol. Byddaf bob amser yn ddiolchgar i Fangor a’r ysgoloriaeth am roi’r cyfleoedd hyn i mi."
Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i gynyddu cyfranogiad merched mewn gwyddoniaeth ar bob lefel o addysg, ac mae'r ysgoloriaethau hyn yn gam pellach tuag at annog a galluogi mwy o ferched i ddilyn gyrfaoedd gwyddonol.
Derbyniodd Kathryn Howard o St Austell, yr ysgoloriaeth y llynedd, bellach mae Kathryn yn gweithio gydag UTC Aerospace Systems yn Plymouth. Dywedodd Kathryn:
"Mae’r ysgoloriaeth Merched mewn Gwyddoniaeth wedi rhoi llawer o gymorth i mi, ac rwyf yn ddiolchgar iawn am y cyfle. Rwyf ar hyn o bryd yn gweithio mewn datblygiad diwifr ar gyfer awyrennau. Mae'n ddiddorol iawn ac rwyf yn dal i ddysgu llawer. Rwyf hefyd yn Llysgennad STEMM yn gweithio ar broject allanol gydag ysgol leol, ac rwyf yn mwynhau cael y cyfle i roi rhywbeth yn ôl."
Meddai’r Athro John Hughes, Is-ganghellor:
"Mae darparu amgylchedd cefnogol i ferched sy'n astudio pynciau STEMM yn strategol bwysig i'r brifysgol. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i Siarter Gender Athena SWAN ECU ac mae gennym wobr efydd sefydliadol yn ogystal â thair gwobr efydd adrannol. Rydym yn falch iawn o fod wedi gallu dyfarnu ysgoloriaethau "Merched mewn Gwyddoniaeth" am y drydedd flwyddyn yn olynol. Rydym yn gobeithio gwneud hyn yn flynyddol er mwyn meithrin carfan gref o gyn-fyfyrwyr sydd wedi ennill yr ysgoloriaeth arbennig hon dros y blynyddoedd."
Os hoffech wneud cais am Ysgoloriaeth Merched mewn Gwyddoniaeth 2018/19, mae’r manylion ar gael yma.
Straeon perthnasol:
Prifysgol Bangor yn dyfarnu tair ysgoloriaeth "Merched mewn Gwyddoniaeth"
Prifysgol Bangor yn dyfarnu bwrsariaeth 'Merched mewn Gwyddoniaeth' cyntaf
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2018