Dyma Shân mewn Cwmni Da!
Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor wedi cael cyfle gwych yn ddiweddar i weithio ar gyfres teledu ar gyfer S4C. Mae Shân Pritchard sydd eisoes wedi graddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn ysgoloriaeth KESS i astudio ar gyfer PhD mewn partneriaeth a chwmni cynhyrchu teledu, Cwmni Da. Diolch i’r ysgoloriaeth arbennig hwn, caiff Shân y cyfle i weithio ar nifer o brosiectau cyffrous, megis ‘Dyma Fi’.
Cyfres aml-blatfform yw ‘Dyma Fi’ sy’n datgelu canlyniadau holiaduron a ddosbarthwyd i bobl ifanc Cymru. Er, nid dyma’r tro cyntaf i Shân gael cyfle i weithio ar y prosiect unigryw hwn. Yn dilyn llwyddiant y gyfres ‘Dyma Fi’ a ddarlledwyd ar S4C yn 2014 a’r rhaglen ddilynol ‘Dyma Fi - Eto’ a ddarlledwyd ar gychwyn y flwyddyn, penderfynodd Cwmni Da i ail gydiad yn y prosiect cyffrous hwn flwyddyn yma a chreu holiadur newydd. Y bwriad y tro hwn, oedd mireinio ffocws yr holiadur a dodi pwyslais ar un ymagwedd benodol, sef ‘emosiynau ac iechyd meddwl’ i ffurfio prosiect ‘Dyma Fi - 2015’.
Yn ôl Siân Boobier, cynhyrchydd a chyfarwyddwr gyda Chwmni Da:
“Eleni, emosiynau ac iechyd meddwl fydd y gyfres deledu yn ei drafod. "Hunlun" neu "selfie" sydd yma o bobl ifainc Cymru, gan mai eu hatebion nhw sy'n creu'r rhaglenni. Cawn eu gweld yn trafod eu teimladau, o'r dwys i'r digri, gyda gonestrwydd sy'n creu darlun llawn.”
Prif ddyletswydd Shân oedd dadansoddi’r data meintiol yn deillio o’r holiaduron i ddarganfod ystadegau diddorol sy’n sylfaen i’r gyfres.
Dywed Shân; “Mae’r ysgoloriaeth KESS wedi fy ngalluogi i weithredu dulliau ymchwil gymdeithasegol mewn modd ymarferol a phwrpasol o fewn byd gwaith. Mae cyd weithio gyda Chwmni Da ar brosiectau fel ‘Dyma Fi’ wedi bod yn gyfle gwych i roi llwyfan i waith cymdeithasegol. Braint oedd cael bod yn rhan o’r prosiect cyffrous hwn unwaith eto flwyddyn yma!”
Yn ôl Dr Cynog Prys, goruchwyliwr Shân Pritchard a darlithydd yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithas:
“Mae’r ysgoloriaeth KESS wedi cynnig cyfle gwych i’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas gyd weithio gyda chwmni adnabyddus sy’n cyfrannu cymaint i fwrlwm diwylliannol ac economaidd lleol a chenedlaethol yng Nghymru. Roedd y bartneriaeth wreiddiol yn 2014 mor llwyddiannus nes bod Ysgol Gwyddorau Cymdeithas a Chwmni Da yn awyddus i barhau gyda’r trefniant am ddwy flynedd arall. Yn 2016 byddwn yn cydweithio ar bedwaredd raglen gyda Chwmni Da. Byddwn yn cydweithio gyda phartneriaid rhyngwladol ledled Ewrop ar gyfer y rhaglen hon ac yn defnyddio holiadur i gasglu gwybodaeth am fywyd yn ein cymdeithasau cyfoes”.
Mae dal posib i Gymry ifanc rhwng 16 ac 18 oed barhau i gymryd rhan yn yr holiadur anferth hwn trwy ymweld â www.dymafi.tv. Darlledwyd rhaglen gyntaf y gyfres yn rhan o ‘Wythnos Dyma Fi’ sy’n cychwyn darlledu ar Dachwedd 16 am 7.55pm a 8.25pm, ac yn nos weithiol drwy’r wythnos, neu ar Clic S4C.
Cyllidir ysgoloriaeth ymchwil Shân Prichard dan Raglen Ysgoloriaeth Sgiliau ar gyfer yr Economi Wybodaeth (KESS). Mae KESS II yn rhaglen Gydgyfeirio Ewropeaidd o bwys dan arweiniad Prifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. . Fe'i cyllidir KESS II yn rhannol gan Gronfeydd Cymdeithasol Ewropeaidd (ESF) cydgyfeirio ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd, mae KESS yn cefnogi projectau ymchwil cydweithredol (Meistri Ymchwil a PhD), gyda phartneriaid allanol, wedi’u lleoli yn Ardal Gydgyfeirio Cymru (Gorllewin Cymru a’r Cymoedd). Mae elfennau’r Meistri Ymchwil a PhD wedi’u cyfuno â rhaglen hyfforddi mewn medrau uchel eu safon, gan arwain ar Gymhwyster Ôl-radd mewn Datblygu Sgiliau. Bydd KESS II yn parhau tan 2022, ac yn darparu 600+ o leoedd PhD a Meistr Ymchwil ar draws Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Tachwedd 2015