Efrydiaeth PhD wedi'i chyllido'n llawn mewn Moderniaeth Lenyddol / Modernedd: Cymru Seisnigedig
Ysgol Graddedigion y Celfyddydau a'r Dyniaethau
Prifysgol Bangor – Efrydiaeth PhD 125 Mlwyddiant
Mae Ysgol Graddedigion y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Bangor yn gwahodd ceisiadau am Efrydiaeth PhD wedi’i chyllido’n llawn ym maes moderniaeth a/neu fodernedd mewn llenyddiaeth. Rhaid i’r astudiaeth arfaethedig, a all fod yn gymharol, gynnwys ffocws sylweddol ar destunau o’r Gymru Seisnigedig. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio dan oruchwyliaeth Dr Andrew Webb, yr Athro Tony Brown a Dr Tomos Owen (y cyfan o Ysgol y Saesneg, Prifysgol Bangor). Dylai pob cais ymwneud â modernedd mewn llenyddiaeth a/neu Modernedd yng nghyswllt Cymru Seisnigedig.
Mae’r efrydiaeth ar gael i ymgeiswyr a all gychwyn ar eu hastudiaethau cyn gynted ag y bo modd ar ôl 1 Hydref 2013.
Cewch fwy o wybodaeth ar ein gwefan Ysgoloriaethau...
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2013