Dyfodol disglair - Teitl cyfieithydd gorau Prydain i fyfyriwr o Gymru
Barnwyd mai myfyriwr o Brifysgol Bangor oedd y cyfieithydd gorau o blith cannoedd o ymgeiswyr sy’n astudio’r pwnc yn academaidd ledled Prydain.
Enillodd Dafydd Frayling, a fu’n astudio am y Dystysgrif Ôl-radd mewn Cyfieithu ym Mhrifysgolion Aberystwyth a Bangor, y goron yn erbyn y gystadleuaeth gref.
Chwilio am y dalent orau ym maes cyfieithu oedd nod cynnal y gystadleuaeth gan Atebion Iaith Veritas yn Abertawe, un o brif gwmnïau cyfieithu ym Mhrydain. Roedd y gystadleuaeth wedi’i rhannu’n gategorïau ar gyfer Ffrangeg, Sbaeneg, Eidaleg, Almaeneg, Cymraeg, Rwsieg a Phwyleg. Wynebai Dafydd gystadleuwyr gwych i gipio’r brif wobr diolch i’w dalentau eithriadol yn y Gymraeg.
Cafodd Dafydd radd yn y Gymraeg yn Aberystwyth a dywedodd ei fod yn ‘arbennig o hapus’ i ennill y gystadleuaeth gyfan. Mae llwyddiant ysgubol Dafydd yn enghraifft arall o allu myfyrwyr Cymraeg yn y Gymru sydd ohoni a’u talent werthfawr i’r byd busnes a thu hwnt. Mae hefyd yn tystio i waith gwych yr adrannau Cymraeg yn Aberystwyth a Bangor bod un o’u myfyrwyr wedi profi’r fath lwyddiant yn erbyn cystadleuwyr o rai o brifysgolion mwyaf Prydain.
Roedd y safon yn eithriadol o uchel ac aeth gwaith Dafydd drwy broses ddewis lem. Ond yn y diwedd dyfarnwyd y brif wobr iddo, gan ddisgrifio ei waith yn ‘ddihafal’ gan y beirniaid, Rachel Bryan a Sharon Stephens, sydd hefyd yn Gyfarwyddwyr Veritas.
Caiff Dafydd noson i ddau mewn gwesty yn Llundain fel gwobr ond hefyd y cyfle i gael interniaeth gyda’r cwmni. Bwriad hon yw rhoi help llaw i gyfieithwyr ym mlynyddoedd cynnar eu gyrfa a chyfle i gael blas ar weithio mewn cwmni cyfieithu gan roi profiad gwerth ei nodi ar CV unrhyw gyfieithydd.
Gwahoddir Dafydd yn awr i ddod i seremoni wobrwyo ym Mhencadlys Veritas. Bydd enillwyr y rowndiau eraill ar gyfer yr ieithoedd unigol hefyd yno, wedi dod o Durham, Caerefrog, Lerpwl, Northumbria a Phrifysgol Dwyrain Anglia.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Awst 2010