Dyfodol y Dechnoleg Rithwir
Bu'r Dr Llŷr ap Cenydd, Darlithydd ym Mhrifysgol Bangor, yn Siarad am Ddyfodol y Dechnoleg Rithwir wrth i Oculus, sy'n eiddo i Facebook, lansio eu clustffonau newydd Oculus Quest.
Mae Oculus Quest, cynnyrch newydd a gaiff ei lansio cyn bo hir yn un o'r systemau chwarae gemau cynhwysfawr cyntaf a adeiladwyd ar gyfer rhithrealiti. Does dim angen cysylltu'r ddyfais â ffôn, consol na chyfrifiadur personol.
Dr Llŷr ap Cenydd o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig sy’n esbonio,
“Mae'r Oculus Quest yn gwneud nifer o bethau a wnaed o'r blaen mewn Rhithrealiti ond nid gyda'i gilydd. Yn gyntaf, mae'n symudol - fe'i gelwir yn glustffon rhithrealiti annibynnol - felly mae popeth ynddo. Plwgio a chwarae yw hi fwy neu lai. Mae hefyd yn gallu tracio ei safle ac felly gall olrhain lle mae mewn gofod 3D heb gamerâuallanol , sy'n ei gwneud yn hawdd iawn ei ddefnyddio. Yn olaf, gallwch dracio eich dwylo a dyna un o'r nodweddion allweddol sy'n golygu y gallwch chi ymgolli'n llwyr mewn rhithrealiti. O roi'r holl bethau hynny ynghyd; mae'n symudol, mi allwch chi dracio'r lleoliad a'r dwylo, dyna i chi ddyfais hynod ddeniadol, o safbwynt y defnyddwyr a'r datblygwyr.”
Mae Dr Llŷr ap Cenydd yn arbenigwr mewn rhithreailiti a fo oedd y dyn peniog y tu ôl i "Ocean Rift", un o raglenni rhithrealiti mwyaf poblogaidd y byd. Roedd Ocean Rift, saffari rhithwir o dan y môr, yn un o'r rhaglenni cyntaf i gael ei ryddhau ochr yn ochr â chlustffonau Samsung Gear VR, ac mae gyda'r mwyaf poblogaidd. Mae oddeutu 2.5 miliwn wedi ei lawrlwytho ers 2013.
Datblygodd Llŷr y rhaglen yn ei amser hamdden, ar y cyd â Samsung ac Oculus. Fe'i cyhoeddwyd gan Picselica Ltd, ac fe'i defnyddiwyd fel teitl lansio ar gyfer llawer o'r clustffonau VR amlycaf.
Ym Mhrifysgol Bangor, caiff myfyrwyr yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig y cyfle i archwilio amrywiaeth helaeth o dechnolegau a chydweithio gydag ymchwilwyr mwyaf blaenllaw'r byd.
Ychwanegodd Llŷr,
“Mae gennym lawer o fodiwlau yn yr adran hon fel Deallusrwydd Artiffisial (AI) ar gyfer gemau, rhaglenni a graffeg gyfrifiadurol. Mae'r holl elfennau yma'n gysylltiedig â rhithrealiti. Yn y drydedd flwyddyn, mae gan fyfyrwyr broject traethawd hir, lle cânt ddewis treulio'r flwyddyn gyfan yn gweithio ar eu project rhithrealiti eu hunain.
Maent yn cydweithio â darlithydd fel fi ac rydym yn treulio blwyddyn yn datblygu eu prototeip ac mae'n bosib mai dyna fydd y prif beth ar eu CV pan fyddant yn graddio, ac felly mae'n rhan bwysig iawn o'u blwyddyn olaf.”
Bydd Oculus Quest ar gael o'r 21ain o Fai.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2019