Efrydiaeth PhD AHRC - Literary Conceptions of Wales in Europe: 1750-2010
Mae Ysgol Graddedigion y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Bangor yn gwahodd ceisiadau am Efrydiaeth PhD AHRC fel rhan o'r project ar y cyd, 'European Travellers to Wales 1750 - 2010' a gyllidir gan yr AHRC ac sy'n cynnwys Prifysgol Bangor, y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a Phrifysgol Abertawe. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio dan oruchwyliaeth y Prif Ymchwilydd, Yr Athro Carol Tully (Ysgol Ieithoedd Modern, Prifysgol Bangor), ac mewn cyswllt agos â Dr Heather Williams, cyd-ymchwilydd (Canolfan Uwchefrydiau Celtaidd, Prifysgol Cymru), cyd-ymchwilydd Dr Kathryn Jones (Prifysgol Abertawe), Swyddog Ymchwil ac un myfyriwr PhD arall wedi'i leoli yn Abertawe. Bydd panel ymgynghorol cryf yn cynnwys arbenigwyr ar lenyddiaeth teithio, ieithoedd modern ac astudiaethau Cymreig.
Mae'r efrydiaeth ar gael i ymgeiswyr a all ddechrau eu hastudiaethau ar unrhyw adeg rhwng 1 Mehefin 2013 a 1 Hydref 2013.
Amlinelliad o’r Project
Bydd y project doethurol hwn yn edrych yn feirniadol ar y ffordd y caiff Cymru ei derbyn a'i disgrifio mewn llenyddiaeth Ewropeaidd, a ddiffinnir yn fras fel ysgolheictod a gwaith creadigol. Bydd y thesis yn rhoi'r prif sylw i ffynonellau Ffrengig ac Almaenig, ond ni chaiff ei gyfyngu i'r rhain chwaith. Bydd y myfyriwr yn edrych ar y ffordd y gwnaeth teithio i Gymru, a'r profiad o ddarllen am Gymru, ddylanwadu ar y ffordd y portreadwyd Cymru a'r diwylliant Cymreig yn y cyfnodau modern a chyfoes. Nod y project yw llenwi bwlch mewn ysgolheictod hyd yma. Mae llawer o waith wedi cael ei wneud ar ddylanwad diwylliant Cymreig ar Ewrop yn yr oesoedd canol a'r cyfnod modern cynnar. Mae nifer o astudiaethau wedi edrych ar y derbyniad ehangach a gafodd yr Alban ac Iwerddon mewn llenyddiaethau Ewropeaidd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif. Fodd bynnag, nid edrychwyd yn fanwl hyd yma ar y ffordd yr ymdriniwyd â Chymru yn y cyfnod hwn. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus edrych ar ystod o destunau o feysydd hanesyddiaeth, ieitheg ac ysgrifennu creadigol a defnyddio damcaniaethau diwylliannol cyfredol i roi'r deunydd yn ei gyd-destun a'i ddadansoddi.
Bydd y PhD hwn yn rhan o broject llawer mwy sy'n archwilio'r ffordd y cynrychiolir Cymru a Chymreictod mewn testunau gan deithwyr Ewropeaidd o 1750 i 2010, gan ganolbwyntio ar bwyntiau allweddol yng nghyfnod moderneiddio Cymru, o'r Chwyldro Diwydiannol i'r cyfnod wedi datganoli (h.y. Y Chwyldro Ffrengig; Rhamantiaeth; diwygiadau crefyddol Cymru, alltudiaeth yn yr 20fed ganrif). O ganol y ddeunawfed ganrif, pan ddaeth llyfrau taith yn boblogaidd fel ffynonellau gwybodaeth ac adloniant, yn aml mae ysgrifennu am Gymru gan Ewropeaid wedi ei ymgorffori mewn disgrifiadau o deithiau i 'Loegr'. Bydd y project presennol yn tynnu'r rhain allan, a thrwy ehangu gorwelion i gynnwys canfyddiadau Ewropeaidd, bydd yn rhoi gogwydd newydd i'r ymdriniaeth ysgolheigaidd bresennol ar ysgrifennu taith, sydd wedi canolbwyntio'n bennaf ar deithwyr Seisnig yng Nghymru.
Lleolir yr ymgeisydd llwyddiannus yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Bangor, lle ceir darpariaeth ragorol i wneud ymchwil ryngddisgyblaethol o'r math yma. Mae'r Ysgol yn cynnal seminarau ymchwil rheolaidd, yn cynnwys seminarau a drefnir gan fyfyrwyr ôl-radd lle maent yn cyflwyno papurau ar eu gwaith. Anogir myfyrwyr ôl-radd hefyd i siarad mewn cynadleddau rhyngwladol a chyhoeddi eu hymchwil. Mae gwybodaeth am yr Ysgol a'r staff ar gael yn: http://www.bangor.ac.uk/ml/index.php.en
Cymhwyster
Dylai bod gan ymgeiswyr record academaidd gadarn, a fydd yn cynnwys Gradd Baglor (neu gyfwerth) mewn maes perthnasol ac, yn ddelfrydol radd Meistr (neu’n astudio at un ar hyn o bryd). Mae gwybodaeth waith dda o'r Ffrangeg ac/neu Almaeneg yn hanfodol. Byddai gwybodaeth o ieithoedd Ewropeaidd eraill yn fantais. Telir ffioedd dysgu myfyrwyr doethurol llawn-amser sy'n gymwys i dderbyn yr efrydiaeth AHRC llawn a byddant hefyd yn derbyn lwfans byw o £13,590 y flwyddyn (dyma'r raddfa ym mlwyddyn academaidd 2012/13). Mae grantiau’r AHRC ar gyfer ymgeiswyr o’r DU a’r UE. Mae’n bosib mai ysgoloriaeth fydd yn talu'r ffioedd dysgu yn unig y bydd ymgeiswyr o’r UE yn ei derbyn. Am fwy o fanylion am gymhwyster cyfeiriwch at Adran 7 ac Atodiad A y ddogfen ganlynol:
http://www.ahrc.ac.uk/FundingOpportunities/Documents/GuidetoStudentFunding.pdf
Trefn Ymgeisio
Dydd Llun 29 Ebrill 2013 yw’r dyddiad cau am geisiadau a chynhelir cyfweliadau ym Mai. Rhaid i ymgeiswyr wneud cais gan ddefnyddio Ffurflen Gais Ar-lein y Brifysgol i Ôl-raddedigion sydd ar gael yma
Dylech ddarparu'n electronig yr holl ddogfennau ategol y gofynnir amdanynt yn y ffurflen gais ar-lein, yn cynnwys cynnig ymchwil (dim mwy na 1000 o eiriau), sy'n ymateb i amlinelliad y project ac sy'n rhoi manylion am eich sgiliau a'ch profiad ymchwil perthnasol (yn cynnwys, er enghraifft, ddisgrifiad byr o'ch rhaglen astudio mewn prifysgol hyd yma).
I gael rhagor o wybodaeth am yr ysgoloriaeth hon ac am y ffurflen gais electronig, cysylltwch ag iwan.davies@bangor.ac.uk, Gweinyddwr Ôl-radd, Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG.
Os oes gennych ymholiadau am y project, cysylltwch â'r Athro Carol Tully.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Chwefror 2013