Effaith negyddol gamblo
A wnaethoch chi erioed ystyried effaith negyddol gamblo ar unigolion, teuluoedd a chymdeithas. Yn rhy aml mae'r ffocws ar y gamblwyr problemus yn unig, ond, yn ddiweddar rydym bellach yn ystyried yr effeithiau ehangach ac mae gamblo'n cael ei ystyried yn broblem iechyd cyhoeddus.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, ddatganiad ysgrifenedig: Rhoi sylw i'r niwed sy’n gysylltiedig â gamblo yng Nghymru. Dywedodd yntau “Yng Nghymru, rydym yn parhau i gymryd agwedd integredig a chydweithredol o ddatblygu polisi ar gyfer gamblo problemus, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac fel yr argymhellir yn yr adroddiad ar y cyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor. ”
Roedd adroddiad y llynedd gan Brifysgol Bangor ac Iechyd Cyhoeddus Cymru'n rhan o ddatganiad diweddar y Gweinidogion Iechyd ar y mater pwysig hwn. Fis Ionawr 2019, o dan arweiniad yr Athro Robert Rogers, Yr Ysgol Seicoleg, cyflwynodd yr adroddiad a oedd yn dwyn y teitl “Gamblo fel mater i iechyd cyhoeddus yng Nghymru” argymhellion ynghylch newid y polisi er mwyn mynd i’r afael â’r her gynyddol hon. Mae rhai o'r argymhellion hyn bellach yn siapio yng Nghymru fel y disgrifiodd y Gweinidog Iechyd. Mae'r camau gweithredu fel a ganlyn:
- Cymryd camau yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
- Integreiddio ymyraethau o ran gamblo â pholisïau iechyd cyhoeddus eraill Llywodraeth Cymru (e.e. iechyd meddwl)
- Cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd
- Cynyddu ymwybyddiaeth a hyfforddiant proffesiynol
I ategu'r adroddiad, cyhoeddodd y tîm fap rhyngweithiol sy'n archwilio sut mae ffactorau risg cymdeithasol, iechyd ac economaidd sy'n gysylltiedig â niwed gamblo wedi eu dosbarthu ledled Cymru. Nid yw'n dangos lle mae gamblo problemus yn digwydd.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Chwefror 2020