Dymuno’n dda i Gwen ar gyfer Ysgoloriaeth Bryn Terfel
Bydd myfyrwraig o Brifysgol Bangor yn cystadlu yng Nghystadleuaeth Ysgoloriaeth Bryn Terfel eleni, wedi iddi gael ei dewis gan y beirniaid ar gyfer y rhestr fer.
Dymuna’r Brifysgol yn dda i Gwen Elin, sydd yn astudio Cymraeg ac Astudiaethau Theatr a’r Cyfryngau yn y Brifysgol.
Dewiswyd y cyn-ddisgybl o Ysgol David Hughes ar gyfer y Gystadleuaeth Ysgoloriaeth wedi ei pherfformiad yng Nghystadleuaeth Unawd o Sioe Gerdd yn Eisteddfod yr Urdd eleni, lle ddaeth yn drydydd. Mewn newid i’r drefn arferol eleni, roedd panel beirniaid yn dewis y rhestr fer ar gyfer yr Ysgoloriaeth o’r goreuon o blith perfformwyr ifainc Cymru mewn naw prif gystadleuaeth yn Eisteddfod yr Urdd.
Mae Gwen, sy’n 20 oed ac yn hanu o’r Benllech, Ynys Môn, yn aelod o Aelwyd yr Ynys, Theatr Fach, Dawnswyr Bro Cefni, yn gyn-aelod o Theatr Ieuenctid Môn a Chôr Ieuenctid Môn ac yn gyn-actores ar Rownd a Rownd,
Mae hi felly’n ‘hen law’ pan ddaw at gystadlu a pherfformio, gan iddi fod wrthi’n canu, actio, adrodd a chlocsio mewn Eisteddfodau a chystadlaethau ers yn bump oed. Mae ar hyn o bryd yn derbyn hyfforddiant gan Mary Lloyd Davies yng Nghanolfan William Mathias. Ei dymuniad yw dilyn gyrfa ym myd sioeau cerdd a dramâu.
Meddai Gwen: “Dwi’n gynhyrfus iawn ynglŷn â’r y gystadleuaeth ac yn ddiolchgar iawn am gael rhannu llwyfan hefo rhai mor dalentog.”
Cynhelir Cystadleuaeth yr Ysgoloriaeth yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, nos Sul, 25 Hydref, a bydd rhaglen yn cael ei ddarlledu ar S4C (19.00 & 22.00). Yn ogystal â’r clod a ddaw wrth ennill y Gystadleuaeth, bydd yr enillydd hefyd yn derbyn £4,000 i’w wario ar feithrin ei (d)doniau ar gyfer y dyfodol.
Dewisodd Gwen astudio ym Mhrifysgol Bangor oherwydd bod canmol mawr i Ysgol y Gymraeg ac roedd hi’n teimlo’n gartrefol wrth ymweld â’r Brifysgol. Meddai am ei phrofiadau o astudio yma: “Mae’r darlithwyr i gyd yn fwy na bodlon helpu ac mae’r adnoddau i gyd yma.”
Meddai Dr Manon Wyn Williams, Darlithydd Sgriptio a Drama y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Ysgol y Gymraeg y Brifysgol:
“Rydym yn dymuno’r gorau i Gwen Elin yng nghystadleuaeth Ysgoloriaeth Bryn Terfel. Ar hyd y blynyddoedd, mae Ysgol y Gymraeg wedi bod yn fagwrfa i actorion a chantorion o fri, megis John Ogwen, Caryl Parry Jones, Arwel Gruffydd a Ffion Dafis. Mae Gwen mewn cwmni da – pob lwc iddi!”
Dyddiad cyhoeddi: 19 Hydref 2015