Dysgu byw yn well gyda dementia trwy dechnoleg: apiau newydd ar brawf heddiw yn cysylltu pobl a effeithir gan ddementia ag ymchwilwyr
Mae project a gefnogir gan Brifysgol Bangor yn un o ddau i'w fabwysiadu mewn menter newydd i gefnogi pobl â dementia a'u gofalwyr.
Mae'r ap ymchwil "The Book of You", a ddatblygwyd gan "Book of You CIC" a Phrifysgol Bangor yn un o ddau ap newydd i'w rhoi ar brawf gan y sefydliad arloesi Nesta fel rhan o'i broject "Dementia Citizens". Mae'r elusen yn awr yn chwilio am 500 o bobl i ddefnyddio'r apiau hyn mewn astudiaeth fydd yn para am dri mis.
Ychydig iawn sy'n amau maint yr her a berir gan ddementia, ac eto nid oes gwellhad i'r cyflwr ac felly mae'n hollbwysig cyflymu'r ymchwil i atal y cyflwr a gofalu am rai a effeithir gan y cyflwr. Bydd defnyddio technoleg ddigidol yn gymorth i ymchwilwyr ddeall a mynd i'r afael â'r prif broblemau ym maes gofal. Bydd y fenter newydd yn cysylltu pobl a dementia, gofalwyr ac ymchwilwyr.
Trwy'r apiau hyn, gall pobl â dementia a'u gofalwyr fwynhau gweithgareddau gyda'i gilydd megis gwrando ar gerddoriaeth neu greu llyfr stori gyda lluniau digidol a llenwi arolygon lles ar yr un pryd. Yna, gall ymchwilwyr arbenigol ddefnyddio'r data bob dydd a gynhyrchir gan y gweithgareddau hyn i weld patrymau, deall ymyriadau gofal a llunio argymhellion ar sail tystiolaeth.
Meddai'r Athro Bob Woods, Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru, Prifysgol Bangor:
"Mae timau ymchwil sy'n gweithio ym maes gofal dementia yn frwd ynglŷn â photensial llwyfan Dementia Citizens i gynnwys pobl sy'n byw gyda dementia a'u cefnogwyr mewn amrywiaeth o astudiaethau ymchwil a allai wella dealltwriaeth o'r cyflwr a gwella ansawdd bywyd y bobl hynny. Mae ein tîm ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn falch o gymryd rhan yn y don gyntaf o brojectau. Mae wedi ein galluogi i ymestyn ein gwaith ymchwil ar lyfrau stori bywyd, a allai fod yn adnodd pwerus i helpu pobl â dementia gynnal eu hunaniaeth a gwella eu cyfathrebu a'u perthynas gyda'r rhai sy'n eu cynorthwyo. Rydym yn croesawu llwyfan Dementia Citizens fel cam pwysig ymlaen yn y frwydr i drechu dementia."
Meddai John Loder, pennaeth strategaeth, Health Lab, Nesta: "Mae hwn yn broject uchelgeisiol i ddod â dau faes ynghyd sydd wedi bod angen ei wneud ar frys. Mae ymchwil wedi ei alluogi gan adnoddau digidol ac ymchwil a arweinir gan gleifion fel hyn yn cyfrannu'n gadarnhaol at ansawdd cymdeithasol ac ansawdd bywyd pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr, ond gall hefyd ddatblygu dealltwriaeth newydd sy'n allweddol i wella gofal."
Gyda chefnogaeth gan yr Adran Iechyd, y Gymdeithas Alzheimer ac Alzheimer Research UK, mae Dementia Citizens yn cynnig dewis amgen, rhatach, i ymchwilwyr sydd eisiau cynnal ymchwil ar raddfa fawr trwy ddarparu mynediad hawdd at setiau data agored a phecynnau cymorth digidol. Dros y tri mis nesaf, bydd defnyddwyr yr apiau yn cynorthwyo i ddatblygu'r dechnoleg a gwella'r profiad i ddefnyddwyr a effeithir gan ddementia.
Mae'r apiau'n gweithio gyda ffonau clyfar a thabledi iOS (iPhone, iPads, iPod Touch), ac maent wedi eu datblygu gan bartneriaid ymchwil ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol Glasgow Caledonian. I gofrestru am yr apiau, ewch i www.dementiacitizens.org/book-of-you
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2016