Effeithiau Datganoli ar Bolisi Cymdeithasol Cymru
Cyfrol Bwysig am Effeithiau Datganoli ar Bolisi Cymdeithasol Cymru
Mae’n bleser o’r mwyaf gweld bod cyfrol a gyd-olygwyd rhwng Dr Hefin Gwilym, Darlithydd Polisi Cymdeithasol yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas, a Charlotte Williams, yn cael ei thrydedd-argraffu, sef Social Policy for Welfare Practice in Wales (BASW 2021).
Pwrpas y gyfrol yw coffáu ugain mlynedd o ddatganoli polisi cymdeithasol yng Nghymru ers sefydlu’r Cynulliad. Mae’r gyfrol yn bwrw golwg fanwl ar rai o brif ddigwyddiadau’r ugain mlynedd ddiwethaf mewn perthynas â pholisi cymdeithasol Cymru, ynghyd ag edrych ymlaen at bosibiliadau’r degawd nesaf. Cynnwys y gyfrol benodau ar amryw faterion, gan gynnwys iechyd, tlodi a chyfiawnder cymdeithasol. Bydd y gyfrol o ddiddordeb i fyfyrwyr polisi cymdeithasol yng Nghymru a thu hwnt, a hefyd i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol yn ogystal ag ymarferwyr yn y maes lles a gofal cymdeithasol.
Ceir rhagair gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ac ynodywed:
'One of the great things about this edition is that it sees a new generation of Welsh academics writing in this area. There is a handful of survivors from the first two editions, written in a time when the number of people involved in research and writing about social policy in Wales was far smaller. This edition includes contributions from no fewer than 19 different researchers. It is a sign of just how far and how positively the discipline and its subject matter have evolved during the devolution era'.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Chwefror 2021