Dylai safbwyntiau diwylliannol ddylanwadu ar bolisïau cadwraeth
Yn ôl canlyniadau arolwg a gynhaliwyd dan arweiniad Prifysgol Bangor, mae angen i bolisïau ar Gadwraeth roi ystyriaeth i wahanol safbwyntiau diwylliannol ynglŷn â gwerth gwahanol rywogaethau.
Pan gynhaliodd ymchwilwyr arolwg dros bobl ar draws Ewrop, daeth safbwyntiau tra gwahanol i’w amlwg ynglŷn â phwysigrwydd cymharol of rhywogaethau môr, o algâu hyd at famaliaid. Yn awr, bydd llunwyr polisïau ar draws Ewrop yn rhoi ystyriaeth i’r canlyniadau hyn, ar ôl iddynt gael eu cynnwys yng ngwasanaeth newyddion electronig y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer lunwyr polisïau. Bwriad y rhain yw helpu’r rheiny sydd wthi’n brysur yn llunio polisïau i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â chanfyddiadau ymchwil amgylcheddol, fel y gallant gynllunio, gweithredu a rheoleiddio polisïau effeithiol.
“Mae bioamrywiaeth yn ecosystemau’r môr yn lleihau ar raddfa ddychrynllyd,” eglura’r Athro Mike Kaiser o’r Ysgol Gwyddorau Eigion, a arweiniodd yr ymchwil gyda’r diweddar Athro Gareth Edwards-Jones o’r Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor a chydweithwyr ym Mhrifysgol Ynysoedd yr Açores (Azores).
“Er mwyn pennu amcanion cadwraethol a blaenoriaethu ymdrechion i arafu dirywiad bioamrywiaeth, rhaid i wneuthurwyr polisïau benderfynu pa rywogaethau sydd fwyaf gwerthfawr, i ecosystemau ac i bobl, fel ei gilydd. Mae llwyddiant rhaglenni cadwraeth yn dibynnu nid yn unig ar ddealltwriaeth wyddonol o werth gwahanol rywogaethau môr, ond hefyd ar y gwerth y mae cymdeithas yn ei chrynswth yn ei roi ar y rhywogaethau hyn. Yn gyffredinol, credir bod y duedd tuag at rywogaethau adnabyddus a charismataidd, megis mamaliaid ac adar, yn gwneud rhywogaethau llai adnabyddus yn fregus.”
Gan weithio fel rhan o rwydwaith o fewn yr Undeb Ewropeaidd a gyllidwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd, bu’r ymchwilwyr yn ceisio canfod a oedd aelodau’r cyhoedd yn rhoi gwerth cyfartal ar rywogaethau ar draws Ewrop. Dewisasant gynnal eu harolwg mewn tri lleoliad arfordirol, sef Ynysoedd yr Açores, Portiwgal, Ynysoedd Sili, DU a Gwlff Gdansk, Gwlad Pwyl.
Cynhaliwyd cyfweliadau wyneb-yn-wyneb â chyfanswm o 1,502 o bobl. Cafodd pob cyfranogwr weld casgliad o ddelweddau yn cynrychioli pob grŵp o rywogaethau, a oedd yn cynnwys rhywogaethau a oedd yn lleol yn eu rhanbarth. Gofynnwyd iddynt pa mor fodlon oeddent i dalu am gadwraeth ar gyfer gwahanol rywogaethau, ar sail taliad unigryw damcaniaethol i ‘ymddiriedolaeth gadwraeth’. Bu’r ymchwilwyr hefyd yn asesu lefel cyffredinol dealltwriaeth y cyfranogwyr o fioamrywiaeth.
O’r cyfweliadau hyn, roedd yr ymchwilwyr yn gallu canfod gwahaniaethau eithaf arwyddocaol yn y modd yr oedd pobl o’r gwledydd hyn yn gwerthfawrogi mamaliaid, pysgod, adar, algâu ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn. Er enghraifft, roedd cyfranogwyr yn Ynysoedd yr Açores yn prisio pysgod yn uwch na chyfranogwyr o Ynysoedd Sili, tra oedd y rheiny r Ynysoedd Sili yn rhoi pris uwch ar algâu na’r cyfranogwyr yn Ynysoedd yr Açores. Yng Ngwlff Gdansk, roedd dewisiadau’n fwy amlwg wrth ochr y gwledydd eraill, a mamaliaid yn cael eu gwerthfawrogi fwyaf, ac yna pysgod, adar, anifeiliaid di-asgwrn-cefn ac, yn olaf, algâu.
Yn gyffredinol, roedd y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr yn ymwybodol o faterion cysylltiedig â bioamrywiaeth ac yn fodlon talu i warchod bioamrywiaeth. Fodd bynnag, roedd y gwahaniaethau a gafwyd rhwng y gwledydd yn awgrymu bod cysylltiadau pobl â rhywogaethau penodol yn eu rhanbarthau eu hunain yn dylanwadu ar eu dewisiadau cadwraethol. Er enghraifft, yn Ynysoedd yr Açores, mae sgwba-blymio a physgota yn weithgareddau pwysig, o safbwynt economaidd a diwylliannol, fel ei gilydd. Gallai hyn beri i drigolion lleol osod gwerth uwch ar bysgod.
Meddai’r Athro Kaiser: “Yn ôl ein hymchwil, ceir tystiolaeth glir o alw cymdeithasol am warchod bioamrywiaeth y môr yn Ewrop. Er bod gwerth uchel bob amser yn cael ei roi ar famaliaid y môr, nid oeddent yn cael eu prisio gymaint yn uwch na rhywogaethau eraill ag yr oeddem wedi disgwyl. Rydym yn awgrymu bod y cyhoedd yn dod yn fwy ymwybodol o’r angen i warchod bioamrywiaeth ar draws amrywiaeth eang o rywogaethau. Fodd bynnag, dylai polisïau cadwraethol effeithiol fod yn gyson â daliadau a gwerthoedd cymdeithasol, sy’n amrywio o wlad i wlad.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2012