Economegwyr Iechyd Cymru'n mynd i'r afael â materion cynaliadwyedd ac iechyd
Bydd Grŵp Economegwyr Iechyd Cymru, a ariennir gan NISCHR, yn mynd i'r afael â materion cynaliadwyedd ac iechyd yr wythnos hon. Bydd CHEME, grŵp ymchwil Economeg Iechyd Prifysgol Bangor, yn cynnal cyfarfod ymchwil Cymru Gyfan yng Nghanolfan Dechnoleg Amgen, Machynlleth.
Ein siaradwr gwadd bydd Jane Davidson o'r Drindod Dewi Sant, cyn-weinidog yr amgylchedd, cynaliadwyedd a thai Llywodraeth Cymru.
Bydd cyflwyniadau gan staff a myfyrwyr PhD o Brifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol De Cymru, ar dai ac iechyd, ymwybyddiaeth ofalgar yn y gweithle, a’r dull o gyflwyno dewisiadau bwyd i gwsmeriaid yng nghanolfan newydd Pontio ym Mangor.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mehefin 2014