Edrych yn ôl ar 50 mlynedd o wyddorau cymdeithas
Roedd yn gyfnod euraid i Brifysgol Bangor yr wythnos ddiwethaf wrth i'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ddathlu ei hanner canmlwyddiant.
Ymunodd staff a myfyrwyr o’r gorffennol a'r presennol ar y campws i ddathlu twf a chyflawniad yr ysgol ers ei sefydlu yn 1966.
Dechreuodd fel yr Adran Theori Gymdeithasol a Sefydliadau yn yr hyn a oedd yn Goleg Prifysgol Gogledd Cymru ar y pryd. Yn y flwyddyn gyntaf roedd yno dri aelod o staff ac ychydig dros gant o fyfyrwyr.
Heddiw fel yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, mae'n cynnwys dros 40 o staff, 400 o israddedigion, 50 myfyriwr Meistr a dros 30 o fyfyrwyr ymchwil ôl-radd.
Caiff ei hystyried yn awr fel canolfan gydnabyddedig mewn ymchwil gwyddorau cymdeithas a gosodwyd ymhlith yr 20 sefydliad gorau yn y DU am ymchwil yn y maes (REF 2014). Caiff cryfderau ymchwil yr ysgol eu hamlygu gan ein cyfraniad at ymchwil cydweithredol cenedlaethol fel Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD), Canolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia, yr Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol, yr Uned Ymchwil Arennol Cymru a'r Ganolfan Genedlaethol dros Iechyd a Lles y Boblogaeth.
Denir myfyrwyr ac academyddion o bob rhan o'r byd i'r ysgol, ac mae'n cydweithio'n agos gyda nifer o bartneriaid lleol a rhyngwladol.
Yr wythnos ddiwethaf, dathlwyd y llwyddiannau hyn gyda chinio gwisg ffurfiol ac adloniant gan Gôr y Penrhyn, a chynhadledd yn edrych yn ôl ar yr hanner can mlynedd ddiwethaf o wyddorau cymdeithas.
Roedd y siaradwyr gwadd yn y gynhadledd yn cynnwys cyn-fyfyrwyr Bangor a chyn gydweithiwr sef yr Athro Charlotte Williams OBE (Prifysgol RMIT); Yr Athro Rachel Forrester-Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Tizard ac Athro Cynhwysiant Cymdeithasol, Prifysgol Kent; a dau gyn bennaeth yr ysgol sef Graham Day, Darllenydd Emeritws yn awr; a'r Athro Ian Rees Jones, Cyfarwyddwr WISERD erbyn hyn.
"Cafwyd dau ddiwrnod gwych yn dathlu hanner can mlynedd o wyddorau cymdeithas, ac rydym yn ddiolchgar i bawb a ymunodd â ni gyda'r dathlu," meddai'r Athro Martina Feilzer. "Cawsom ein calonogi gan gryfder y teimladau a fynegwyd gan ein cyn-fyfyrwyr, cyn gydweithwyr, partneriaid a ffrindiau am eu cyfnod ym Mangor a'u cysylltiad â'r ysgol.
"Edrychwn ymlaen at y dyfodol o sefyllfa gadarn gyda nifer y myfyrwyr yn cynyddu, ymchwil sy'n creu effaith a chanlyniadau cryf yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr."
Dyddiad cyhoeddi: 22 Medi 2016