Efrydiaeth Ddoethurol AHRC mewn Cerddoriaeth
Mae’n bleser gan yr Ysgol Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor gynnig Efrydiaeth dan nawdd AHRC ar gyfer astudiaeth PhD mewn cerddoriaeth, yn cychwyn ym Medi 2013. Mae’r efrydiaeth yn cynnwys ffioedd Cartref/UE yn ogystal â grant cynnal di-dreth ar gyfradd gyfredol Cynghorau Ymchwil y DU, sef £13,590).
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer yr holl brojectau doethurol sy’n dod o fewn y grwpiau ymchwil sefydledig neu gylch gorchwyl diddordebau ymchwil y staff, yn cynnwys cerddoreg, cyfansoddi, cyfansoddi electroacwstig, celfyddydau sonig, a pherfformio.
Ymgeisio
Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno’r canlynol:
- Ffurflen gais ar-lein am y rhaglen PhD
Dylech gyflwyno enghreifftiau o’ch gwaith blaenorol i ategu eich cais, fel y bo’n briodol. - Cynnig ar gyfer y project doethurol arfaethedig (hyd at 2,000 o eiriau, fel dogfen Word neu pdf, i’w anfon at c.leitmeir@bangor.ac.uk ). Dylai hwn ymdrin â’r agweddau canlynol:
(a) cwestiwn ymchwil
(b) cyd-destun y cwestiwn o ran ymchwil
(c) dull
(d) profiad yn y maes a pharodrwydd ar gyfer y dasg
(e) y cyfraniad at wybodaeth a dealltwriaeth y disgwylir iddynt ddeillio o’r project
(f) cyswllt/ cysylltiadau â’r amgylchedd ymchwil a/neu arbenigedd staff ym Mangor
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 3 Mai 2013
Rydym yn disgwyl cyfweld â’r ymgeiswyr ar y rhestr fer yn yr wythnos yn dechrau ar 20 Mai.
Dylech gyfeirio ymholiadau at:
Dr Christian Leitmeir, Cyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-radd (c.leitmeir@bangor.ac.uk)
Cewch fwy o wybodaeth yma:
http://www.bangor.ac.uk/music/postgraduate/ahrc-doctoral-studentship-2013.php.en
Mae'r Ysgol Cerddoriaeth yn bwriadu cyhoeddi ysgoloriaeth arall cyn hir, a fydd yn agored i ymgeiswyr oddi allan i’r UE hefyd.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2013