Efallai ei fod yn ‘sbwriel’ – ond mae yn y 5 uchaf
Mae ymgyrch ‘Cynllun Goroesi Llawn Sbwriel’ Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi llwyddo i gyrraedd y pump uchaf mewn cystadleuaeth genedlaethol.
Fe gymerodd Undeb y Myfyrwyr ran yn Her Cyfathrebu The Ecologist gyda ffotograff o’u hymgyrch ‘Cynllun Goroesi Llawn Sbwriel’. Bwriad yr her yw annog undebau myfyrwyr i roi cyhoeddusrwydd i’r ymgyrchoedd a phrosiectau gwych maent yn eu cynnal, ac roedd y cylchgrawn yn chwilio am luniau a lwyddai i addysgu ac ysbrydoli eraill ar bwysigrwydd gweithredu unigol a thorfol mewn materion amgylcheddol.
Esboniodd Rich Gorman, Is-Lywydd Cymdeithasau a Chynaladwyedd Undeb y Myfyrwyr fod yr ymgyrch ‘Cynllun Goroesi Llawn Sbwriel’ “â’r nod o helpu cadw strydoedd Bangor yn lân a thaclus; cael gwared ar sbwriel a gwneud yn siŵr fod gwastraff yn mynd i’r blwch ailgylchu priodol”.
Mae cais Bangor wedi cyrraedd rhestr fer o bum ffotograff o’r holl luniau a gyflwynwyd gan Undebau Myfyrwyr ledled y DU, sy’n gryn gamp. Ond dyw’r gystadleuaeth ddim drosodd eto - fe benderfynir ar yr enillydd drwy bleidlais ar-lein ar wefan The Ecologist yma:
Er mwyn helpu Bangor i ennill y wobr gyntaf, ewch i’r wefan a phleidleisio cyn 12.00 canol dydd ar 11 Mawrth 2011!
Dywedodd Rich Gorman fod cyrraedd y rhestr fer yn “anrhydedd fawr sy’n amlygu’r gwaith amgylcheddol rhagorol a gyflawnir gan gynifer o ymgyrchoedd, clybiau, cymdeithasau a phrosiectau Undeb y Myfyrwyr”.
Bwriad yr ymgyrch ‘Cynllun Goroesi Llawn Sbwriel’, a gaiff ei lansio’n llawn yn fuan, yw cynyddu’r lefel o ailgylchu ymysg myfyrwyr, drwy addysgu myfyrwyr o wahanol siroedd, a gwahanol wledydd o ran hynny, am y drefn ailgylchu yng Ngwynedd. Un o’r prif rwystrau i ailgylchu yw diffyg dealltwriaeth o’r hyn a ellir ac na ellir ei ailgylchu, a beth sy’n mynd i ba flwch.
Bwriad y ffotograff o’r tîm Sabothol etholedig, sy’n arwain Undeb y Myfyrwyr, yw gwneud i ailgylchu ymddangos yn ddifyr ac yn hwyl, yn hytrach na phregethu ar fyfyrwyr.
Y ffotograffydd oedd Mihai Tarmure, myfyriwr Astudiaethau’r Cyfryngau ym Mangor ac aelod o Gymdeithas Ffotograffiaeth Undeb y Myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Chwefror 2011