Dylunio ar gyfer pobl sy'n byw efo dementia
Ers deng mlynedd, mae Menter trwy Ddylunio wedi gweithio gyda gwahanol gwmnïau ar draws Gogledd Cymru, gan ganolbwyntio'n bennaf ar y sector twristiaeth antur. Eleni, mae timau myfyrwyr wedi cael brîff buddiol a heriol dros y broses 10 wythnos, gan greu profiadau cofiadwy i ymwelwyr â dementia i Ogledd Cymru.
Cynhaliwyd yr ornest derfynol eleni yn Pontio ddechrau mis Ebrill a chafwyd amrywiaeth eang o syniadau cynnyrch gan dimau israddedig o Seicoleg, Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig, Busnes, Dylunio Cynnyrch, Cerddoriaeth a'r Cyfryngau, a Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer. Y nod i dîm 2019 oedd creu cynnyrch neu wasanaeth a fyddai'n gwneud Gogledd Cymru yn fwy cofiadwy i dwristiaid sydd â dementia arnynt.
Derbyniodd y tîm buddugol, Freesia, siec am £2,500 am gyflwyniad ganddynt ar eu gwasanaeth ar-lein "Memo". Gwasanaeth yw hwn sy'n galluogi cleifion â dementia a'u gofalwyr/teuluoedd i gael hyd i lety yng Ngogledd Cymru sy'n addas ar gyfer eu hanghenion gwyliau.
Fe wnaeth y timau a ddaeth yn ail a thrydydd, gan dderbyn gwobrau o £1,000 a £500, hefyd lunio cynnyrch unigryw i gynorthwyo rhai'n dioddef o ddementia pan maent yn teithio. Datblygodd tîm Daisy, a ddaeth yn ail, botel ddŵr arbennig â chymorth cyfrifiadur, sy'n atgoffa rhai'n dioddef o ddementia i yfed digon; tra bod tîm Tulip, a ddaeth yn drydydd, wedi creu gwasanaeth ar-lein sy'n helpu i ddarparu diwrnod allan yng Ngogledd Cymru i gleifion dementia.
Yn ystod y cyfnod o 10 wythnos cafodd y timau dasgau gan arbenigwyr o ddiwydiant sydd wedi datblygu cynnyrch i rai'n dioddef o ddementia ac oedd yn gwybod beth i'w ddisgwyl gan yr achos hwn. Rhoddodd academyddion arbenigol gyngor i fyfyrwyr ar eu modelau busnes, dyluniad y cynnyrch ei hun, awgrymiadau ar sut i ddatblygu hysbysebion, a rhywfaint o ymchwil gefndir hanfodol i ddementia a sut mae'n effeithio ar gleifion.
Yn y rownd derfynol, dim ond 200 eiliad oedd gan y myfyrwyr i gyflwyno eu cysyniad, gan ddefnyddio'r dull Pecha Kucha o gyflwyno gyda sleidiau byrion wedi'u hamseru, a fideo hyrwyddo 30 eiliad cyn hynny a wnaed gan y myfyrwyr ar gyfer eu projectau.
Roedd beirniaid y gystadleuaeth Menter trwy Ddylunio eleni yn cynnwys Jim Jones o Dwristiaeth Gogledd Cymru, y gwerthwr eiddo Dafydd Hardy, Dr.Judith Roberts o'r Ysgol Seicoleg, Yr Athro Paul Spencer, Deon Coleg Gwyddorau’r Amgylchedd a Pheirianneg a Phil Nelson o The Mountain Chocolate Company.
Dywedodd Dafydd Hardy, sydd wedi bod yn feirniad Menter trwy Ddylunio yn ystod y blynyddoedd diwethaf, “Rwyf wedi bod â diddordeb bob amser yn Pontio a'r Ganolfan Arloesi, ac roeddwn wrth fy modd i gael fy ngwadd yn ôl drachefn eleni oherwydd dwi'n credu ei bod yn wych bob amser i dderbyn syniadau newydd ar gyfer yr ardal."
O ran y timau buddugol, dywedodd fod y beirniaid yn chwilio am dimau gyda “sgiliau cyflwyno cryf, a syniad a allai weithio yn y byd go iawn”.
Cyn i'r beirniaid roi eu dyfarniad, rhoddodd cyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor, Daniel Taylor, gyflwyniad byr am effaith bod yn rhan o Fenter trwy Ddylunio yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr. Ar ôl adeiladu busnes bach ar sail ei brofiad yn Menter trwy Ddylunio 5 mlynedd yn ôl, mae Dan bellach yn berchennog dau fusnes yn Swindon.
Am ei gyfnod yn Menter trwy Ddylunio dywedodd fod y broses 10 wythnos wedi ei helpu i ddod y math o weithiwr y mae wedi anelu ato a dysgodd hefyd pa fath o gyflogwr yr hoffai fod. Ar ôl dysgu gan fentoriaid a myfyrwyr ar draws y gwahanol ddisgyblaethau, mae'n cydnabod fod ei brofiad gyda Menter trwy Ddylunio wedi rhoi hwb sylweddol i'w yrfa lwyddiannus.
Yn achos ein henillwyr eleni, mae Tîm Freesia yn bwriadu mynd â'u syniad ymhellach a gobeithio datblygu eu gwasanaeth gwefan gyda'r wobr ariannol a gawsant. Meddai Teon Mclean, aelod o'r tîm, am eu syniad buddugol, “roeddem yn meddwl pa mor anodd yn sicr ydyw i rai'n dioddef o ddementia i fynd i ffwrdd ar daith, ond bod cael mwynhau'r awyr agored yn gymorth iddynt wrthsefyll dirywiad gwybyddol. Maen nhw'n aml dan anfantais oherwydd llety anaddas, ac felly fe wnaethom feddwl am wefan i weithio gyda gwestai sy'n sicrhau bod eu hystafelloedd yn addas a hwylus i bobl â dementia."
Siaradodd Teon hefyd am y ffordd mae'r broses wedi ei helpu fel myfyriwr. Dywedodd, “Mae wedi bod yn wych gweithio gyda myfyrwyr ar draws gwahanol ddisgyblaethau, rydw i wedi dysgu cymaint y gallaf ei ddefnyddio ar gyfer fy ngyrfa ac addysg yn y dyfodol”.
Mae Arloesi Pontio, sy'n trefnu Menter trwy Ddylunio ar y cyd â Byddwch Fentrus ac ysgolion academaidd o bob rhan o'r Brifysgol, wrth ei bodd bod yr her wedi bod yn ddigwyddiad cyson i fyfyrwyr bob blwyddyn ym Mhrifysgol Bangor. Ar ôl gweithio gyda 10 carfan o fyfyrwyr ac ystod o gwmnïau, o offer gwersylla i brofiadau antur, mae Arloesi Pontio yn credu bod y gystadleuaeth yn brofiad defnyddiol i fyfyrwyr yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol, yn ogystal â bod o fudd i ddatblygu menter ac arloesi yn ardal Gogledd Cymru.
Meddai Dr Andy Goodman, pennaeth Arloesi Pontio, am yr her a roddwyd i'r myfyrwyr eleni
“Am y tro cyntaf, eleni fe wnaeth Menter trwy Ddylunio ymateb i her a osodwyd gan sector diwydiannol, yn hytrach na chwmni unigol.
Fe wnaeth cynadleddwyr yng Nghynhadledd Twristiaeth Gogledd Cymru, 2019: Antur a Thu Hwnt.' ofyn y cwestiwn: sut y gall ein sector twristiaeth antur gadarn ymateb i'r cyfle cynyddol a geir drwy dwristiaeth Iechyd a Lles?
Ar sail gwybodaeth a gawsant gan ymchwilwyr academaidd, clinigwyr ac arbenigwyr ar dwristiaeth, ymatebodd 60 o fyfyrwyr yn frwdfrydig i fater penodol dementia; sut y gallai cleifion, teuluoedd a gofalwyr gael profiad mwy cofiadwy yng Ngogledd Cymru. ”
Mae'r gystadleuaeth yn parhau i fod o fudd i fusnesau lleol gyda dwsinau o syniadau gan ein myfyrwyr israddedig, o sut i gyrraedd cenhedlaeth hŷn gyda thechnoleg newydd i ddylunio'r cysyniad unigryw hwnnw sy'n denu miloedd o dwristiaid. Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i weld beth fydd carfan y flwyddyn nesaf yn rhoi ger bron.
I gael rhagor o wybodaeth am Fenter trwy Ddylunio ac Arloesi Pontio, ewch i: api.wales
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2019