Dylunio’r Car 1000 milltir yr awr
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal darlith gyhoeddus sy’n rhan o’r gyfres ‘Ffiniau’ gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru, am 6 o'r gloch ar 7 Mawrth ym Mhrif Ddarlithfa’r Ysgol Peirianneg Electronig. Cyflwynir y ddarlith gan yr Athro Ken Morgan o Brifysgol Abertawe ac fe fydd yn siarad am ddylunio’r car uwchsonig, y Bloodhound.
Amcan Project Bloodhound SSC yw symud Record Cyflymder Tir y Byd i gyfundrefn cyflymder newydd sbon. Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn cynorthwyo’r broses o gynllunio cerbyd â pherson ynddo a fydd yn gallu cyrraedd cyflymder o 1000mph erbyn 2012. Byddai hyn 30% yn uwch na’r Record gyfredol ar gyfer Cyflymder Tir y Byd sy’n 763mph.
Mae’r Project yn cynnig heriau peirianyddol enfawr i’r tîm cynllunio, gan gynnwys y broblem o sicrhau y bydd y car yn parhau'n sefydlog ar y cyflymder hwn. Bydd y ddarlith yn disgrifio natur y dulliau a ddefnyddir a’r cyfraniadau i’r cynlluniau aerodynameg sydd wedi’u gwneud.
Mae ymchwil yr Athro Morgan wedi cyfrannu at ddatblygu disgyblaeth peirianneg cyfrifiannol ac wedi newid y ffordd y mae'r diwydiant awyrofod yn defnyddio dulliau efelychu mewn gwaith dadansoddi a chynllunio peirianyddol
Mae'r ddarlith hon hefyd yn rhan o Ŵyl Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor. Dywedodd yr Athro Alan Shore, Ysgol Peirianneg Electronig:
"Mae'r datblygiad technolegol cyffrous hwn yn dangos y gallu ym mhrifysgolion Cymru ac rydym yn gobeithio y bydd llawer o aelodau'r cyhoedd yn dod draw i fod yn rhan o gyffro’r ymdrech. Bydd model o’r car yn cael ei arddangos fel y gall pawb 'gyffwrdd y dyfodol '. "
Traddodir y ddarlith yn y Gymraeg, ond bydd cyfieithu ar y pryd i’r Saesneg ar gael. Noddir y ddarlith gan Brifysgol Bangor, y Sefydliad Ffiseg yng Nghymru a’r project AU-STEM.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Chwefror 2012