Dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru: y ffordd ymlaen
Mae Dr Prysor Williams o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol Bangor yn un o awduron adroddiad ar y weledigaeth dros amaeth yng Nghymru, sydd yn cael ei lansio gan Lywodraeth Cymru heddiw (27 Tachwedd 2017).
Mae’r adroddiad, Amaeth Cymru, Dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru: y ffordd ymlaen wedi ei lunio gan grŵp sy’n cwmpasu amrywiaeth o fuddiannau, yn cynnwys undebau ffermwyr, cyrff ardollau, llywodraeth, academyddion ac arbenigwyr diwydiant.
Gwahoddwyd Dr Prysor Williams i ymuno â’r grŵp oherwydd ei brofiad a’i ymchwil o’r maes sy’n pontio amaeth a’r amgylchedd. Sefydlwyd Amaeth Cymru - Agriculture Wales yn 2015 yn dilyn ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar Fframwaith Strategol ar gyfer Amaethyddiaeth Cymru.
Trwy gydweithio, mae Amaeth Cymru yn ceisio darparu arweinyddiaeth gadarn ar y cyd i symud y diwydiant ymlaen, a gwireddu cydweledigaeth ar gyfer Amaethyddiaeth Cymru. Mae gan yr holl bartneriaid ran bwysig i’w chwarae, ac maent yn gyfrifol am wireddu’r Weledigaeth.
Dywedodd Dr Williams:
“Mae wedi bod yn ddiddorol a defnyddiol cydweithio gyda thîm eang o bobl o arbenigedd gwahanol. Mae’n bosib fod y diwydiant amaeth yng Nghymru ar fin cryn heriau, ond mae hefyd gyfleoedd i dyfu’r diwydiant a gwella ei wytnwch ar gyfer y dyfodol. Mae amaeth o bwysigrwydd diwylliannol ac economaidd-gymdeithasol anferth, yn ogystal wrth gwrs a chwarae rôl hynod bwysig mewn gwarchod a gwella ein hamgylchedd naturiol a thaclo newid hinsawdd. Mae cynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, yn ogystal â gwarchod yr holl fuddion eraill mae cymdeithas yn ei dderbyn o’r amgylchedd, o bwysigrwydd i bawb yng Nghymru a thu hwnt. Rwy’n edrych ymlaen at barhau i gydweithio gyda phobl allweddol yn y diwydiant i ddatblygu hyn ymhellach.”
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu Gweledigaeth y grŵp ar gyfer Amaethyddiaeth Cymru, y canlyniadau cysylltiedig, trosolwg ar sefyllfa bresennol y diwydiant, a’r blaenoriaethau strategol y bydd angen rhoi sylw iddynt er mwyn gwireddu’r Weledigaeth honno.
Mae’r ddogfen wedi’i gosod yng nghyd-destun Symud Cymru Ymlaen - rhaglen y llywodraeth i wella economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru, gan arwain at wlad sy’n ffyniannus a diogel, yn iach ac egnïol, yn uchelgeisiol ac yn dysgu, yn unedig a chysylltiedig. Gall y diwydiant amaethyddol chwarae rhan allweddol mewn helpu i gyflawni’r agenda hon.
Mae’n canolbwyntio ar y cyfnod hyd 2030, a chaiff ei hadolygu’n rheolaidd gan Amaeth Cymru i sicrhau ei bod yn aros yn gyson â digwyddiadau'r dyfodol.
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2017